S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Dysgu Cymraeg

Isdeitlau

Mae isdeitlau yn gymorth hanfodol i ni allu sicrhau mynediad at ein rhaglenni i bawb, ac maen nhw hefyd yn adnodd defnyddiol iawn i'r rheiny sy'n dysgu neu'n gwella sgiliau iaith.

Os dych chi'n gwylio ein rhaglenni ar deledu llinol neu arferol, neu ar BBC iPlayer, dych chi'n gallu troi is-deitlau Saesneg ymlaen. Ond os dych chi'n gwylio ar wasanaeth S4C Clic mae hefyd yr opsiwn o gael isdeitlau Cymraeg ar y rhan fwyaf o'n rhaglenni, sy'n cynnig llawer o bosibiliadau.

    Dych chi'n gallu bod yn hyblyg a defnyddio'r isdeitlau i'ch helpu mewn nifer o ffyrdd gwahanol a dyma rai syniadau

    • Ewch amdani, felly, a throi'r is-deitlau Saesneg ymlaen. Ar ôl tipyn o amser byddwch chi'n dechrau adnabod seiniau'r geiriau sy'n cyd-fynd â beth dych chi'n gallu gweld ar y sgrin. Dych chi wedi dysgu tipyn o Gymraeg! Bydd eich ymennydd yn gweithio'n galed i brosesu'r seiniau'r iaith heb i chi sylweddoli.
    • Pam lai gwylio darn heb unrhyw isdeitlau, wedyn ail-wylio gyda'r isdeitlau Cymraeg i weld os yw'n eich helpu chi i ddeall mwy, ac yn olaf ail-wylio gyda'r Saesneg i weld pa mor dda dych chi wedi gwneud. Neu ddechrau gyda dim ond y Gymraeg i'ch helpu.
    • Peidiwch â dechrau gyda'r opsiwn haws, felly; er ei bod yn her, os dych chi'n diffodd yr isdeitlau bydd eich ymennydd yn dibynnu ar yr hyn dych chi'n gallu ei glywed yn unig, ac mae hynny'n ymarfer gwych i'ch helpu i baratoi ar gyfer siarad Cymraeg yn y byd go iawn. Wedyn 'dych chi'n gallu ail-wylio gyda'r isdeitlau er mwyn deall y manylion.
    • Defnyddiwch yr isdeitlau Cymraeg (naill ai yn syth, neu ar yr ail dro) er mwyn eich helpu chi i ddysgu sut mae'r geiriau yn cael eu hysgrifennu hefyd.
    • Mae'r isdeitlau yna i chi eu rhoi nhw ymlaen neu ddiffodd unrhyw bryd dych chi angen tipyn bach mwy neu lai o gymorth.
    • Bydd yr isdeitlau Cymraeg ddim yn help mawr i chi deall beth maen nhw'n ei ddweud, ond cymerwch sylw o'r darnau nad o'ch chi'n eu deall ac wedyn gwyliwch eto gyda'r isdeitlau Saesneg i weld lle mae'r gwahaniaethau. Wedyn, pan dych chi'n cwrdd â rhywun yn y byd go iawn sy'n siarad yn yr un modd, gallwch chi fod yn hyderus i gael sgwrs gyda nhw, hyd yn oed os dych chi'n dweud pethau ychydig yn wahanol.

Os dych chi ddim yn deall pob gair pan dych chi'n dechrau gwylio heb isdeitlau, mae hynny'n hollol normal – am sbel bydd yn teimlo fel dych chi'n dditectif sy'n dilyn y cliwiau yn y geiriau dych chi wedi eu deall. Ond os dych chi'n gallu dod i arfer â'r teimlad braidd yn anghyfforddus hwn, bydd yn gwella eich dealltwriaeth o Gymraeg llafar yn gyflymach. Ar ôl ychydig o wythnosau, ewch yn ôl at y rhaglen gyntaf wylioch chi heb isdeitlau, a bydd yn eich synnu chi faint dych chi'n gallu ei ddeall!

  • Isdeitlau Cymraeg

    Isdeitlau Cymraeg

    Mae'r gwasanaeth isdeitlau Cymraeg wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Cymraeg, ac i bobl f/Fyddar Cymraeg eu hiaith i fwynhau rhaglenni Cymraeg S4C.

  • Isdeitlau Saesneg

    Isdeitlau Saesneg

    Mae'r isdeitlau yn addas ar gyfer y di-Gymraeg, aelwydydd ieithyddol cymysg a phobl f/Fyddar.

  • Arwyddo

    Arwyddo

    Mae rhai rhaglenni ar S4C yn cael eu dangos gydag arwyddwr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn.

  • Sain ddisgrifio

    Sain ddisgrifio

    Mae gwasanaeth sain ddisgrifio ar gael ar gyfer y deillion a'r rhannol ddall. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys disgrifiadau ychwanegol sy'n cyfoethogi mwynhad y gwyliwr.

Byrlwybr Teipio

Os dych chi'n gwylio S4C Clic ar gyfrifiadur, mae'n bosib i chi ddefnyddio byrlwybr teipio (keyboard shortcuts) er mwyn toglo rhwng y mathau gwahanol o isdeitlau, yn ogystal â neidio ymlaen neu yn ôl a chymryd saib.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?