S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymryd rhan

Am gymryd rhan neu serennu yng nghynnwys newydd S4C?

Ar y dudalen yma, mae'r holl wybodaeth am sut i gymryd rhan ac am ba gyfresi a rhaglenni sy'n chwilio am gyfranwyr.

  • Côr Cymru 2024

    Côr Cymru 2024

    Ymgeisiwch nawr!

    Mae S4C yn falch i gyhoeddi Côr Cymru 2024 – cystadleuaeth gyda gwobr gyntaf o £4,000. Mae gan Gymru draddodiad hir a llewyrchus o ganu corawl, a nod y gystadleuaeth yw cynnal a chodi'r safonau hynny.

    Mae pump categori yn y gystadleuaeth:

    • Corau Plant 16 oed ac o dan
    • Corau Ieuenctid o dan 25 oed
    • Corau Cymysg
    • Corau Lleisiau Unfath (Merched neu Meibion)
    • Côr Sioe (cantorion sy'n cyfuno canu a llwyfannu)

    Dyddiad cau: 13 Hydref 2023.

  • Gogglebocs Cymru

    Gogglebocs Cymru

    Mae cynhyrchwyr Gogglebocs Cymru yn galw ar bobl i gymryd rhan.

    Mae'r cynhyrchwyr yn chwilio am bobl o bob cefndir sy'n caru gwylio teledu fydd yn cynrychioli Cymru yn ei holl amrywiaeth – siaradwyr Cymraeg, siaradwyr newydd ac unrhyw un sy'n hoffi siarad!

    Bydd Gogglebocs Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn narpariaeth S4C a bydd Chwarel a Cwmni Da yn gweithio gyda S4C, Channel 4 a Studio Lambert i sicrhau llwyddiant y gyfres yn yr iaith Gymraeg.

    Ymgeiswch yma: Ffurflen Gogglebocs Cymru.

Os nad oes cyfleoedd ar gael ar hyn o bryd, cofiwch ddychwelyd yn rheolaidd.

O hyd wedi breuddwydio am fod ar sgrin? Chi yn y man cywir, dyma'r lle am gyfleoedd castio sydd ar gael gan S4C.

Sut mae ymgeisio? Yn syml, ebostiwch y cwmnïoedd cynhyrchu (manylion uchod), bydd y cynhyrchiad mwy na hapus i glywed wrthoch chi.

Unrhyw gwestiynau? Cofiwch fod modd ein e-bostio ar gwifren@s4c.cymru. Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau, ac adborth, a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?