Cymorth

Cymorth

Gor-bryder

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n bryderus o bryd i'w gilydd, ond os yw'n ymyrryd â'ch gweithgareddau o ddydd i ddydd, gallai fod yn symptom o rywbeth arall, gan gynnwys yr hyn a elwir yn anhwylder pryder. Gellir trin y rhain fel arfer, a gallai hyn gynnwys amrywiol driniaethau siarad a meddyginiaeth.

  • No Panic

    Elusen sydd yn cynnig llinell gymorth ac help ymarferol i bobl ar su'n byw gyda gor-bryder.

    Llinell Gymorth: 0300 7729844

    Llinell Gymorth pobl ifanc: 0300 6061174

    Bob diwrnod, 10am-10pm

    nopanic.org.uk

    • Patient.info

      Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

      www.patient.info

      • Meddwl.org

        Gwefan cynhwysfawr yn y Gymraeg sy'n cynnig erthyglau, dolenni a adnoddau cefnogol i bobl sy'n byw gyda problemau iechyd meddwl.

        meddwl.org

        • Anxiety UK

          Elusen sy'n rhoi cefnogaeth a gwybodaeth am bob math o or-bryder.

          03444 775 774

          www.anxietyuk.org.uk

          • Mind Cymru

            Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau.

            www.mind.org.uk


            • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

              Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

              www.rcpsych.ac.uk

              • Galw IECHYD Cymru

                Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.