Yn y rhaglen arbennig hon o Geredigion bydd Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Sion Tomos Owen yn darganfod beth sydd gan Aberaeron i'w gynnig. Bydd Heledd yn profi peth o gyffro tu ôl i'r llenni pantomeim Theatr Felinfach, bydd Iestyn yn cael tro yn chwarae coets, a bydd Sion ar drywydd cymeriadau lleol lliwgar, Dafydd Gwallt Hir a Mari Berllan Bitar.
Mae Only Boys Aloud yn dathlu Nadolig a dros ddegawd o lwyddiant cerddorol gyda chyngerdd mawreddog yng nghadeirlan Aberhonddu. Bydd y bechgyn yn ymuno ag Only Girls Aloud ac Only Kids Aloud i ganu clasuron Nadolig yn ogystal â chaneuon cyfoes, yng nghwmni'r sêr: Callum Scott Howells, Rebecca Evans, Amy Wadge a Tom Hier.
Mae Scott Quinnell yn mynd ar siwrne unwaith eto ar hyd a lled Cymru gan droi ei law at pob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth cael llond bol o hwyl. Bydd Scott yn dychwelyd i'w filltir sgwâr cyn mynd ar antur mewn cwrwgl ar yr Afon Tywi a rhyfeddodau yna'n ei ddisgwyl yn Nhregaron.