Os dych chi angen unrhyw gymorth o gwbl, mae tîm cyfeillgar gyda ni sy'n gallu mynd â chi trwy bopeth, yn Gymraeg neu yn Saesneg - anfonwch e-bost neu codwch y ffôn.
Mae sianel YouTube benodol gyda ni, sydd â chynnwys arbennig ar gyfer dysgwyr. Dyma lle dych chi'n gallu gwylio fideos byr ar lefelau gwahanol o Gymraeg, gyda chymorth ychwanegol fel rhestrau geiriau, geiriau ar y sgrin, ac isdeitlau syml yn Gymraeg a Saesneg. 'Dyn ni'n rhyddhau cynnwys newydd yma trwy'r amser, felly dilynwch y sianel a bydd cyfle rheolaidd i chi ymarfer.
Beth am gael hwyl yn creu Peli Straen Cartref!
📒 Lefel: Mynediad
Mae Adam yn rhannu ei dipiau hau a thrawsblannu, wrth iddo dyfu Melyn Mair Ffrengig; un o'i hoff flodau yn yr ardd.
📗 Lefel: Sylfaen
Mae Lloyd Lewis yn 'fellten ar y maes chwarae ond yn fynach yn y gegin', wrth iddo baratoi Rholyn Selsig yn Bwrdd i Dri! Mae'n edrych yn hyfryd Lloyd!
📘 Lefel: Canolradd
Mae gwylio a darllen y newyddion yn ffordd wych i ddysgu a gwella sgiliau Cymraeg – mae'n gyfle i ddefnyddio tipyn bach o Gymraeg bob dydd. Ar ein gwefan ac app Newyddion S4C (Apple iOS ac Android) mae tab "Dysgu Cymraeg", gyda chymorth ychwanegol i ddysgwyr.
Dych chi'n gallu ein dilyn ni hefyd ar gyfryngau cymdeithasol.