3 Gorffennaf 2025
Mae hi’n amser am elltydd, am lycra ac am chwys; mae hi’n amser am Tour de France 2025.
Bydd holl gymalau’r ras fyd-enwog yn cael eu dangos yn fyw ar S4C am 2pm bob dydd, gyda rhaglen uchafbwyntiau bob nos. Gwyliwch y cyfan ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a YouTube S4C.
“Dyma’r digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf yn y byd” meddai Rhodri Gomer, cyflwynydd Tour de France 2025. “Mae hi’n gamp sydd â chymaint o haenau gwahanol; mae sawl ras o fewn y ras fawr. Dyma’n 12fed taith ac ry’n ni’n edrych ymlaen gymaint ag erioed at ddod â holl gyffro’r ras anhygoel hon i wylwyr S4C.”
Yn ymuno â Rhodri i ddilyn a dadansoddi pob eiliad o’r cyffro o’r llinell gychwyn yn Lille ar 5 Gorffennaf mae criw helaeth o sylwebwyr profiadol: Manon Lloyd, Wyn Gruffydd, Gareth Rhys Owen, Dewi Aled Owen, Peredur ap Gwynedd, Gruff Lewis, Rheinallt ap Gwynedd, Eluned King, Lowri Richards, Awen Roberts, Nia Cole ac Alun Wyn Bevan.
“Ry’n ni’n dîm mawr erbyn hyn. Mae rhai sydd wedi bod gyda ni o’r dechrau’n deg, ond mae nifer o leisiau ifanc newydd hefyd wedi ymuno â ni dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rydym yn falch o groesawu Manon Lloyd i’r criw eleni. Mae Manon yn gyn-seiclwr proffesiynol, ac fe fydd hi yn barod i holi’r beicwyr yn dwll ar ôl pob cymal, felly fe fydd hi’n dod â’r gorau i’r gwylwyr heb os.”
Am y tro cyntaf ers pum mlynedd, bydd llwybr y ras eleni yn aros o fewn ffiniau Ffrainc, gyda’r cymal olaf yn dychwelyd i Baris, ar ôl bod yn Nice llynedd oherwydd y Gemau Olympaidd.
Y beicwyr Tadej Pogacar a Jonas Vingegaard yw’r ffefrynnau mawr eleni, ond bydd llygaid y Cymry yn sicr ar ddwy olwyn Geraint Thomas – yr unig Gymro yn y ras eleni - wrth iddo gystadlu yn ei Tour de France olaf.
“Mae gan Geraint berthynas agos iawn gyda’r Tour – mae e’n dwli arni,” Meddai Rhodri. “Fe gystadlodd e gyntaf nôl yn 2007. Ac allan o’r 170 a mwy sy’n rasio eleni, does neb arall wedi cystadlu cyn 2013 – felly’n sicr mae Geraint yn hen ben.”
“Fe gafodd e ddamwain yn y Tour de Suisse yn ddiweddar, felly dyw e heb gael cyfle da i baratoi,” esbonia Rhodri. “Mae e’n gadfridog eleni, felly gobeithio caiff e ras wych. Mae hanes gyda Geraint o gael damweiniau, felly os gall e gyrraedd pen y daith mewn un darn bydd e’n hapus rwy’n siŵr, fel y byddwn ni a’r gwylwyr, a heb os, Sara ei wraig.”
Bydd cyfle arall i wylio Geraint Thomas: Vive le Tour! heno (3 Gorffennaf) am 9pm, ac yna ar alw ar S4C Clic a BBC iplayer. Bydd rhaglen ddogfen arbennig am yrfa Geraint Thomas hefyd i’w gweld ar y Sianel dros gyfnod y Nadolig.
Bydd y Tour de France yn dod i ben eleni gyda'r cymal olaf cyfarwydd ar y Champs-Élysées ym Mharis, ddydd Sul 27 Gorffennaf.
“Maen nhw wedi addasu’r cymal terfynol ychydig bach er mwyn ei gwneud yn fwy cyffrous i’r gwylwyr,” meddai Rhodri. “Dyw llawer o’r seiclwyr ddim yn rhy bles ond mae e’n sicr o fod yn ddiweddglo a hanner i ras ryfeddol!”