
1 Mehefin 2026
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
“Roedd Robin Evans fel dewin, yn troi popeth roedd yn ei gyffwrdd i aur. O’r bandiau cerddorol rhyfeddol o boblogaidd i gynyrchiadau teledu di-rif dros ddeugain mlynedd. O bosib ei waddol mwyaf yw’r gyfres Rownd a Rownd sydd wedi dod â gymaint o fwynhad i genedlaethau.
"Trwy weithio efo fo deuthum i adnabod y cymeriad cynnes a mor barod i dynnu coes gyda hiwmor sych ac roedd ei sylw at fanylder yn ei gynyrchiadau o’r radd flaenaf. Dysgais dipyn ganddo. Roedd ei ddewrder at y diwedd yn rhyfeddol a nodweddiadol o’i gymeriad. Cydymdeimlad dwys at ei wraig Heulwen a’u plant Llio a Huw.”
22 Mai 2026
Hoffai S4C estyn cydymdeimlad dwys gyda theulu Eilir Jones sydd wedi marw. Roedd yn beiriannydd llun uchel ei barch ac yn wyneb cyfarwydd ar gynyrchiadau allanol a mewnol led led Cymru ers dros deng mlynedd ar hugain.
Rydym yn cydymdeimlo gyda’i wraig Catrin a Nel a Nanw.
13 Mehefin 2025
Dymuna S4C estyn cydymdeimlad gyda theulu Richard Longstaff o Ddinbych a fu farw ddoe, 12fed Mehefin.
Roedd Richard yn wr camera profiadol ac wedi gweithio ar bob cyfres Garddio a Mwy tan y llynedd, gan chwarae rhan allweddol yn ei chadw ar y sgrin trwy'r pandemig.
Fe weithiodd ar nifer fawr o raglenni a chyfresi ar S4C ers blynyddoedd maith, Y Fenai a Byw yn yr Ardd ymysg y rheiny.
Mae'n cydymdeimlad dwys gyda ei wraig Llinos a'u plant Harri ac Emma.
28 Mai 2025
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
"Mae'n drist clywed fod y gyfeilyddes Annette Bryn Parri wedi marw.
"Gwnaeth gyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru gan gyfrannu i nifer o raglenni dros y degawdau wrth gyfeilio cantorion fel Syr Bryn Terfel.
"Estynwn ein cydymdeimlad dwys gyda'i theulu yn sgil eu profedigaeth."
22 Awst 2024
Roedd Dewi yn gymeriad unigryw ac yn berfformiwr amryddawn wnaeth gyfraniad eang i S4C a diwylliant Cymraeg.
Fel aelod o'r bandiau blaenllaw Y Tebot Piws ac Edward H Dafis, daeth Dewi Pws i amlygrwydd cenedlaethol. A daeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cân i Gymru ym 1971 gyda'r gân boblogaidd Nwy yn y Nen.
Ond gyda dawn actio a direidi naturiol, gwnaeth ei farc ar sawl cynhyrchiad eiconig i S4C hefyd. Roedd yn adnabyddus fel Wayne Harries, un o gymeriadau cyntaf Pobol y Cwm o 1974 hyd at 1987 a'r ffilm gomedi Grand Slam ym 1978. A bydd cenedlaethau o blant Cymru yn ei gofio'n gynnes fel y Dyn Creu yn y gyfres Miri Mawr ac fel Islwyn Morgan yn yr opera sebon Rownd a Rownd.
Roedd ei dalent ar sgrin ac i fywyd yng Nghymru yn amhrisiadwy a bu'n arwr ac yn ysbrydoliaeth i nifer ohonom yn ein plentyndod. Roedd yn un o'n cewri creadigol fel cenedl a bydd colled mawr ar ei ôl.
Mae ein meddyliau gyda'i wraig, Rhiannon, a'i deulu a'i ffrindiau, wrth i ni ddiolch am ei gyfraniad unigryw i S4C dros y degawdau.
23 Mawrth 2023
Meddai Llinos Griffin-Williams Prif Swyddog Cynnwys S4C:
"Gyda thristwch, clywsom am farwolaeth yr actor amryddawn Dafydd Hywel. Mae ei gyfraniad i fyd y ddrama yng Nghymru yn aruthrol – ac roedd yn rhan o gynyrchiadau poblogaidd S4C yn actio mewn cyfresi fel Pobol y Cwm, Miri Mawr, Y Pris a Pen Talar ac mewn ffilmiau megis Rhosyn a Rhith, I Fro Breuddwydion a Rhag Pob Brad, i enwi dim ond rhai. Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Dafydd yn eu colled, gan ddiolch iddo am ei gyfraniad arbennig."
15 Chwefror 2023
Wrth roi teyrnged i'r actores amryddawn Christine Pritchard, dywedodd y Prif Weithredwr Sian Doyle ar ran S4C:
"Gyda thristwch mawr y clywsom ni am farwolaeth yr actores Christine Pritchard. Roedd ei thalent yn enfawr a bu'n rhan o gynyrchiadau mwyaf eiconig S4C yn chwarae cymeriadau mewn cyfresi fel Glas y Dorlan, Dinas, Pobol y Cwm, Pris y Farchnad, Talcen Caled ac yn fwy diweddar, Un Bore Mercher a 35 Awr. Mi fydd cenedlaethau o blant Cymru yn ei chofio'n gynnes fel y cymeriad poblogaidd Rala Rwdins. Roedd ei thalent ar sgrin ac ar lwyfan yn amhrisiadwy ac mi fydd colled fawr ar ei hôl. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Christine, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad rhagorol ar amryw o gynyrchiadau S4C dros nifer fawr o flynyddoedd."
4 Mawrth 2022
Mae S4C wedi talu teyrnged i'r darlledwr Dai Jones
Yn rhestr detholion darlledwyr Cymru, mae Dai Jones, Llanilar, ar y brig.
Roedd ganddo'r ddawn naturiol honno o gael y gorau mas o bobl, gan ddefnyddio ei ffraethineb, doniolwch a chynhesrwydd naturiol i gyflwyno myrdd o gymeriadau bythgofiadwy cefn gwlad i gynulleidfa deledu chwilfrydig yn y gyfres fytholwyrdd Cefn Gwlad.
Drwy'r gyfres hon, creodd genre unigryw, gan greu portreadau sensitif o'r bobl yr oedd yn eu cyfarfod heb ddefnyddio'r dulliau confensiynol o gyfweld.
Yn gyflwynydd naturiol ac yn ganwr tenor blaenllaw, gwnaeth ei farc ar gyfresi adloniant teledu fel Noson Lawen ac yn ei flynyddoedd cynnar, y cwis cyplau Sion a Sian, lle daeth ei ddoniau fel cyflwynydd naturiol gynnes i'r amlwg yn gyntaf.
Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
"Wrth i ni gydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau, rydyn ni'n talu teyrnged i un o ddarlledwyr mwyaf talentog teledu Cymru.
"Wedi ei eni yn Llundain ond gyda'i galon yn nwfn yng nghefn gwlad Cymru erioed, roedd Dai yn apelio at bawb o gefndiroedd dinesig a gwledig.
"O'r clos ffarm i lwyfan 'steddfod, ac o'r stiwdio deledu i'r mart, roedd Dai mor gartrefol, a chanddo'r ddawn o wneud pawb arall yn gartrefol yn ei gwmni.
"Bydd y byd darlledu a chefn gwlad yn sicr yn dlotach o lawer hebddo."
Gellir dod i hyd i deyrngedau cyn 2022 yn yr archif.