Swyddi

Swyddi

Croeso i Hafan Swyddi a Gyrfaoedd S4C

  • Cydlynydd Sector a Chynorthwyydd Adran (Mamolaeth)

    Dyddiad Cau: 14 Awst 2025

    Fel Cydlynydd Sector a Chynorthwyydd Adran, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi ein gwaith cynnwys a hyrwyddo cyflawniadau S4C yn y gwobrau a'r gweithgareddau, yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r sector cynhyrchu.

    Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd yn drefnus, yn frwdfrydig, ac sydd â diddordeb mewn cyfryngau ac adloniant. Byddwch yn gweithio gyda thîmau ar draws y sefydliad a byddwch yn adeiladu perthynas â phartneriaid allanol, gan gyfrannu’n uniongyrchol at hyrwyddo rhagoriaeth a chreadigrwydd yn y diwydiant.

  • Cynorthwyydd Cyhoeddi Digidol

    Dyddiad Cau: 13 Awst 2025

    Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys ar draws platfformau digidol yn ddyddiol gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl, yng Nghymru a thu hwnt. Mae presenoldeb S4C ar y llwyfannau yma yn rhan allweddol o drawsnewid digidol y darlledwr ac mae’n faes prysur, heriol a chyffrous.

    Yn y rôl hon byddwch yn cynnig cymorth gweinyddol ac ymarferol i’r Tîm Digidol gan gefnogi strategaeth gyhoeddi aml-lwyfan S4C.

  • Pecyn Gwybodaeth Ymgeisydd S4C

    Pecyn Gwybodaeth Ymgeisydd S4C

    • Lefel 2