29 Tachwedd 2024
Nodyn i'ch hysbysu bydd taliadau olaf y flwyddyn hon yn cael eu gwneud ar Ddydd Mercher 18fed o Ragfyr 2024.
I sicrhau bydd cwmnïau yn cael ei thalu ar y dyddiad hwn, bydd angen i anfonebau gyrraedd yr Adran Gyllid erbyn 12 y prynhawn ar Ddydd Mawrth 17eg o Ragfyr. Gallwch anfon anfonebau dros e-bost at taliadau@s4c.cymru.
Bydd y taliad BACS cyntaf ar ôl Nadolig yn cael ei wneud ar Ddydd Llun 6ed o Ionawr 2025. Bydd angen i ni dderbyn anfonebau ar gyfer y taliadau yma erbyn 12 y prynhawn ar Ddydd Gwener 3ydd o Ionawr 2025.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Mae'r rhestr golau gwyrdd sydd yn cynnwys comisiynau diweddaraf S4C bellach ar y wefan.
Yn anffodus oherwydd problem dechnegol nid yw'r system PAC 'Taflen Gerddoriaeth' yn gweithio.
Mae'r technegwyr yn edrych i ddatrys y broblem mor fuan â phosib
Diolch am eich cydweithrediad
S4C
Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am ffilmiau dogfen i'w cyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau straeon fydd yn ysbrydoli, rhyfeddu, codi gwen, ffilmiau mentrus sy'n defnyddio ffurf ddogfen gwbl gyfoes.
Rydym yn awyddus i gael syniadau am straeon pobl ifanc eithriadol all fynd â gwylwyr mewn i fyd arall gyda naratif sy'n datblygu yn y foment; dogfennau gyda digon o hiwmor sydd cwestiynu a phrocio hunaniaethau Cymru; dogfennau sydd yn ceisio rhoi darlun bositif o amrywiaeth eang profiadau siaradwyr Cymraeg (neu siaradwyr ieithoedd eraill Cymru). Mae diddordeb mawr genym am storiau sydd wedi cael ei arwain gan fenwyod a phobl o gefndiroeth sy'n cael ei tan-gynrychioli.
Dydd Mercher 19/6 lawnsiwyd diweddariadau i feddalwedd system ar-lein PAC S4C - https://pac.s4c.cymru/ -
Mae rhain yn cynnwys nifer o welliannau i brofiad y defnyddiwr a gwelliannau ymarferol fel y nodir isod
Yn dilyn cyflwyno polisi cyfryngau cymdeithasol newydd ym mis Chwefror, rydym wedi cyhoeddi nodyn esboniadol sydd i'w weld yma. Amcan y nodyn yw i fanylu ymhellach ar safbwynt a disgwyliadau S4C o ran y defnydd personol o'r cyfryngau cymdeithasol gan y sawl sydd yn gweithio ar gynnwys S4C. Rydym hefyd yn gobeithio medru cynnal hyfforddiant drwy TAC yn y dyfodol agos.
Yn dilyn cyhoeddi Etholiad Cyffredinol, mae S4C wedi cyhoeddi canllawiau Canllawiau Rhaglenni Etholiad Cyffredinol 2024 ar ei safle cynhyrchu. Mae'r rhain yn esbonio'r rheolau sy'n berthnasol i gynnwys yn ystod y cyfnod rhwng nawr a'r Etholiad.
Cronfa fuddsoddi newydd yw Cronfa Twf Masnachol S4C sy'n cael ei sefydlu o fewn Braich Cyfryngau Digidol S4C. Bydd y Gronfa yn buddsoddi mewn busnesau sy'n cyd-fynd yn agos â nodau strategol hirdymor S4C ac sy'n gallu dangos y cyfle a'r potensial ar gyfer twf. Bydd y gronfa'n gweithredu fel catalydd ar gyfer y twf hwnnw ac yn chwarae rhan amlwg wrth harneisio potensial sylweddol y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio yn y sector creadigol yng Nghymru. Mae straeon lleol gwych, wedi'u hadrodd yn dda, yn mynd y tu hwnt i dir ac iaith er mwyn i gynulleidfaoedd byd-eang eu mwynhau.
O lwyddiant Y Ferch Dawel yn y Wyddeleg i Dal Y Mellt gan S4C ar Netflix, mae'r tir wedi ei fraenaru ar gyfer cynnwys gwreiddiol nad yw yn Saesneg.
Crëwyd y Gronfa Cynnwys Masnachol gan S4C Rhyngwladol i lwyr wireddu cyfleoedd masnachol newydd i gynnwys a chynhyrchwyr gwych S4C – yn rhyngwladol ac ar lwyfannau gwahanol.
Pa bynnag faes creadigol rydych chi'n rhan ohono, hoffem glywed gennych chi i weld a allwn ni helpu i ddod o hyd i farchnad i'ch syniad.
Bydd rhif EPG S4C ar Virgin Media tu allan i Gymru yn newid o 166 i 164 ar 4 Gorffennaf 2023. Bydd S4C yn parhau ar 104 yng Nghymru.
Gofynnwn i unrhyw gynhyrchwyr sy'n hyrwyddo rhifau sianel S4C mewn rhaglenni, er enghraifft rhaglenni chwaraeon, i adlewyrchu'r rhif newydd o 4 Gorffennaf ymlaen.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.