Ymunwn â Tony ac Aloma wrth iddynt ymweld ag Ynys Môn a Chaernarfon i lofnodi copïau o'u llyfr newydd. Wedi dychwelyd i Blackpool mae teulu Aloma yn dod ynghyd i ddathlu ei phen-blwydd, dathliad a gafodd ei ohirio flwyddyn yn ôl oherwydd gwaeledd Aloma. Wrth i'r Nadolig agosáu mae Aloma a'i chymar Roy yn hedfan i Tenerife am wyliau. Bydd drysau'r gwesty yn ail agor ar gyfer dathliadau'r Calan, gydag Aloma yn ôl yn y gegin a Tony yn cadw golwg ar y dathliadau. (Rhaglen o 2012)
Bron i flwyddyn ers i'r achosion cyntaf o Covid gael eu hadrodd yng Nghymru, Siôn Jenkins sy'n cwrdd â rhai o'r miloedd o deuluoedd sy'n galaru am eu hanwyliaid. Ym Mhontarddulais mae teulu'r parafeddyg Gerallt Davies yn trio dygymod â bywyd hebddo tra bod teulu Undeg Lewis yn cwestiynu ymateb y llywodraethau ar ddechrau'r pandemig, ddeng mis wedi marwolaeth un o hoelion wyth Crymych.
O'r trefi prysur i gefn gwlad, dyma weld yn union sut beth yw gweithio i Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru. Portread cwbl onest a llawn o waith yr Uned wrth iddyn nhw weithio i'n cadw ni a'n cymunedau'n saff mewn ardal sy'n amrywio o lonydd cefn gwlad diarffordd i brysurdeb Gwibffordd Gogledd Cymru, yr A55. Mae'r ail bennod yn tynnu ein sylw at alcohol a phroblemau ar ein ffyrdd yn sgil yfed a gyrru.