Uchafbwyntiau Ras Ryngwladol Yr Wyddfa Castell Howell 2025, un o ddigwyddiadau mwyaf y calendr rhedeg mynydd ym Mhrydain a thu hwnt. Unwaith eto eleni bydd cannoedd o redwyr, yn rai elit ac amatur, yn gwthio eu hunain i'r eithaf ar fynydd uchaf Cymru!
Yr wythnos hon, mae'r criw yn edrych yn ol ar wythnos arbennig yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd - ar y cystadleuthau a'r arddangosfeydd yn y Pentref Garddio.
25 mlynedd ers i Dai Jones, Llanilar fynd i Patagonia i gwrdd â'r Cymry mae Cefn Gwlad nôl 'na. Tro yma, Ifan Jones Evans sy'n ymuno â Dan Jones o'r Gogarth, uwchlaw Llandudno, wrth iddo ymchwilio i ddulliau ffermio defaid ar draws y byd fel rhan o'i Ysgoloriaeth Nuffield, er mwyn canfod sut gall ffermydd yr ucheldir gael cydwbysedd rhwng cynhyrchu, byd natur ac effaith newid hinsawdd.