Cymorth

Cymorth

Croeso i dudalennau Cymorth S4C

  • Defnydd alcohol a chyffuriau

    Gwybodaeth yma a all helpu pobl sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan ddefnydd problematig o alcohol neu gyffuriau, yn cynnwys teuluoedd a gofalwyr.

  • Torri lawr ar eich yfed

    Cyngor a manylion mudiadau a ellir helpu chi dorri lawr os ydych yn poeni am eich yfed.

  • Stelcian

    Gellir stelcio gael ei ystyried fel cyfres o weithredoedd bwriadol o ddilyn, gwylio ac aflonyddu ar berson arall. Mae'r hyn fel arfer yn digwydd dros gyfnod o amser, ac yn achosi braw i'r person sy'n cael ei aflonyddu.

    Mwy o gefnogaeth a gwybodaeth ar ein tudalen.

  • Colled trwy ddamwain car

    Manylion cefnogaeth os yw damwain car wedi cael effaith ar eich bywyd.

  • Iechyd a Lles Rhywiol

    Gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd a lles rhywiol.

  • Adnoddau Iechyd Meddwl

    Casgliad o adnoddau defnyddiol i'ch helpu gyda iechyd meddwl.

  • Colled a galar

    Mae manylion y mudiadau a'r llinellau cymorth canlynol i'ch helpu os ydych chi neu rhywun agos i chi wedi colli rhywun ac angen help, cefnogaeth neu clust i wrando.

  • Hunan laddiad

    Gwybodaeth a chefnogaeth. Manylion sawl rhif ffôn am help yn syth.

  • Cymorth i ddioddefwyr trais

    Manylion mudiadau all helpu

  • Creulondeb i anifeiliaid

    Gwybodaeth a chefnogaeth

  • Canser

    Mae canser yn rhywbeth mae'r rhan fwyaf ohonom yn mynd i ddod ar draws ar ryw bwynt yn ein bywydau. Help a chefnogaeth.

  • Colli plentyn

    Mae colli plentyn am unrhyw reswm yn un o'r profiadau mwyaf ysgytwol phosib, ac fel arfer mae angen llawer o help a chefnogaeth i ddelio gyda'r broses galaru. Cefnogaeth ar gael yma.

  • Adnoddau troseddau gwrth-gasineb

    Adnoddau amrywiol a chefnogaeth i ddelio gyda rhagfarn neu casineb ar sail hil, crefydd, rhyw neu anabledd, a safbwyntiau eithafol eraill.

  • Trais yn y cartref

    Gall camdriniaeth gymeryd sawl ffurf, ond pan mae'n troi'n rhywbeth corfforol gan rhywun agos, gall fod yn sefyllfa beryg iawn. Gall ddigwydd i ddynion neu merched, er mae'n tueddu fod yn fwy cyffredin i ferched ddioddef oherwydd hyn.

  • Dementia

    Help a chefnogaeth i'r sawl sy'n byw gyda'r cyflwr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

  • ADCG

    Help i bobl sy'n byw gydag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfwyiogrwydd (ADCG)

  • Gamblo

    Cymorth a chefnogaeth os os ydych yn amau eich bod chi neu rhywun rydych yn ei adnabod gyda problem gamblo.

  • Ffrwythlondeb

    Help a chefnogaeth gyda problemau beichiogi, yn cynnwys mwy o fanylion am driniaethau fel IVF.

  • Cadw'n Saff Ar-lein

    Cefnogaeth a gwybodaeth i bobl ifanc ac oedolion ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein.

  • Epilepsi

    Cymorth ac adnoddau os ydych yn byw gydag epilepsy.

  • Camdriniaeth

    Adnoddau i genfnogi pobl - dynion, merched, plant a phobl ifanc - sydd yn dioddef trais neu sydd eisiau dweud am droseddu treisiol neu rhywiol o unrhyw fath, yn cynnwys cael eu hecsbloetio'n rhywiol.

  • Endometriosis

    Gwybodaeth pellach a manylion cymorth yma.

  • Y Menopos

    Gwybodaeth a chefnogaeth.

  • Anhwylderau bwyta

    Help a chymorth gyda gwahanol fathau o anhwylder bwyta, yn enwedig os mae'n effeithio un ai'ch bywyd chi neu rywun agos.

  • Unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol

    Gall unigrwydd a theimlo'n ynysig yn deimladau cyffredin, i bob oedran. Adnoddau yma sy'n esbonio'r gwahaniaeth rhwng mathau o unigrwydd a a theimlo'n ynysig, yn ogystal â manylion pellach adnoddau cefnogol..

  • Iselder

    Gwybodaeth a chefnogaeth gydag iselder.

  • Hunan-niweidio

    Cefnogaeth a gwybodaeth bellach.

  • Cefnogaeth Cefn Gwlad

    Adnoddau a chefnogaeth i bobl sy'n ffermio neu'n byw yng nghefn gwlad.

  • Cefnogaeth LHDTC+

    Adnoddau a chefnogaeth i gymunedau LHDTC+

  • Cyfeiriadedd rhywiol

    Os ydych chi efallai gyda cwestiynnau am rhywioldeb eich hunain, ac yn edrych am gyngor neu gymorth, hwn yw'r lle i ddod. Hefyd, gwybodaeth ar sut i ddelio gyda homoffobia.

  • Hunaniaeth rhyw

    Help a chefnogaeth gyda materion hunaniaeth rhyw.

  • Iselder ôl-enedigol

    Mae iselder ôl-enedigol yn effeithio ar famau newydd, fel arfer yn ymddangos o fewn y flwyddyn gyntaf ar ôl genedigaeth, gan achosi anawsterau emosiynol ac anhawster bondio â'r babi.

  • Anhwylder Straen wedi Trawma

    Gwybodaeth a chefnogaeth os ydych yn byw gyda PTSD.

  • Byw'n dda gydag anabledd

    Mae yna lawer o fudiadau yng Nghymru a thu hwnt sy'n ceisio sicrhau fod pobl sy'n byw gydag anabledd yn cael chwarae teg i fyw bywydau llawn ac mor annibynnol â phosib. Gwybodaeth yma ar bob agwedd o fyw bywyd llawn gydag anabledd.

  • Babanod cynamserol

    Gwybodaeth a chefnogaeth os yw babi wedi ei eni cynamser.

  • Adnoddau gwrth-hiliaeth

    Adnoddau a chefnogaeth gwrth-hiliol

  • Gor-bryder

    Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n bryderus o bryd i'w gilydd, ond gwybodaeth a chefnogaeth yma os yw'n ymyrryd â'ch gweithgareddau o ddydd i ddydd.

  • Cefnogaeth ar ôl llawdriniaeth

    Defnyddir sawl math o lawdriniaeth i drin cyflyrau a all effeithio unrhyw ran o'r corff, felly bydd y math o gefnogaeth yn amrywio yn ôl y llawdriniaeth. Dyma rai adnoddau a allai helpu i gefnogi eich gwellhâd.

  • ARFID

    Anhwylder bwyta yw ARFID - Avoidant Restrictive Food Intake Disorder. Manylion a cymorth yma.

  • Gofalwyr

    Mae miloedd o bobl yn gofalu am eraill ar draws Cymru. Ceir manylion mudiadau ac elusennau i gefnogi nhw yma.

  • Sbeicio diodydd

    Mae sbeicio diod yn golygu rhoi alcohol neu gyffuriau yn niod rhywun heb yn wybod iddynt neu heb ganiatâd, er mwyn eu hanalluogi mewn rhyw ffordd. Mae hyn yn beryg ac yn gwbl anghyfreithlon.

  • Bwlio

    Mae bwlio'n digwydd i bob math o bobl ac am bob math o resymau, dim ots beth yw'r oed. Gall ddigwydd yn yr ysgol, yn y gweithle ac yn y cartref. Gwybodaeth a chefnogaeth.

  • Cefnogaeth ar ôl trawiad ar y galon

    Manylion am wybodaeth pellach a cefnogaeth ar ôl trawiad.

  • Cefnogaeth i strôc

    Cyngor a chefnogaeth i bobl sydd wedi cael strôc neu byw gyda sgil-effeithiau'r cyflwr.

  • Maethu a mabwysiadu

    Maethu yw cynnig cartref i blentyn am gyfnod, tra bod mabwysiadu yn golygu cynnig cartref newydd, sefydlog gyda theulu. Rhaid i'r plentyn fod llai na 18 oed ac mewn sefyllfa lle nad yw dychwelyd at ei rieni yn ddewis posibl. Gwybodaeth a chefnogaeth ar gael yma.

  • Cefnogaeth caledi

    Manylion cefnogaeth os ydych yn gwynebu caledi ariannol.

  • Tyfu fyny

    Gwybodaeth a cefnogaeth amrywiol i bobl ifanc ar ystod o bynciau.

  • Byw gyda colli golwg

    Mudiadau sy'n cynnig help a chefnogaeth i pobl sydd wedi colli eu golwg yn ddifrifol, ac yn ceisio sicrhau annibyniaeth a gwell safon byw i bobl gyda phroblemau gweld.

  • Canser y prostad

    Cymorth a gwybodaeth am y canser mwyaf cyffredin i ddynion.

  • Sglerosis Ymledol

    Mae sglerosis ymledol yn glefyd niwrolegol sy'n effeithio ar tua 6,000 o bobl yng Nghymru. Mwy o wybodaeth a cefnogaeth i gael yma.

  • Dewisadau os yn feichiog

    Help a chefnogaeth gyda dewisiadau os yn feichiog.

  • Diogelwch ar y dŵr

    Bob blwyddyn, mae pobl yn colli eu bywydau unai oddi ar dyforedd arfordirol neu mewndirol Cymru. Manylion yma am sut i gadw'n sâff ac i atal damweiniau ar y dŵr.

  • Cyflyrau Niwrolegol

    Mae yna miloedd o bobl yn byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru, a ceir gwybodaeth yma am sawl mudiad neu elusen sy'n cynnig cefnogaeth.

  • Clefyd Niwronau Motor

    Clefyd sy'n achosi gwendid cynyddol yn llawer o gyhyrau'r corff. Mwy o wybodaeth a chefnogaeth yma.

  • Syndrom Tourette

    Cefnogaeth a gwybodaeth pellach i bobl sy'n byw gyda Syndrom Tourette.

  • Cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches

    Manylion mudiadadau sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth i ffoaduriad a cheiswyr lloches yng Nghymru.

  • Hunan-ddelwedd

    Cymorth a chefnogaeth os ydych yn cael trafferth gyda hunan-ddelwedd.

  • Canser y gaill

    Mae canser y gaill yn ganser sy'n effeithio dynion ifanc neu ganol oed gan fwyaf, ond os yw'n cael ei ddarganfod yn ddigon cynnar, mae 'na bob posibilrwydd gwella. Gwybodaeth a chefnogaeth.

  • Dystonia

    Cyflwr niwrolegol gyffredin yw dystonia. Cefnogaeth a gwybodaeth yma.

  • Galar a COVID-19

    Yn y cyfnod anodd yma, manylion cefnogaeth arbenigol i bobl sydd wedi colli rhywun agos.

  • Adnoddau ychwanegol Covid 19

    Adnoddau ychwanegol i'ch helpu yn ystod cyfnod yn pandemig.

  • Deg argymhelliad os yw eich perthynas hŷn wedi hunan-ynysu

    Awgrymiadau ymarferol ar beth i wneud o ddydd i ddydd yn y sefyllfa yma.

  • Perthnasoedd teuluol anodd

    Tydi hi ddim o hyd yn hawdd byw mewn teulu. Gall perthnasoedd fod yn anodd, ac mae angen help ambell waith i ffeindio ffordd drwy gyfnodau o straen neu digwyddiadau sy'n peri anhaster a theimladau cas.

  • Cael plentyn drwy fam fenthyg

    Mae cael plentyn drwy dod i gytundeb gyda mam fenthyg yn gyfreithlon yn y DU, ond nid yw'n bosib gorfodi'r fath gyrundeb trwy'r gyfraith. Mwy o wybodaeth am gefnogaeth ar gael yn drwy'r dolenni yma.

  • Coronafeirws ac hunan-ynysu

    Mae'r sefyllfa bresennol gyda phandemig COVID 19 yn amlygu materion o gwmpas unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, wrth i bobl o bob oed fynegi pryderon am hunan-ynysu. Ceir awgrymiadau a'r sut i ymdopi a'r sefyllfa a manylion cefnogaeth pellach yma.

  • Deg awgrym os ydych chi'n gofalu am berson â dementia ac yn methu gadael y tŷ

    Awgrymiadau ymarferol ar beth i wneud o ddydd i ddydd yn y sefyllfa yma.

  • Naw argymhelliad os yw aelod o'ch teulu ar ei ben ei hun yn yr ysbyty.

    Help a cyngor os oes rhywun rydych chi'n ei adnabod yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwn.

  • Rhoi cartref i gi

    Gwybodaeth a chyngor ar sut i roi cartref newydd i gi.

  • Gwybodaeth am Coronafeirws

    Gwybodaeth safonol am y feirws a beth i wneud yn ymaferol. Bydd mwy o dudalennau i'ch helpu dros y dyddiau i ddod.

  • Delio gyda hiliaeth

    Cefnogaeth os ydych chi neu rhywyn agos wedi gorfod delio gyda unrhyw fath o hiliaeth.

  • Byddardod

    Adnoddau i bobl sy'n byw gyda byddardod.

  • Iechyd yr arennau

    Gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn cynnal iechyd yr arennau.

  • Dyslecsia

    Gwybodaeth a chefnogaeth os ydych yn byw gyda dyslecsia, math o anhawster dysgu.

  • Awtistiaeth ac Asbergers

    Gwybodaeth a chefnogaeth i'r sawl sy'n byw gydag awtistiaeth neu asbergers.

  • Rhoi organau

    Mwy o wybodaeth am roi organau yng Nghymru.

  • Canser y fron

    Yng Nghymru, canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin i ferched, yn bennaf i ferched dros pumdeg. Er hyn, unwaith mae wedi cael ei ddarganfod, mae'r siawns o oroesi'r canser yma yn uchel ac yn gwella bob blwyddyn. Help and chefnogaeth yma.

  • Meigryn

    Cefnogaeth a chymorth os ydych yn dioddef o feigryn.

  • Help gyda cyflyrau croen

    Help a chefnogaeth os ydych chi'n byw gyda chyflyrau croen, gan gynnwys acne a soriasis.

  • Cyflyrau genynnol

    Gwybodaeth a chefnogaeth am ystod o gyflyrau genynnol etifeddol.

  • Heneiddio'n dda

    Adnoddau i helpu a chefnogi heneiddio'n dda yng Nghymru.

  • Enseffalomyelitis Myalgic (ME)

    Gwybodaeth a chymorth gyda Syndrom Blinder Cronig (ME).

  • Cadw'n Saff rhag Sgams

    Gwybodaeth ar sut i gadw'ch hun yn ddiogel rhag sgams.

  • Mudiadau dyngarol

    Gwybodaeth am fudiadau sydd gyda gweledigaeth dyngarol eang.

  • Diabetes

    Mae diabetes yn gyflwr cronig sydd yn cael ei achosi oherwydd bod y corff methu prosesu'r siwgr, neu glwcos, sydd yn y gwaed. Gwybodaeth a chefnogaeth.

  • Anabledd dysgu

    Manylion mudiadau a allai helpu os ydych yn byw gydag anabledd dysgu.

  • Alergedd

    Help a chefnogaeth i bobl sy'n byw gydag alergedd.

  • Crohn's a Colitis

    Dau fath o glefyd llidus y coluddyn yw Afiechyd Crohn a Colitis. Mwy o wybodaeth a chefnogaeth ar gael yma.

  • Gor-bryder Cymdeithasol

    Gall Anhwylder Gor-bryder Cymdeithasol, sy'n aml yn cael ei alw'n ffobia cymdeithasol, olygu ofn hir-dymor a llethol o sefyllfaoedd cymdeithasol.

  • Llid yr ymennydd

    Gwybodaeth a chefnogaeth i'r cyflwr yma ac i rhaglen Hansh heno.

  • Anhwylder Deubegwn

    Help a chefnogaeth gydag anhwylder affeithiol deubegwn.

  • Di-gartrefedd

    Cymorth a chefnogaeth ar gael o'r mudiadau yma.

  • Atal Aflonyddu yn y Gwaith

    Gwybodaeth a chefnogaeth gydag atal aflonyddu yn y gweithle, gan gynnwys aflonyddu rhywiol,


  • OCD

    Gwybdodaeth a chefnogaeth i bobl sy'n byw gydag OCD.

  • Alopecia - colli gwallt

    Gall colli'ch gwallt ddigwydd yn annisgyl a bod yn broses emosiynol ac anodd. Adnoddau i'ch cefnogi.

  • Ffibrosis codennog

    Ffibrosis codennog yw un o'r anhwylderau genetic mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig, yn effeithio ar fywydau rhai miloedd o fabanod, plant a phobl ifanc. Cefnogaeth i O'r Galon: Stori Allison

  • Spondylitis Ymasiol

    Cyflwr o fewn teulu llid y cymalau yw Spondylitis Ymasiol, un sydd fel arfer yn effeithio bywydau dynion ifanc, er mae hefyd i'w ganfod ymysg merched a phobl hyn. Credir fod cyswllt enynnol cryf iddo. Gwybodaeth i'r rhaglen O'r Galon: Tudur Philips

  • Rhieni sy’n gwahanu

    Am fwy o gyngor a help, neu os ydych isio clywed am brofiadau pobl run fath a chi yn mynd trwy pethau tebyg, gall rhai o'r dolenni yma eich helpu.

Mae rhaglenni S4C yn ymdrin â phynciau amrywiol. Mae'r tudalennau cymorth yma'n cynnwys deunydd cynorthwyol cyfredol gan gynnwys llinellau cymorth ar y ffôn, gwasanaethau gwybodaeth wedi ei recordio ac unrhyw help perthnasol arall i rai o raglenni'r sianel.

Dylid nodi mai nid llinellau cymorth ffôn neu wasanaethau gwybodaeth wedi ei recordio S4C yw rhain, a'r defnyddiwr sydd yn gyfrifol am unrhyw gostau sydd ynghlwm a'r gwasanaethau hyn. Bydd cost galwadau o ffôn symudol yn dibynnu ar eich darparydd. Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau trydydd parti a gyfeirir atynt yn y tudalennau yma.

Rydyn ni'n diweddaru'r tudalennau yma'n gyson gyda gwybodaeth am wasanaethau a mudiadau allai fod o gymorth i chi.