Manylion cefnogaeth os yw damwain car wedi cael effaith ar eich bywyd.
Yn y cyfnod anodd yma, manylion cefnogaeth arbenigol i bobl sydd wedi colli rhywun agos.
Adnoddau ychwanegol i'ch helpu yn ystod cyfnod yn pandemig.
Awgrymiadau ymarferol ar beth i wneud o ddydd i ddydd yn y sefyllfa yma.
Tydi hi ddim o hyd yn hawdd byw mewn teulu. Gall perthnasoedd fod yn anodd, ac mae angen help ambell waith i ffeindio ffordd drwy gyfnodau o straen neu digwyddiadau sy'n peri anhaster a theimladau cas.
Gwybodaeth yma a all helpu pobl sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan ddefnydd problematig o alcohol neu gyffuriau, yn cynnwys teuluoedd a gofalwyr.
Mae cael plentyn drwy dod i gytundeb gyda mam fenthyg yn gyfreithlon yn y DU, ond nid yw'n bosib gorfodi'r fath gyrundeb trwy'r gyfraith. Mwy o wybodaeth am gefnogaeth ar gael yn drwy'r dolenni yma.
Maethu yw cynnig cartref i blentyn am gyfnod, tra bod mabwysiadu yn golygu cynnig cartref newydd, sefydlog gyda theulu. Rhaid i'r plentyn fod llai na 18 oed ac mewn sefyllfa lle nad yw dychwelyd at ei rieni yn ddewis posibl. Gwybodaeth a chefnogaeth ar gael yma.
Cyngor a manylion mudiadau a ellir helpu chi dorri lawr os ydych yn poeni am eich yfed.
Help a chefnogaeth gyda materion hunaniaeth rhyw.
Adnoddau i genfnogi pobl - dynion, merched, plant a phobl ifanc - sydd yn dioddef trais neu sydd eisiau dweud am droseddu treisiol neu rhywiol o unrhwy fath, yn cynnwys cael eu hecsbloetio'n rhywiol.
Mae'r sefyllfa bresennol gyda phandemig COVID 19 yn amlygu materion o gwmpas unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, wrth i bobl o bob oed fynegi pryderon am hunan-ynysu. Ceir awgrymiadau a'r sut i ymdopi a'r sefyllfa a manylion cefnogaeth pellach yma.
Awgrymiadau ymarferol ar beth i wneud o ddydd i ddydd yn y sefyllfa yma.
Help a cyngor os oes rhywun rydych chi'n ei adnabod yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwn.
Gwybodaeth a chyngor ar sut i roi cartref newydd i gi.
Gwybodaeth safonol am y feirws a beth i wneud yn ymaferol. Bydd mwy o dudalennau i'ch helpu dros y dyddiau i ddod.
Cefnogaeth os ydych chi neu rhywyn agos wedi gorfod delio gyda unrhyw fath o hiliaeth.
Manylion mudiadau all helpu
Gwybodaeth a chefnogaeth os ydych yn byw gyda PTSD.
Mae canser yn rhywbeth mae'r rhan fwyaf ohonom yn mynd i ddod ar draws ar ryw bwynt yn ein bywydau. Help a chefnogaeth.
Help a chefnogaeth i'r sawl sy'n byw gyda'r cyflwr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Help a chefnogaeth gyda dewisiadau os yn feichiog.
Adnoddau i bobl sy'n byw gyda byddardod.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n bryderus o bryd i'w gilydd, ond gwybodaeth a chefnogaeth yma os yw'n ymyrryd â'ch gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Mae manylion y mudiadau a'r llinellau cymorth canlynol i'ch helpu os ydych chi neu rhywun agos i chi wedi colli rhywun ac angen help, cefnogaeth neu clust i wrando.
Gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn cynnal iechyd yr arennau.
Os ydych chi efallai gyda cwestiynnau am rhywioldeb eich hunain, ac yn edrych am gyngor neu gymorth, hwn yw'r lle i ddod. Hefyd, gwybodaeth ar sut i ddelio gyda homoffobia.
Gwybodaeth a chefnogaeth.
Gwybodaeth a chefnogaeth os ydych yn byw gyda dyslecsia, math o anhawster dysgu.
Gwybodaeth a chefnogaeth i'r sawl sy'n byw gydag awtistiaeth neu asbergers.
Mwy o wybodaeth am roi organau yng Nghymru.
Yng Nghymru, canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin i ferched, yn bennaf i ferched dros pumdeg. Er hyn, unwaith mae wedi cael ei ddarganfod, mae'r siawns o oroesi'r canser yma yn uchel ac yn gwella bob blwyddyn. Help and chefnogaeth yma.
Help i bobl sy'n byw gydag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfwyiogrwydd (ADCG)
Cefnogaeth a chymorth os ydych yn dioddef o feigryn.
Help a chefnogaeth os ydych chi'n byw gyda chyflyrau croen, gan gynnwys acne a soriasis.
Gwybodaeth a chefnogaeth am ystod o gyflyrau genynnol etifeddol.
Mudiadau sy'n cynnig help a chefnogaeth i pobl sydd wedi colli eu golwg yn ddifrifol, ac yn ceisio sicrhau annibyniaeth a gwell safon byw i bobl gyda phroblemau gweld.
Gwybodaeth a chefnogaeth i'r rhaglen Craith. Manylion sawl rhif ffôn am help yn syth.
Adnoddau i helpu a chefnogi heneiddio'n dda yng Nghymru.
Mae miloedd o bobl yn gofalu am eraill ar draws Cymru. Ceir manylion mudiadau ac elusennau i gefnogi nhw yma.
Mae yna miloedd o bobl yn byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru, a ceir gwybodaeth yma am sawl mudiad neu elusen sy'n cynnig cefnogaeth.
Cefnogaeth i'r ddrama Pili Pala.
Gwybodaeth a chymorth gyda Syndrom Blinder Cronig (ME).
Gwybodaeth ar sut i gadw'ch hun yn ddiogel rhag sgams.
Gall camdriniaeth gymeryd sawl ffurf, ond pan mae'n troi'n rhywbeth corfforol gan rhywun agos, gall fod yn sefyllfa beryg iawn. Gall ddigwydd i ddynion neu merched, er mae'n tueddu fod yn fwy cyffredin i ferched ddioddef oherwydd hyn.
Gwybodaeth a chefnogaeth gydag iselder.
Gwybodaeth am fudiadau sydd gyda gweledigaeth dyngarol eang.
Mae diabetes yn gyflwr cronig sydd yn cael ei achosi oherwydd bod y corff methu prosesu'r siwgr, neu glwcos, sydd yn y gwaed. Gwybodaeth a chefnogaeth.
Gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd rhywiol.
Manylion mudiadau a allai helpu os ydych yn byw gydag anabledd dysgu.
Help a chefnogaeth i bobl sy'n byw gydag alergedd.
Cefnogaeth a gwybodaeth i bobl ifanc ac oedolion ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein.
Mae yna lawer o fudiadau yng Nghymru sy'n ceisio sicrhau fod pobl sy'n byw gydag anabledd yn cael chwarae teg i fyw bywydau llawn ac mor annibynnol â phosib. Gwybodaeth i fynd gyda O'r Galon: Fy chwaer a fi.
Dau fath o glefyd llidus y coluddyn yw Afiechyd Crohn a Colitis. Mwy o wybodaeth a chefnogaeth ar gael yma.
Cymorth a chefnogaeth ar ôl Pobl y Cwm os os ydych yn amau eich bod chi neu rhywun rydych yn ei adnabod gyda problem gamblo.
Cymorth ac adnoddau ar ôl Rownd a Rownd.
Mae canser y gaill yn ganser sy'n effeithio dynion ifanc neu ganol oed gan fwyaf, ond os yw'n cael ei ddarganfod yn ddigon cynnar, mae 'na bob posibilrwydd gwella. Gwybodaeth a chefnogaeth ar ôl rhaglen Hansh heno.
Gall Anhwylder Gor-bryder Cymdeithasol, sy'n aml yn cael ei alw'n ffobia cymdeithasol, olygu ofn hir-dymor a llethol o sefyllfaoedd cymdeithasol.
Gwybodaeth a chefnogaeth i'r cyflwr yma ac i rhaglen Hansh heno.
Help a chymorth gyda gwahanol fathau o anhwylder bwyta, yn enwedig os mae'n effeithio un ai'ch bywyd chi neu rywun agos.
Help a chefnogaeth gydag anhwylder affeithiol deubegwn.
Cefnogaeth a gwybodaeth bellach.
Mae colli plentyn am unrhyw reswm yn un o'r profiadau mwyaf ysgytwol phosib, ac fel arfer mae angen llawer o help a chefnogaeth i ddelio gyda'r broses galaru. Cefnogaeth ar gael yma.
Cymorth a chefnogaeth ar gael o'r mudiadau yma.
Mae bwlio'n digwydd i bob math o bobl ac am bob math o resymau. Gall ddigwydd yn yr ysgol, yn y gweithle ac yn y cartref. Gwybodaeth a chefnogaeth i raglen Y Byd ar Bedwar.
Gwybdodaeth a chefnogaeth gyda rhaglen y Byd ar Bedwar heno.
Gall colli'ch gwallt ddigwydd yn annisgyl a bod yn broses emosiynol ac anodd. Adnoddau i'ch cefnogi.
Gellir stelcio gael ei ystyried fel cyfres o weithredoedd bwriadol o ddilyn, gwylio ac aflonyddu ar berson arall. Mae'r hyn fel arfer yn digwydd dros gyfnod o amser, ac yn achosi braw i'r person sy'n cael ei aflonyddu.Mwy o gefnogaeth a gwybodaeth ar ein tudalen ac i gydfynd gyda Y Byd ar Bedwar heno.
Ffibrosis codennog yw un o'r anhwylderau genetic mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig, yn effeithio ar fywydau rhai miloedd o fabanod, plant a phobl ifanc. Cefnogaeth i O'r Galon: Stori Allison
Cyflwr o fewn teulu llid y cymalau yw Spondylitis Ymasiol, un sydd fel arfer yn effeithio bywydau dynion ifanc, er mae hefyd i'w ganfod ymysg merched a phobl hyn. Credir fod cyswllt enynnol cryf iddo. Gwybodaeth i'r rhaglen O'r Galon: Tudur Philips
Am fwy o gyngor a help, neu os ydych isio clywed am brofiadau pobl run fath a chi yn mynd trwy pethau tebyg, gall rhai o'r dolenni yma eich helpu.
Mae rhaglenni S4C yn ymdrin â phynciau amrywiol. Mae'r tudalennau cymorth yma'n cynnwys deunydd cynorthwyol cyfredol. Mae hyn yn cynnwys llinellau cymorth ar y ffôn, gwasanaethau gwybodaeth wedi ei recordio ac unrhyw help perthnasol arall i rai o raglenni'r sianel.
Rydyn ni'n diweddaru'r tudalennau yma'n gyson gyda gwybodaeth am wasanaethau a mudiadau allai fod o gymorth i chi.
Mae unrhyw linellau cymorth ffôn neu wasanaethau gwybodaeth wedi ei recordio fel arfer yn defnyddio rhif ffôn rhad ac am ddim. Bydd cost galwadau o ffôn symudol yn dibynnu ar eich darparydd. Nid yw S4C yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau trydydd parti a gyfeirir atynt yn y tudalennau yma.