
Ar y dudalen yma, mae'r holl wybodaeth am sut i gymryd rhan ac am ba gyfresi a rhaglenni sy'n chwilio am gyfranwyr.
16.08.26
Hufen ia am ddim?! Dydd Sul yma (Awst 16) dewch i fod yn rhan o dorf ar draeth Ynys y Barri!
Bydd cwmni One Tribe yn cynnal cystadleuaeth gyda Ivy Kelly rhwng dau dîm i ddarganfod pwy all gadw bloc mawr o rew rhag toddi, fel rhan o raglen ddogfen am newid hinsawdd a fydd ar Hansh.
Bydd cynnig o hufen iâ am ddim i'r 100 cyntaf fydd yn dod erbyn 10:45 fore dydd Sul yma i draeth Ynys y Barri.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â casting@onetribe.tv neu mae croeso i chi ddod yn syth i'r traeth ddydd Sul. Croeso i BAWB!

Ceisiadau nawr ar agor
Bydd y cadeiriau coch enwog yn troelli unwaith eto’r flwyddyn nesaf.
Pwy fydd yn dilyn yn olion traed y cyn-enillwyr Carrie Sauce a Rose Datta?
Mae ceisiadau bellach ar agor i gystadlu yn y gyfres nesaf.
Os nad oes cyfleoedd ar gael ar hyn o bryd, cofiwch ddychwelyd yn rheolaidd.
O hyd wedi breuddwydio am fod ar sgrin? Chi yn y man cywir, dyma'r lle am gyfleoedd castio sydd ar gael gan S4C.
Sut mae ymgeisio? Yn syml, ebostiwch y cwmnïoedd cynhyrchu (manylion uchod), bydd y cynhyrchiad mwy na hapus i glywed wrthoch chi.
Unrhyw gwestiynau? Cofiwch fod modd ein e-bostio ar gwifren@s4c.cymru. Rydym yn croesawu cwestiynau, sylwadau, ac adborth, a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.