Cymorth

Cymorth

Heneiddio'n dda

Adnoddau i helpu a chefnogi heneiddio'n dda yng Nghymru.

  • Patient.info

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    www.patient.info

    • Age Cymru

      Un o'r prif elusennau yna i'ch cefnogi i heneiddio'n dda. Gyda grwpiau a gweithgareddau ar draws Cymru, cysylltwch unai drwy'r llinell gymorth neu'r gwefan, sydd gydag ystod o wybodaeth defnyddiol am ddim.

      0300 303 44 98

      www.ageuk.org.uk/cymru

      • Comisynydd Pobl Hŷn Cymru

        Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru'n gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau. Os oes gennych chi broblem a bod angen help a chefnogaeth arnoch, yna cysylltwch â Thîm Gwaith Achos y Comisiynydd i weld sut gall eich cynorthwyo, ond hefyd mae ystod o weithgareddau a gwybodaeth am beth sydd ar gael i'ch cefnogi i heneiddio'n dda ar draws Cymru.

        www.olderpeoplewales.com

        • Cynhalwyr Cymru

          Mudiad sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, ac yn ymgyrchu am eu hawliau hefyd. Cysylltwch â nhw am unrhyw agwedd o edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol i'ch gwasanaethau lleol.

          0808 808 7777

          www.carersuk.org/wales