S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wefan hon

Telerau cyfreithiol ar gyfer defnydd Gwefan S4C

Mae'r telerau cyfreithiol hwn yn berthnasol i'r modd yr ydych yn defnyddio Gwefan S4C. Darllenwch y telerau hyn, yn ogystal â Pholisïau Preifatrwydd a Chwcis S4C, yn ofalus cyn defnyddio Gwefan S4C.

Mae eich mynediad at Wefan S4C yn amodol ar y telerau cyfreithiol canlynol. Trwy barhau i ddefnyddio Gwefan S4C rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau sydd mewn grym ar adeg y mynediad. Os nad ydych yn cytuno ag unrhyw un o delerau S4C yna ni ddylech geisio mynediad a/neu ddefnyddio Gwefan S4C. Mae Polisïau Preifatrwydd a Chwcis S4C yn rhan o'r telerau hyn ac yn nodi sut y mae S4C yn defnyddio'r wybodaeth y mae'n ei derbyn amdanoch chi.

Gall S4C ddiweddaru a diwygio'r telerau hyn o bryd i'w gilydd a bydd y fersiwn cyfredol o'r telerau hyn yn cael eu postio ar Wefan S4C. Bydd defnyddio Gwefan S4C yn dilyn unrhyw ddiwygiad i'r telerau yn gyfystyr â derbyn y telerau diwygiedig gennych chi.

Telerau

Defnyddiau a Ganiateir o Wefan S4C

  1. Gallwch ddefnyddio Gwefan S4C at ddibenion personol ac anfasnachol yn unig.
  2. Caniateir defnydd addysgol anfasnachol o Wefan S4C gan sefydliadau addysgol ar yr amod bod gan y sefydliad addysgol drwydded gyfredol gyda'r Educational Recording Agency (ERA). Mae'n rhaid i ddefnydd o Wefan S4C gan y sefydliad addysgol gydymffurfio â'r telerau hyn a thelerau trwydded ERA.
  3. Rheolaethau Rhiant

  4. Mae'n rhaid bod y rheiny sy'n cael mynediad at, ac yn defnyddio Gwefan S4C fod yn 16 oed o leiaf, oni bai yr ymlynir wrth baragraffau 4 i 7.
  5. Os yw person dan 16 oed ("plentyn") yn dymuno defnyddio Gwefan S4C mae'n rhaid i riant neu warcheidwad y plentyn wneud y canlynol:
    • roi ei g/chydsyniad cyn i'r plentyn ddefnyddio Gwefan S4C;
    • ddarllen y telerau hyn a sicrhau ei f/bod yn deall ac yn cytuno â'r telerau hyn;
    • gytuno â'r telerau hyn ar ran y plentyn cyn i'r plentyn ddefnyddio Gwefan S4C; a
    • lle'n berthnasol roi caniatâd ymlaen llaw i blentyn gyflwyno gwybodaeth bersonol i Wefan S4C.
  6. Wrth roi caniatâd ar ran plentyn i ddefnyddio Gwefan S4C, rydych yn cadarnhau eich bod wedi'ch awdurdodi i gytuno â'r telerau hyn ac unrhyw delerau eraill sy'n gymwys i'r defnydd gan y plentyn o Wefan S4C.
  7. Gall Gwefan S4C fod â chynnwys yr ydych chi'n ystyried ei fod yn anaddas i gynulleidfaoedd ifainc. Mae rhybuddion yn ymddangos ar ddechrau rhai Rhaglenni sydd ar gael ar wasanaeth Dal i Fyny S4C, "Clic", i ddynodi bod cynnwys o fewn y rhaglen sy'n anaddas i blant. Lle mae rhybudd o'r fath yn ymddangos, mae opsiwn hefyd i droi clo rhiant ymlaen ac fe'ch annogwn chi i ddefnyddio'r opsiwn yma. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol ei bod yn bosib gwylio sianel deledu S4C trwy ffrydiad byw ar Wefan S4C ac nad oes cyfleusterau clo rhiant ar gael mewn perthynas â'r gwasanaeth hwn, fodd bynnag mae'n adlewyrchu confensiynau amserlenni sy'n seiliedig ar y trothwy gwylio.
  8. Rydych yn derbyn mai chi sy'n llwyr gyfrifol am benderfynu pa un a yw cynnwys ar Wefan S4C yn addas i'ch plant gael mynediad ato ai peidio. Os byddwch yn caniatáu i blentyn gael mynediad at gynnwys ar Wefan S4C, chi sy'n llwyr gyfrifol am benderfynu pa un a yw'r cynnwys hwnnw'n briodol i'r plentyn hwnnw ai peidio.
  9. Gwefannau Trydydd Partïon

  10. Gall Gwefan S4C gynnwys tudalennau/cynnwys sy'n cael ei letya, ei reoli ac/neu ei weithredu gan drydydd partïon. Gall Gwefan S4C hefyd gynnwys dolenni i wefannau, platfformau a gwasanaethau eraill gan drydydd partïon. O dan rai amgylchiadau gall cynnwys S4C fod ar gael hefyd ar wasanaethau a phlatfformau a ddarperir gan drydydd partïon.
  11. Rydych chi yn derbyn unrhyw risg sydd yn gysylltiedig â mynediad at a/neu defnydd o wasanaethau a chynnwys a ddarperir gan drydydd partïon
  12. Nid yw S4C yn cymeradwyo, yn adolygu nac yn monitro cynnwys yr holl dudalennau a gwefannau y gellid cysylltu iddynt o Wefan S4C ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am ac ni fydd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gynnwys arnynt (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw weithred i werthu neu drafodyn a gyflawnir ar dudalennau o'r fath).
  13. Gall fod gan wefannau sy'n eiddo i drydydd partïon eu polisïau preifatrwydd ac/neu eu telerau ac amodau defnydd eu hunain a bydd defnydd o wefannau a gwasanaethau o'r fath sy'n eiddo i drydydd partïon yn cael ei reoli gan eu telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd hwy. Awgrymwn i chi ddarllen y telerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd perthnasol sydd gan y trydydd partïon.
  14. Cyfraniadau

  15. Os byddwch yn gwneud cyfraniad i Wefan S4C, byddwch yn cadw'r holl hawliau perchnogaeth yn unrhyw gyfraniad y byddwch yn ei wneud a bydd yr hawlfraint yn eich cyfraniad yn aros gyda chi.
  16. Yn gydnabyddiaeth am fod S4C yn rhoi i chi'r hawl i gyfrannu ac/neu gyhoeddi deunydd ar neu drwy Wefan S4C, rydych yn rhoi trwydded anecsgliwsif, di-freindal i S4C ar gyfer yr holl hawliau perthnasol i ddefnyddio unrhyw ddeunydd sydd yn eich cyfraniad mewn unrhyw ffordd y gall S4C yn rhesymol ddewis ei wneud, yn ôl disgresiwn llwyr S4C, yn rhad ac am ddim, yn unrhyw gyfryngau ar hyd a lled y byd am byth. Ceidw S4C yr hawl i drosglwyddo neu is-drwyddedu'r drwydded hon i unrhyw drydydd parti . Rydych chithau'n cytuno i ildio eich 'hawliau moesol' yn eich cyfraniad gan gynnwys eich hawl i gael eich adnabod fel awdur neu gyfarwyddwr y cyfraniad a'r hawl i wrthwynebu i driniaeth ddirmygus o'r cyfraniad.
  17. Mewn perthynas â'r holl gyfraniadau y byddwch yn eu gwneud i Wefan S4C, rydych yn cadarnhau'r canlynol:
    • mai eich gwaith gwreiddiol chi yw'r cyfraniad (a phob elfen oddi mewn iddo, gan gynnwys unrhyw eiriau ac/neu gerddoriaeth) ac mai chi sy'n berchen arno ac/neu fod gennych yr holl drwyddedau, hawliau, cydsyniadau, a chaniatadau angenrheidiol i awdurdodi S4C i ddefnyddio eich cyfraniad yn unol â pharagraff 13 uchod ac y byddwch yn rhoi tystiolaeth i S4C o'r holl hawliau, trwyddedau, cysyniadau a chaniatadau perthnasol yr ydych yn eu dal yn y cyfraniad os gofynnir;
    • nad yw eich cyfraniad yn torri unrhyw hawlfraint sy'n eiddo i unrhyw un arall, nad yw'r cyfraniad yn enllibus, yn dramgwyddus nac yn gableddus, nad yw'n torri unrhyw un o ddeddfau'r Deyrnas Unedig, ei fod wedi cael ei wneud gennych chi mewn cymhwyster personol yn hytrach na masnachol ac nad yw'n hyrwyddo unrhyw fusnes;
    • eich bod wedi cael caniatâd yr holl unigolion sy'n ymddangos neu y cyfeirir atynt yn y cyfraniad i S4C ddefnyddio'r cyfraniad yn unol â pharagraff 13 uchod (neu lle y bo'n berthnasol, caniatâd rhieni neu warcheidwaid unrhyw unigolion dan 16 oed sy'n ymddangos yn y cyfraniad);
    • eich bod yn cytuno y bydd unrhyw wybodaeth, neu ddata y byddwch yn ei d/throsglwyddo neu'n ei b/phostio ar Wefan S4C yn anghyfrinachol, ac eithrio data personol a fydd yn cael ei ddal yn unol â Pholisi Preifatrwydd S4C.
    • eich bod yn cydnabod os ydych yn rhoi hawliau yn y cyfraniad i eraill, rhaid i'r hawliau hynny fod yn amodol ar yr hawliau a roddir i S4C;
    • na fyddwch yn cymryd unrhyw risgiau diangen ac na fyddwch yn peryglu eich hun wrth greu'r cyfraniad;
    • eich bod yn cytuno y gall S4C adolygu eich cyfraniad, ei olygu ac/neu ei dynnu oddi ar Wefan S4C;
    • eich bod yn derbyn mai chi sy'n gyfrifol am eich cyfraniad ac unrhyw ganlyniadau sy'n deillio o ddefnydd eich cyfraniad gan S4C a/neu ei drwyddedeion neu aseineion awdurdodedig; a hefyd
    • eich bod yn cytuno i ddigolledu S4C a/neu ei drwyddedeion neu aseineion awdurdodedig mewn perthynas ag unrhyw ddifrodau neu golledion a ddioddefwyd gan S4C a/neu ei drwyddedeion neu aseineion awdurdodedig o ganlyniad i'ch cyfraniad.
  18. Ceir gwybodaeth bellach ym Mholisi Preifatrwydd S4C ynghylch sut y gall S4C ddefnyddio eich data personol.
  19. Trwydded Deledu

  20. Dylech fod yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i chi fod â Thrwydded Deledu er mwyn gwylio rhaglen deledu a ddarlledir ar-lein ar yr un pryd ag y mae'n cael ei darlledu ar deledu confensiynol yn y Deyrnas Unedig. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Awdurdod Trwyddedu Teledu.
  21. Os oes gennych Drwydded Deledu gyfredol nid oes angen trwydded ar wahân arnoch i wylio rhaglenni teledu ar-lein trwy Wefan S4C.
  22. Hawliau S4C

  23. Mae'r holl hawliau (gan gynnwys hawlfraint, nodau masnach, hawliau dylunio, hawliau cronfeydd data a hawliau eraill sy'n ymwneud ag eiddo deallusol) yng Ngwefan S4C yn eiddo i neu wedi'u trwyddedu i S4C ar bob adeg. Mae'r holl ddeunydd sydd wedi'i gynnwys ar Wefan S4C gan gynnwys geiriau, delweddau, graffeg, nodau masnach, logos, nodau gwasanaeth a thebygrwydd personol yn ddeunydd hawlfraint. Oni nodir fel arall, ni ellir copïo deunydd ar Wefan S4C, na'i atgynhyrchu, ei lawrlwytho, ei bostio, ei drosglwyddo, ei ddosbarthu, ei addasu neu ei storio yn unrhyw gyfrwng (gan gynnwys ar unrhyw wefan arall) ac ni ellir ymyrryd ag ef mewn unrhyw ffordd. Nid yw unrhyw beth yn y telerau hyn yn rhoi ichi hawl i ddefnyddio unrhyw hawlfraint, nod masnach neu hawl dylunio, hawliau cronfeydd data nac unrhyw hawliau eraill sy'n ymwneud ag eiddo deallusol a berchenogir neu a reolir gan S4C neu unrhyw drydydd parti, heblaw fel y caniateir dan y telerau hyn.
  24. Cynnal Gwefan S4C

  25. Nid yw S4C yn derbyn unrhyw rwymedigaeth i gynnal na diweddaru Gwefan S4C ac nid yw'n dynodi nac yn gwarantu bod yr wybodaeth sy'n hygyrch trwy Wefan S4C yn gywir, yn gyflawn, nac yn gyfoes. Gall S4C fonitro ac adolygu unrhyw drafodaeth, sgwrs, postiadau, trosglwyddiadau a dialog arall ar Wefan S4C o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, nid yw S4C yn gallu monitro'r holl ddeunydd o'r fath yn barhaus a chaiff Gwefan S4C a'i chynnwys eu darparu ar sail "FEL Y MAENT".
  26. Dibyniaeth ar Wefan S4C

  27. Nid yw sylwebaeth, barnau neu wybodaeth arall sydd wedi'u cynnwys ar Wefan S4C wedi'u bwriadu i fod yn gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno. Rydych yn cytuno i beidio â gweithredu na dibynnu ar unrhyw wybodaeth na deunydd sydd wedi'i g/chynnwys ar Wefan S4C. Darperir yr wybodaeth yma gan S4C (ac/neu drydydd partïon) er diddordeb ac adloniant cyffredinol i chi yn unig. Ni fydd gan S4C ac mae trwy hyn yn ymwrthod yn ddatganedig hyd y gellir caniatáu yn gyfreithiol â'r holl atebolrwydd sy'n deillio o'ch dibyniaeth ar y fath wybodaeth o unrhyw natur.
  28. Materion Technegol a Hygyrchedd

  29. Gall cael mynediad at, a defnyddio peth o'r cynnwys ar Wefan S4C arwain at ddefnydd sylweddol o ystod band, a all fod yn ddrud gan ddibynnu ar eich cytundeb gyda'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd neu ddata. Sicrhewch eich bod yn monitro ac yn rheoli unrhyw 'gap ar ystod band' sy'n berthnasol i'ch cyfrif gyda'ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd neu ddata, gan gynnwys cyfyngiadau data wedi'i gosod gan eich darparwr ffôn symudol.
  30. Er mwyn cydymffurfio â thrwyddedau darlledu a chynnwys, dylech fod yn ymwybodol bod S4C yn defnyddio mesurau geo-flocio mewn perthynas â pheth o'i chynnwys. Mae mesurau o'r fath yn atal mynediad at gynnwys S4C o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig. Rydych chi'n cytuno na fyddwch yn ceisio trechu unrhyw fesurau geo-flocio a ddefnyddir gan S4C er mwyn cael mynediad at gynnwys na fyddai ar gael i chi fel arall yn eich lleoliad.
  31. Mae cynnwys sydd ar gael trwy Wefan S4C yn cael ei ffrydio ac nid yw ar gael i'w lawrlwytho. Gall S4C ddefnyddio mesurau diogelwch i ddiogelu cynnwys ar Wefan S4C ac rydych chi'n cytuno na fyddwch yn ceisio trechu nac amharu ar fesurau diogelwch S4C dan unrhyw amgylchiadau.
  32. Mae S4C yn ceisio trefnu bod ei gwasanaethau ar gael mor eang â phosib, fodd bynnag dylid nodi na fydd rhai nodweddion a swyddogaethau ymarferol yn gweithio ar bob dyfais. Mae S4C yn ymrwymedig i drefni bod Gwefan S4C yn hygyrch i gymaint o bobl â phosib. Gweler Polisi Hygyrchedd S4C am fwy o wybodaeth am hyn.
  33. Ceidw S4C yr hawl i addasu, atal neu derfynu y cyfan neu unrhyw ran o Wefan S4C neu'r cynnwys sydd ar gael ar Wefan S4C ar unrhyw adeg yn ôl ei disgresiwn llwyr. Ceidw S4C yr hawl hefyd i gyfyngu ar eich mynediad at Wefan S4C (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) ar unrhyw adeg yn ôl disgresiwn unigol a llwyr S4C os nad ydych yn cydymffurfio â'r telerau hyn. Gall S4C gymryd camai cyfreithiol yn eich erbyn os byddwch yn torri'r telerau hyn ar gyfer defnyddio Gwefan S4C.
  34. Sylwer, wrth wylio sianel deledu S4C yn fyw trwy Wefan S4C, fe all fod elfen o oedi oherwydd natur gynhenid cyflenwi teledu dros y Rhyngrwyd. Cadwch hyn mewn cof os gwelwch yn dda wrth ryngweithio â rhaglenni sy'n cael eu gwylio'n fyw trwy Wefan S4C.
  35. Gwasanaeth Dal-i-Fyny S4C

  36. Nid yw rhaglenni a ddangosir ar wasanaethau dal-i-fyny S4C yn fyw. Ni ddylwch ymateb i alwadau i weithredu, megis cwisiau, cystadlaethau neu bleidleisiau wrth wylio rhaglen trwy wasanaethau dal-i-fyny S4C. Os byddwch yn ceisio cymryd rhan, efallai na fydd eich rhyngweithiad yn cael ei gyfrif ond gall eich darparwr gwasanaethau cyfathrebu godi tâl arnoch er gwaethaf hynny.
  37. Mae cynnwys golygyddol gwasanaethau ar-alw S4C yn cael ei reoleiddio gan Bwrdd Unedol S4C tra bo hysbysebion yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASH). Mae manylion cyswllt Bwrdd Unedol S4C i'w canfod yma: www.s4c.cymru/c_contact.shtml. Gallwch gysylltu gyda'r ASH yn Mid City Place, 71 High Holborn, Llundain, WC1V 6QT, neu drwy ffonio 0207 492 2222. Am fanylion pellach am yr ASH, ewch i www.asa.org.uk. Mae S4C o dan awdurdodaeth y Deyrnas Unedig at bwrpasau'r Cyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol.
  38. Defnydd cyfreithlon o wefan S4C a gwaharddiadau

  39. Trwy gael mynediad at Wefan S4C rydych yn cytuno na fyddwch yn defnyddio Gwefan S4C:
    • at unrhyw ddiben anghyfreithlon neu mewn ffordd a allai hwyluso neu annog gweithgarwch anghyfreithlon;
    • i gyfathrebu unrhyw ddeunydd o'r math a nodir isod:
    • deunydd anweddus, anllad, aflednais, tramgwyddus, neu bornograffig;
    • deunydd sy'n cynnwys trais direswm, sy'n hybu, yn annog neu'n hwyluso trais neu ddeunydd sy'n fygythiol, yn ymosodol neu'n aflonyddgar;
    • deunydd sy'n hybu, yn annog neu'n hwyluso terfysgaeth neu weithgareddau eraill sy'n peryglu diogelwch cenedlaethol;
    • deunydd sy'n ysgogi casineb boed yn seiliedig ar hil, crefydd, rhywedd, rhywioldeb neu fel arall, neu'n hybu, yn annog neu'n hwyluso ymddygiad gwrthgymdeithasol;
    • deunydd sy'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp cymdeithasol penodol neu sydd fel arall yn camfanteisio ar, neu'n achosi risg i les plant ac/neu bobl fregus eraill;
    • deunydd sy'n gableddus, yn ddifenwol neu'n derfysglyd;
    • cadwynlythyrau, cynlluniau pyramid neu hysbysebion digroeso;
    • unrhyw ddeunydd sy'n tramgwyddo ar hawliau person arall, megis (a heb gyfyngiad) hawlfreintiau, hawliau moesol, hawliau i breifatrwydd; ac/neu
    • mewn ffordd a fyddai'n dwyn anfri ar S4C neu'n achosi i S4C fod ag atebolrwydd i drydydd parti
  40. Rydych yn cytuno na fyddwch yn amharu ar, nac yn achosi difrod i Wefan S4C, gweinyddion, systemau nac offer S4C na'r rheiny sy'n eiddo i drydydd partïon nac yn defnyddio Gwefan S4C ar gyfer gweithgarwch arall sy'n niweidiol neu'n annymunol mewn ffordd arall ac na fyddwch yn gwneud unrhyw beth sy'n cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad defnyddiwr arall o Wefan S4C.
  41. Rydych yn cytuno na fyddwch yn datgan, yn awgrymu nac yn ymhlygu bod gennych unrhyw berthynas fasnachol â S4C, eich bod yn asiant ar ran S4C neu fod S4C wedi cymeradwyo unrhyw gyfraniad y byddwch yn ei wneud i Wefan S4C.
  42. Mae Gwefan S4C yn rhad ac am ddim i'r holl ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig. Ni chaniateir i chi godi tâl ar unrhyw drydydd parti am ddefnyddio'r cyfan neu unrhyw ran o Wefan S4C na'i chynnwys nac am arddangos unrhyw hysbysebion o gwmpas cynnwys Gwefan S4C heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan S4C.
  43. Ni chaniateir i chi rannu rhaglenni S4C na threfnu eu bod ar gael ar wefannau neu gymwysiadau meddalwedd anawdurdodedig heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan S4C.
  44. Ni chaniateir i chi fframio Gwefan S4C ar wefannau eraill heb gydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan S4C.
  45. Ymwadiad

  46. Ni fydd gan S4C, ac mae S4C trwy hyn yn ymwrthod yn ddatganedig cyn belled ag y gellir caniatáu'n gyfreithiol, unrhyw gyfrifoldeb ac atebolrwydd o gwbl (gan gynnwys atebolrwydd am unrhyw ddifrod megis, heb gyfyngiad, difrod anuniongyrchol neu ganlyniadol neu unrhyw ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnyddio neu mewn cyswllt â defnyddio Gwefan S4C) am unrhyw wall, anghywirdeb, camgyflead, difenwad, hepgoriad, anwiredd, anlladrwydd, cabledd neu unrhyw ddeunydd arall sydd wedi'i gynnwys o fewn Gwefan S4C.
  47. Nid yw unrhyw beth yn y telerau hyn yn eithrio nac yn lleihau atebolrwydd S4C na'ch atebolrwydd chi am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod nac am dwyll ac nid effeithir ar eich hawliau statudol o ganlyniad i eithrio atebolrwydd fel y nodir ym mharagraff 34.
  48. Nid yw S4C yn gwarantu y bydd holl Wefan S4C neu unrhyw ran ohoni ar gael heb amhariad na heb wall, y bydd unrhyw ddiffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd Gwefan S4C na'r gweinydd sy'n ei rhoi ar gael yn rhydd rhag firysau, bygiau neu gwallau.
  49. Mae S4C yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod cynnwys sy'n ymddangos ar Wefan S4C yn rhydd rhag firysau, ond ni ellir gwarantu hyn ac nid yw S4C yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am niwed sydd wedi ei achosi gan fygiau neu firysau. Gan gadw hyn mewn cof, fe'ch cynghorir i gymryd eich rhagofalon 'gwrthfirysol' eich hun.
  50. Gall eich mynediad at Wefan S4C ddibynnu ar faterion sydd y tu hwnt i reolaeth S4C. Rydych yn derbyn nad oes gan S4C unrhyw gyfrifoldeb am faterion penodol a all effeithio ar ansawdd ac argaeledd Gwefan S4C a'i chynnwys, er enghraifft, materion megis argaeledd band eang, cysylltiadau a chyflymder.
  51. Indemniad

  52. Rydych yn cytuno i ddigolledu S4C ar alw am unrhyw golledion neu ddifrod rhesymol allan o law a ddaw i ran S4C o ganlyniad i weithred gennych sy'n tramgwyddo ar unrhyw un o'r telerau hyn.
  53. Cyfraith Lywodraethol a Rheoleiddiad

  54. Mae'r cynnwys sydd yn arddangos dyfrnod S4C yn cael ei ddarparu gan S4C a'i reoleiddio gan Bwrdd Unedol S4C o Ganolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ (s4c@s4c.cymru).
  55. Os penderfynir bod unrhyw un o'r telerau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu'n anorfodadwy, bydd y teler hwnnw hyd y bo'n ofynnol yn cael ei dorri allan o'r telerau hyn a bydd yn colli ei rym, hyd y bo'n bosib, heb addasu'r darpariaethau sy'n weddill yn y telerau hyn.
  56. Bydd y telerau hyn yn cael eu rheoli gan a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.
  57. Cwynion

  58. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu gwynion, gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio Gwifren Gwylwyr ar gwifren@s4c.cymru. Fel arall, gellir cysylltu drwy'r post : Gwifren Gwylwyr, S4C Doc Fictoria Caernarfon LL55 1TH.
Adolygwyd Mehefin 2023.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?