Dysgu Cymraeg

Dysgu Cymraeg

Dewch i mewn

    Croeso i S4C! Neu groeso'n ôl, os dych chi wedi bod bant am sbel.

    Os dych chi'n cymryd eich camau cyntaf i ddysgu Cymraeg, eisiau gwella eich sgiliau yn yr iaith, neu'n chwilfrydig, 'dyn ni wrth ein boddau eich bod chi wedi ymuno â ni ar yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.

    Ar y wefan hon mae'r holl wybodaeth dych chi angen i deimlo'n gartrefol gyda S4C.

    Os bydd unrhyw beth arall fasai'n ddefnyddiol i chi, rhowch wybod!

    Mae'n synnu llawer o bobl sy'n cymryd eu camau cyntaf yn y Gymraeg bod 'na diwylliant Cymraeg gwahanol a bywiog, sydd efallai yn hollol newydd i chi. 'Dyn ni'n gobeithio bod S4C yn gallu bod yn ddrws i chi i mewn i'r byd hwn, a byddwn ni'n trio'n galed i'ch helpu pan fyddwch chi'n cychwyn ar eich taith.

      Dysgu Cymraeg

      O Duolingo i Memrise a thu hwnt, mae pob math o apiau a gwefannau ardderchog ar gael ar y we i'ch helpu i ddysgu Cymraeg. Mae S4C yma i chi ar bob cam o'ch taith chi, a bydd ein rhaglenni yn eich helpu chi i ddod i adnabod a mwynhau holl seiniau, acenion a thafodieithoedd ein hiaith brydferth. 'Dyn ni ddim yn darparu cwrs Cymraeg penodol – mae'n well gennym ni adael hynny i'r arbenigwyr – ond byddwn ni'n gwneud popeth sy'n bosibl i ddarparu cynnwys i'ch cefnogi chi.

      Os dych chi'n dod aton ni fel eich cam cyntaf, efallai byddwch chi eisiau ymweld â'n partneriaid bendigedig, sy'n cynnig cyrsiau ac adnoddau i'ch helpu chi i ddysgu, lle bynnag yn y byd dych chi.

      • Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Genedlaethol

        Dysgu Cymraeg

        Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Genedlaethol

        Am gyrsiau ac adnoddau i helpu chi wrth ddysgu, ewch i wefan Dysgu Cymraeg.

      • SaySomethinginWelsh

        Hyfforddi selebs Iaith ar Daith

        SaySomethinginWelsh

        Gall SaySomethinginWelsh helpu chi wrth ddysgu Cymraeg, ewch draw i weld beth sydd ar gael.

      Beth all S4C gynnig i mi?

      Yn y lle cyntaf, mae sianel teledu gyda ni sy'n darlledu 18 awr y dydd, bob dydd. Gydag amrywiaeth eang o gynnwys mae yna wirioneddol rhywbeth i bawb.

      Mae'r holl raglenni wedyn ar gael i'w gwylio ar alw ar S4C Clic a/neu BBC iPlayer.

      Mae yna wybodaeth ar ein gwefan yma i'ch helpu chi i ddod i adnabod y cynnwys ac i benderfynu lle dych chi am ddechrau gwylio.

      Wedyn, mae cynnwys arbennig i chi ar ein cyfryngau cymdeithasol. Dyma fideos byr i gefnogi eich dysgu – perffaith i'w gwylio tra eich bod chi'n gwneud paned neu aros am y bws! Dilynwch ni ar YouTube, Instagram, X neu TikTok i gael cynnwys newydd drwy'r amser.

      • Sut i Wneud...Peli Straen Cartref | Homemade Stress Balls

        Lefel: Mynediad

        Beth am gael hwyl yn creu Peli Straen Cartref!

        📒 Lefel: Mynediad

      • Garddio Gydag Adam | Hau a Thrawsblannu | Sowing and Transplanting

        Lefel: Sylfaen

        Mae Adam yn rhannu ei dipiau hau a thrawsblannu, wrth iddo dyfu Melyn Mair Ffrengig; un o'i hoff flodau yn yr ardd.

        📗 Lefel: Sylfaen


      • Blas o…Bwrdd i Dri | Rholyn Selsig Lloyd

        Lefel: Canolradd

        Mae Lloyd Lewis yn 'fellten ar y maes chwarae ond yn fynach yn y gegin', wrth iddo baratoi Rholyn Selsig yn Bwrdd i Dri! Mae'n edrych yn hyfryd Lloyd!

        📘 Lefel: Canolradd

      • YouTube

        S4C Dysgu Cymraeg

        YouTube

        O goginio, i grefft, i ffasiwn, a llawer mwy - mae yna lwyth o gynnwys i ddysgwyr a siaradwyr newydd ar YouTube S4C Dysgu Cymraeg.

      Cyfryngau Cymdeithasol

      Os dych chi eisiau awgrymiadau o bethau i'w gwylio – yn ogystal â geiriau defnyddiol, gwybodaeth ar bobl adnabyddus, a mwy – cofrestrwch am ein cylchlythyr dysgu Cymraeg. Byddwch yn derbyn e-bost bob mis, gyda Chymraeg syml ar un ochr a'r Saesneg ar yr ochr arall, felly cyfle i chi ymarfer darllen ar yr un pryd!

      Mae yna fwy o wybodaeth ar ein gwefan yma.

      Gwasanaeth newyddion dysgwyr

      Mae gwylio a darllen y newyddion yn ffordd wych i ddysgu a gwella sgiliau Cymraeg – mae'n gyfle i ddefnyddio tipyn bach o Gymraeg bob dydd. Ar ein gwefan ac app Newyddion S4C (Apple iOS ac Android) mae tab "Dysgu Cymraeg", gyda chymorth ychwanegol i ddysgwyr.