Cymorth

Cymorth

Cefnogaeth LHDTC+

Adnoddau a chefnogaeth i gymunedau LHDTC+

  • Llinell Gymorth LGBT Cymru

    Mae'r Llinell Gymorth LGBT Cymru yn wasanaeth am ddim i lesbiaid, hoywon, pobl ddeurywiol neu drawsrywiol. Maent yn gallu cynnig help pan mae pobl yn 'dod allan' drwy siarad am y problemau o wneud hyn a rhoi hyder i chi wrth gyfarfod a phobl debyg. Mwy o fanylion cysylltu ar y gwefan.

    0800 917 9996

    lgbtcymru.org.uk

    • Switsfwrdd LGBT

      Mae Switsfwrdd LGBT yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaeth arallgyfeirio ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol a thrawsrywiol – ag i unrhyw un sy'n ystyried eu rhywioldeb a / neu hunaniaeth rhywiol eu hunain.

      www.switchboard.lgbt

      • Stonewall Cymru

        Mae Stonewall Cymru'n fudiad sy'n edrych ar ôl a hybu hawliau lesbiaid , hoywon a phobl ddeurywiol yng Nghymru, ac maent yn gallu rhoi cyngor ar bynciau fel partneriaeth sifil a gwahaniaethu anffafriol. Ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth.

        www.stonewallcymru.org.uk

        • FFLAG

          Mae FFLAG yn cynnig cefnogaeth i grwpiau rhieni lleol sy'n ceisio dod i ddeall aelodau o'r teulu sy'n lesbiaid, hoywon neu'n ddeurywiol. Maent hefyd yn gweithio ar brosiectau i daclo bwlio yn erbyn hoywon.

          www.fflag.org.uk

          • The Proud Trust

            Cefnogaeth ac adnoddau cyffredinol i gymunedau LHDTC+, gan gynnwys pecynnau addysg i ddathlu Mis Hanes LHDTC+.

            www.theproudtrust.org