Yr Actor ifanc Kimberley Abodunrin yn edrych ar fywyd a gyrfa yr Eicon Betty Campbell, y Brifathrawes Ddu gyntaf yng Nghymru. Bydd Kimberley yn ein tywys drwy fywyd diddorol Betty ac yn edrych yn ôl ar ei magwraeth hi ei hun yng nghefn gwlad Cymru, fel person ifanc gyda hunaniaeth ddeuol - Nigerian a Chymreig, ac hefyd yn edrych i'r dyfodol yn y Gymru aml-ddiwylliant gyfoes.
Cyfres newydd lle mae Dot Davies yn mynd â sêr adnabyddus ar daith bersonol ac emosiynol drwy goridorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cartref ein Cyfrinachau, i ganfod y pethe sy'n bwysig iddyn nhw ac i ni ddod i'w 'nabod nhw'n well. Yn rhannu Cyfrinachau'r Llyfrgell y tro yma, llais Cymru yn America, y newyddiadurwr Maxine Hughes.
Mae 'na ddau gwmni Cymreig wedi gadael eu marc ar farchnad ceffylau rhyngwladol. O wneud dêls gyda Sheiks mwyaf cefnog y Dwyrain Canol i gludo ceffylau Cymreig i rai o gartrefi mwyaf godidog Ewrop. Yn y rhaglen hon dilynwn Gwmni Cludo Ceffylau Nebo ger Llanrhystud a Theulu'r Joneses o Fridfa Bychan ger Llandeilo wrth iddynt geisio gwarchod eu henw da a'u busnesau byd eang trwy gydol cyfnod o newid mawr gyda Covid a Brexit.