Cymorth

Cymorth

​Cadw'n Ddiogel Ar-lein

Dim ots os wyt ti'n sgwrsio gyda ffrindiau, chwarae gem neu'r postio rhywbeth ar dy rwydwaith cymdeithasol , mae o hyd werth meddwl am sut i fod yn saff ar-lein. Ceir ychydig o gyngor am sut i wneud hyn yma.

  • Childline

    Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.

    0800 1111

    www.childline.org.uk

    • Meic

      Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.

      • CEOP Education

        Cyngor a gwybodaeth ar sut i fod yn sâff ar-lein, dim ots beth yw'ch oed.

        www.ceopeducation.co.uk

        • Childnet

          Gwybodaeth i rieni sydd eisiau cadw pobl ifan yn ddiogel, yn enwedig drwy ddefnydd rhwydweithiau cymdeithasol.

          www.childnet.com

          • Get Safe Online

            Cyngor ar sut i gadw'ch bywyd ar-lein - drwy gyfrifiadur, tabled neu ffon - mor ddiogel â phosib.

            www.getsafeonline.org

            • The Mix

              Gwybodaeth a chefnogaeth ar ystod o bynciau i bobl o dan 25.

              0808 808 4994

              www.themix.org.uk

              • Internet Watch Foundation

                Sefydliad sy'n gweithio i amddifyn plant a dileu cam-drin plant yn rhywiol ar-lein. Rhowch wybod am gamdriniaeth ar-lein yn ddienw.

                www.iwf.org.uk

                • UK Safer Internet Centre

                  Awgrymiadau, cyngor ac adnoddau e-ddiogelwch i helpu plant a phobl ifanc i gadw'n ddiogel ar y we.

                  saferinternet.org.uk