Cyfres newydd gyda steilio diri! Yn y rhaglen hon welwn ni berson haeddiannol yn cael gweddnewidiad, llond lle o dips a thiwtorial colur ar gyfer achlysur arbennig. Ma' Menna wedi hen flino ar ei dillad ac yn awyddus i ddod o hyd i sdeil newydd - ond ma' Owain Williams a Cadi Matthews yn ffeindio hi'n anodd cael Menna I groesawu dillad gwahanol i'r arfer.
Mae Tara Bethan, Seren Jones a Lara Catrin yn edrych yn ôl ar un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous Cymru. Bydd cerddoriaeth, bwrlwm, sgyrsiau a chyfle i weld wynebau hen a newydd o Gastell Caerdydd. Ymunwch â ni ar gyfer rhaglen uchafbwyntiau i fwynhau rhai o berfformiadau mwyaf cofiadwy penwythnos Tafwyl 2022.
Yn y rhaglen arbennig hon o Geredigion bydd Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Sion Tomos Owen yn darganfod beth sydd gan Aberaeron i'w gynnig. Bydd Heledd yn profi peth o gyffro tu ôl i'r llenni pantomeim Theatr Felinfach, bydd Iestyn yn cael tro yn chwarae coets, a bydd Sion ar drywydd cymeriadau lleol lliwgar, Dafydd Gwallt Hir a Mari Berllan Bitar.