Cymorth

Cymorth

Cadw'n Saff rhag Sgams

Gwybodaeth ar sut i gadw'ch hun yn ddiogel rhag sgams.

  • Action Fraud

    Gallwch ddweud wrth 'Action Fraud' am unrhyw dwyll os ydych chi yn y DU, os digwyddodd y twyll yn y DU neu os ydy'r twyll yn gysylltiedig â'r DU ac wedi digwydd ar-lein. Esiamplau o sgams cyffredin ar y gwefan.

    0300 123 2040

    www.actionfraud.police.uk

    • Cyngor ar Bopeth

      Gyda dros 3,000 o swyddfeydd drwy'r DU, gall Cyngor ar Bopeth helpu gyda materion cyfreithiol, gwaith, ariannol a mwy, a hynny am ddim. Gallwch gael hyd i'ch gwasanaeth lleol trwy'r wefan neu'r llyfr ffôn. Gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar bynciau gwahanol ar y wefan hefyd.

      www.citizensadvice.org.uk


      • Crimestoppers

        Cysylltwch a'r llinell yma'n gyfrinachol am unrhyw droseddu yn eich ardal.

        0800 555 111

        crimestoppers-uk.org

        • Comisynydd Pobl Hŷn Cymru

          Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru'n gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau. Os oes gennych chi broblem a bod angen help a chefnogaeth arnoch, yna cysylltwch â Thîm Gwaith Achos y Comisiynydd i weld sut gall eich cynorthwyo, ond hefyd mae ystod o weithgareddau a gwybodaeth am beth sydd ar gael i'ch cefnogi i heneiddio'n dda ar draws Cymru.

          www.olderpeoplewales.com