Mi fydd taith y Welsh Whisperer yn parahau I gwm Aman ac am dri pentref cyfagos sy'n ffinio gyda'i gilydd ¿ Tairgwaith, cartref Clwb Trotian Dyffryn Aman, Gwaun Cae Gurwen cartref Band Pres y Waun ac fe fydd y Welsh yn cwrdd ac yn cael clonc gydag aelodau cangen merched y Wawr, Gwaun Gors.
Ar y Noson Lawen heno byddwn yn dathlu talent y diweddar Derek Williams; cerddor, cyfansoddwr, athro arbennig ac un o drindod sanctaidd Cwmni Theatr Maldwyn; gyda Branwen Haf, Meilir Rhys, Osian Huw, Luke McCall, Eryrod Meirion, Jessop a'r Sgweiri, Gethin a Glesni, Alwyn Siôn ac eraill.
Dewch i dyrchu trwy archif Recordiau Sain yng nghwmni'r cynhyrchydd a DJ hip-hop o Aberdar, Don Leisure, wrth iddo greu casgliad newydd o ail-ddehongliadau rhai o glasuron a gemau coll y label. Ar hyd y ffordd cawn gwrdd a rhai o'r cymeriadau chwedlonol y tu ol i'r caneuon mae e wedi eu samplo wrth greu ei record newydd; 'Tyrchu Sain'.