Ifan Davies a Lauren Moore fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau o Sesiwn Fawr Dolgellau 2022: Dathlu'r 30. Cawn berfformiadau byw gan Yws Gwynedd, Skerryvore, Bwncath, Tara Bandito, No Good Boyo a llawer mwy, a pherfformiadau unigol gan Eadyth, Gwilym Bowen Rhys a Morgan Elwy. Fe fyddwn hefyd yn edrych nôl a nodi carreg filltir bwysig yn hanes un o brif wyliau cerddorol Ewrop.
Mae Eisteddfod eleni yn hir-ddisgwyliedig ac ochor yn ochor gyda'r cystadlu a'r coroni mae "Brenhines Comedi Cymru" yn cyflwyno gogwydd ysgafnach i'r wythnos yn Nhregaron wrth iddi wneud y peth mae'n ei wneud orau - janglo gyda'r bobl: yr Eisteddfotwyr brwd, Merched y Wawr, staff a gwirfoddolwyr - heb anghofio hob-nobio yn ei ffordd nodweddiadol di-flewyn ar dafod gydag ambell seleb!
Mae Tara Bethan, Seren Jones a Lara Catrin yn edrych yn ôl ar un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous Cymru. Bydd cerddoriaeth, bwrlwm, sgyrsiau a chyfle i weld wynebau hen a newydd o Gastell Caerdydd. Ymunwch â ni ar gyfer rhaglen uchafbwyntiau i fwynhau rhai o berfformiadau mwyaf cofiadwy penwythnos Tafwyl 2022.