
9 Tachwedd 2025
Wrth i’r ddrama boblogaidd STAD ddychwelyd i S4C, mae’r awdures Lleucu Siôn yn pwysleisio pa mor bwysig ydi dal gwir sŵn a chymeriad Caernarfon ar y sgrin. Mae “pobl, egni, sŵn a hiwmor pobl Caernarfon mor sbesial” meddai “oedd hi’n holl bwysig i fi fod Dre’n swnio fel Dre ar y teli”.
7 Tachwedd 2025
Mae cystadleuaeth gyfansoddi Cân i Gymru 2026 wedi agor i geisiadau.
Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror 2026.
6 Tachwedd 2025
Mae nifer y swyddi yng Nghymru sydd wedi’u cefnogi gan S4C wedi cynyddu i fwy na 2,500, yn ôl ymchwil newydd.
4 Tachwedd 2025
Chwalwyd tawelwch a heddwch cymuned glan môr yn ystod haf 1983, gan un o archwiliadau mwyaf rhyfeddol yr heddlu yn hanes Cymru. Trefdraeth, Sir Benfro – “tref y nefoedd” yn ôl y bobl leol, oedd y man olaf disgwyliwyd i’w gweld yng nghanol cylch smyglo rhyngwladol.
28 Hydref 2025
Y Deis yw rhaglen gwis adloniannol newydd sbon S4C sydd ar fin cychwyn ffilmio yn Gymraeg yn Stiwdio Enfys, Caerdydd, ac mae S4C yn falch o gyhoeddi bod darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Iwerddon, TG4, wedi sicrhau’r hawliau ar gyfer y fformat newydd o’r rhaglen adloniannol.
27 Hydref 2025
Ers blynyddoedd lawer, mae amheuon ynghylch llofruddiaeth yr ymgyrchydd gwrth-niwclear Hilda Murrell, gyda rhai yn amau bod y gwasanaethau cudd yn gysylltiedig â’i marwolaeth.
Mae chwech o bobl ifanc ar fin cael profiad unwaith mewn bywyd wrth redeg bar Cymreig cyntaf y strip yn Zante.
22 Hydref 2025
Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae’r cyflwynydd Mari Grug yn rhannu ei phrofiad personol o fyw gyda chanser metastatig - canser sydd wedi lledu i rannau eraill o’r corff - mewn rhaglen ddogfen ar S4C.
20 Hydref 2025
Bydd rhaglen ddogfen Gymraeg newydd, Ruth Ellis: Y Cariad a’r Crogi yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth hwn 21 Hydref, gan daflu goleuni newydd ar fywyd, cariad a gwaddol y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain.
17 Hydref 2025
Bydd cyfres animeiddio Gymraeg newydd sy'n annog cynulleidfaoedd ieuengaf Cymru i ddarganfod rhyfeddodau natur a'r byd o'u cwmpas yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar S4C ar 21 Hydref.