Cymorth

Cymorth

Dementia

Mae mathau o dementia fel arfer yn effeithio pobl hyn, ac oherwydd fod y boblogaeth yn heneiddio, mae'r glefyd yn un fwy cyffredin. Beth sy'n nodweddiadol o'r cyflwr yw fod y galluoedd meddyliol yn gwaethygu, yn enwedig y gallu i resymu a chofio. Un math o ddementia yw Alzheimer's, ond mae sawl ffurf arall hefyd, er enghraifft dementia vasciwlar neu dementia gyda Lewy Bodies.

Yn anffodus, does dim ffordd o wella'r clefyd ar gael ar y funud, ond mae'r mudiadau sy'n cael eu rhestru yma yn gallu cynnig cefnogaeth i'r sawl sy'n byw gyda'r cyflwr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

  • Llinell Gymorth Dementia Cymru

    Cefnogaeth ddwyieithog i unrhyw un, o unrhyw oedran, sydd yn edrych ar ôl person gyda dementia.

    0808 808 2235

    www.dementiahelpline.org.uk

    • Cymdeithas Alzheimer's

      Sefydliad ar draws y DU sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i'r rhai gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am gymorth lleol ledled Cymru ar eu gwefan.

       

      03300 947 400 (yn Gymraeg)

      0333 150 3456 (yn Saesneg)

      www.alzheimers.org.uk
       

      • Cymdeithas Lewy Body

        Cefnogaeth a gwybodaeth pellach am dementia gyda Lewy Bodies.

        www.lewybody.org


        • Dementia UK

          Elusen nyrsio dementia arbenigol sydd yna i'r teulu cyfan. Mae'r nyrsys, a elwir yn Nyrsys Admiral, yn darparu cymorth a chyngor am ddim i unrhyw un wedi eu heffeithio gan dementia.

          0800 888 6678

          www.dementiauk.org

          • Rare Dementia Support

            Mae Rare Dementia Support yn wasanaeth arbennig, wedi'i leoli yn y DU, a ddarperir gan Ganolfan Ymchwil Dementia (DRC) UCL a phartneriaid eraill. Mae RDS yn cefnogi pobl sy'n byw gyda un o'r 7 mathau prin o ddementia, gan gynnwys gofalwyr a gofalwyr sydd wedi colli rhywun. 

             

            Rhain yw: Clefyd Alzheimer Teuluol, dementia blaen-amserol, dementia blaen-amserol teuluol, atroffi cortigol posterior, affasia blaengar cynradd, dementia corff Lewy a Chlefyd Alzheimer Ifanc.

             

            Cyngor a chefnogaeth cynhwysfawr ar eu gwefan.

             

            www.raredementiasupport.org

             

             

            • Protocol Herbert

              Nod y cynllun yw cynorthwyo i ddiogelu pobl sy'n byw â dementia. Mae hyn yn enwedig os, wrth i'w cyflwr ddatblygu, maent yn dechrau 'crwydro' sydd ddim yn anarferol yn dilyn diagnosis. Mae'r Protocol Herbert wedi'i ddylunio i gynorthwyo i leoli unigolion yn ddiogel ac iawn os ydynt yn mynd ar goll. Mae'n rhoi tawelwch meddwl i deulu a ffrindiau fod gan yr heddlu'r holl wybodaeth maent ei hangen i gynorthwyo lleoli'r unigolyn. Mae'r Protocol Herbert yn fenter genedlaethol gan heddluoedd yng Nghymru ac eraill o amgylch y DU. Mwy o wybodaeth a ffurflen priodol yn y ddolen isod:

               

              Protocol Herbert

              (perthansol i bob ardal o Gymru, nid jest Heddlu De Cymru)


               

              • DEEP

                Mae'r Dementia Engagement and Empowerment Project yn ceisio sicrhau fod llais y sawl sy'n byw gyda dementia yn cael ei glywed yn glir o fewn polisïau a gwasanaethau. Sawl grwp yng Nghymru, manylion ar y gwefan.

                dementiavoices.org.uk

                • The Brain Charity

                  Elusen sy'n hyrwyddo niwroamrywiaeth ac yn helpu unrhyw un gyda cyflwr niwrolegol i ailadeiladu eu bywydau a chyflawni eu potensial. Mae gywybodaeth a cefnogaeth gyda gwahanol fathau o dementias hefyd.

                   

                  www.thebraincharity.org.uk

                   

                   

                   

                   

                  • Cynhalwyr Cymru

                    Mudiad sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, ac yn ymgyrchu am eu hawliau hefyd. Cysylltwch â nhw am unrhyw agwedd o edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol i'ch gwasanaethau lleol.

                    0808 808 7777

                    www.carersuk.org/wales

                    • Patient.info

                      Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

                      www.patient.info

                      Adolygwyd y wybodaeth: Tachwedd 2025