Mae gwewyr Efan yn parhau, a gyda Llyr yn mynd i ffwrdd am sbel mae'n teimlo'n fwy simsan nag erioed, a'r dasg o guddio ei gyfrinach ofnadwy yn pwyso'n drwm. Caiff byd Caitlin druan ei droi a'i ben i lawr unwaith eto wrth i'w gwynfyd rhamantus gael ei chwalu'n llwyr gan newyddion annisgwyl. Mae Mair yn dal i ddioddef yn sgil gweithredoedd ei mam ac yn teimlo cywilydd mawr yn yr ysgol. Caiff Sophie bryd o dafod sy'n peri embaras ac erbyn diwedd y dydd mae'r ddwy ar drywydd gwrthdaro.
Mae bwrlwm yn Ysgol Uwchradd Glanrafon wrth i ddisgyblion ac athrawon baratoi at y Ffair Aeaf. Ond pan mae lleidr yn dwyn un o wobrau'r raffl, mae pedwar disgybl yn gorfod treulio amser yn y 'stafell gosb nes bod rhywun yn cyfaddef¿.ond pwy sy'n euog' Drama gomedi spinoff gan Rownd a Rownd.