Yn y drydedd bennod mewn cyfres newydd o Iaith ar Daith mae'r comedïwyr a ffrindiau agos Mike Bubbins ac Elis James yn teithio ar draws Cymru gyda'r nôd o ysgogi a helpu Mike i ddysgu Cymraeg. Fe fydd Mike yn gwynebu cyfres o sialensau ieithyddol ac fe fydd Elis wrth ei ochor ar hyd y ffordd. Fe fydd ymddangosiad arbennig iawn hefyd gan un o ser amlycaf Cymru!