Drama newydd. Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod ai llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.
Isdeitlau Saesneg ar gael.
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Yn dilyn yr ymweliad annisgwyl mae Lea'n deffro mewn lle dieithr a Mathew'n darganfod ei hun mewn sefyllfa ddieithr wrth geisio chwarae rôl tad i'w ferch. Tra mae Jason yn gweithio'n galed i hel pres i achub bywyd ei dad mae Dani'n gweithio'n galed i weld a yw geiriau Arthur am Ben yn wir, a bydd Ben yn gorfod gweithio'n galed i ateb ei holl amheuon. Wrth i Dylan wynebu sefyllfa annifyr yn yr ysgol bydd yn pendilio beth i'w wneud am y gorau, hyd nes gorfod cyfaddef i Elen, sy'n darganfod yr unio
Cyfle arall i weld wrth i ni nesau at 50fed penblwydd yr opera sebon. Faint wyddoch chi am gymeriad Mark' Mae'r gyfres archif arbennig yma o Gwmderi yn gyfle i dreiddio dan wyneb rhai o gymeriadau fwyaf lliwgar y pentref. Yn y rhaglen hon cawn ddod i adnabod cymeriad Mark dipyn gwell, a hynny dan arweiniad rhywun sydd yn ei nabod yn well na neb, yr actor Arwyn Davies.
Drama newydd. Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod ai llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.
Ffilm fer yn seiliedig ar stori wir cwpl lesbiaidd, Kim a Roseann, a briododd yn Ysbyty Felindre, Caerdydd yn 2018 tra bod Kim yn derbyn triniaeth am ganser. Mae'r ffilm emosiynol hon yn stori garu deimladwy rhwng dwy fenyw ac mae hefyd yn ddathliad o'r staff anhygoel sy'n gweithio i'n GIG a phwysigrwydd gofal tosturiol. Fersiwn Gymraeg o ffilm fer G¿yl Ffilm LGBTQ+ Gwobr Iris a ariannwyd gan y Loteri, sef I Shall Be Whiter Than Snow.