Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.
Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.
Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.
Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.
Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma.
Drama gomedi dywyll newydd! Ani - ffeminydd, cyfreithwraig, chwaer, modryb, merch a... mam? Mae Ani'n credu fod ganddi bopeth - y gyrfa, y tŷ, y gwyliau. Ond o dan y wyneb, ydi pethau mor berffaith ag y maen nhw'n ymddangos?
Mae mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar draws y byd.
Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.
Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.
Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.
Gyda Hywel Gwynfryn yn cael ei anrhydeddu â Gwobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau BAFTA Cymru 2023, dyma gyfle arall i weld rhaglen arbennig i ddathlu ei gyfraniad unigryw yng Nghymru. Mae'r ¿Dyn ei Hun¿ wedi bod yn llais a wyneb y Gymru Gymraeg ers 1964, ac mae'n dal i godi gwên a chreu argraff bron I 60m yn ddiweddarach. Awn ar daith trwy hanes trysor cenedlaethol gan fynd dan groen bywyd sydd wedi bod yn baradocs o'r llon a'r lleddf, a rhyfeddu at ei agwedd bositif at bob dim ¿a deud y gwir y
Jason Mohammad sy'n cyflwyno'r sioe Cwis Chwaraeon newydd sbon lle mae brains yn cwrdd â brawn, Pen/Campwyr. Tirion, Kelsey a Morgan sy'n cynrychioli tîm rygbi Prifysgol Abertawe yn ateb cwestiynau chwaraeon i ennill mantais yn erbyn yr arwr rygbi James Hook mewn cyfres o heriau chwaraeon rhithiol, i ennill gwobr ariannol.
Cyfres newydd am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Tydi Deian heb fod mewn hwylia drwy'r dydd, a'r peth dwytha' mae o isho ei wneud ydi mynd i barti aduniad coleg Dad! Ar ôl rhewi eu rhieni, ma Loli'n sylwi ar rywun neu rhywbeth yn cerdded tu allan. Does r'un ohonyn nhw'n barod i weld Clown wrth y tŷ bach twt, a honno'n glown ofnadwy o drist sy'n ffrindia' pennaf gyda'r lleuad!
Yn y rhaglen yma bydd Jord yn tywys y criw drwy goedwig Fforest Fawr tuag at Castell Coch ar gyrion Caerdydd. Yna draw i Sir Benfro a dringo mynydd Carningli yn Nhrefdraeth gyda Jane cyn ei throi hi am y gogledd i Dinas Dinlle dan arweiniad Al ac yna diweddu gyda taith heriol Harri yn Ninas Mawddy. Pedwar cystadleuydd brwd a phedair taith gerdded gofiadwy ond pwy fydd yn mynd a'r wobr o fil o bunnoedd' Dewch i ni fynd Am Dro.
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru at gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld a hen swyddfa bost sydd bellach yn loches heddychlon yn Nantlle, cartref teuluol clud ond llawn steil yng Nghaerdydd ac adeilad newydd sy'n manteisio ar oleuni'r haul ym Merthyr Tudful.
Mae'r cerddorion Al Lewis a Mari Mathias ar bererindod i Wyl Interceltique Lorient, yn Llydaw. Mae'r wyl yn ddathliad unigryw o gerddoriaeth a diwylliant y gwledydd Celtaidd, gyda 5,000 o gerddorion, cantorion, dawnwsyr, ac artistiaid gweledol yn perfformio yno. Mi fydd na gerddoriaeth, sgyrsiau, a lliw yr wyl drwy lygaid Al Lewis a Mari Mathias.
Heledd Watkins sy'n ymweld â rhai o wyliau mwyaf Cymru a thu hwnt, i ddal lan gydag amryw o artistiaid draw yn Focus Wales, The Great Escape Brighton, Dathliad Cymru-Affrica, G¿yl Triban yr Urdd a Sesiwn Fawr Dolgellau. Mae'r rhaglen uchafbwyntiau hon yn cynnwys perfformiadau hudolus gan Adwaith, Lemfreck, Melin Melyn, Dafydd Iwan a llawer mwy, mae wedi bod yn haf i'w gofio i rai o gerddorion mwyaf cyffrous Cymru - a does dim angen aros mewn pabell wlyb i fwynhau'r wledd o gerddoriaeth.
Pan gaiff Llyr wybod gan Cai bod hwnnw'n amau ei fod wedi gweld Efan, mae'n rhaid iddo weithredu. Er mai tref fechan yw Llandudno, mae hi'n troi i fod yn dref fawr iawn pan mae rhywun yn chwilio am rywun sydd mor benderfynol o sicrhau nad oes neb yn dod o hyd iddo. Chwilio am nod yn ei fywyd mae Jason ac mae'n dod o hyd i un annhebygol iawn.
Mari Lovgreen, ar ei stepen drws, sy'n mwynhau un o uchafbwyntiau'r haf yn Sir Drefaldwyn - Sioe Llanfair Caereinion a'r Cylch, sy'n dathlu 50 mlynedd ers ei ail sefydlu yn 1973. Cipolwg ar y paratoadau funud olaf, cwrdd â'r cymeridau a blas ar wefr y cystadlu ar gaeau ffarm Llysun, Llanerfyl wrth i'r gymdeithas leol ddod ynghyd i gynnal a dathlu'r gorau o un o hen draddodiadau cefngwlad.
Ym mhennod ola'r gyfres hon mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal mewn cartref yng Nghricieth. Ni fydd gan y teulu syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu - a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'
Yn rhaglen olaf y gyfres mae Iwan yn ei elfen mewn gardd goedwig yn Nyfnaint, a Carol hithau wedi teithio i'r Iwerddon i ymweld â gardd llawn lliw a bywyd gwyllt. Ym Mhant y Wennol mae Sioned yn dangos i Meinir sut i greu tusw o flodau o'r ardd tra bod Rhys yn coginio rhywbeth blasus i'r ddwy o gynnyrch Cae Pawb.
Ers y ras gynta yn 2011 mae Ironman Cymru yn Ninbych y Pysgod wedi ennill statws eiconig ymysg rasys triathlon y byd. Mae'r cwrs yn cael ei ystyried ymysg y mwya heriol, y golygfeydd gyda'r mwya trawiadol a'r cefnogwyr mwya gwallgo a swnllyd! Lowri Morgan a Rhodri Gomer fydd yn cyflwyno a Gareth Roberts sy'n sylwebu.
Ymunwch ar daith gerddorol wrth i Lloyd, Dom a Don, Gwcci, Chroma, Bwncath, a llawer iawn mwy o artistiaid adnabyddus gamu ar lwyfan Maes B 2023. O gerddoriaeth gwerin i anthemau roc trydanol, mae'r rhaglen yn daith barhaus drwy berfformiadau nodedig yr ¿yl. Dyma gyfle i ail-fyw uchafbwynt blynyddol y calendr cerddorol Cymreig, ac un o brif atyniadau'r Eisteddfod. Dyma Maes B Boduan 2023!
Mae Rali Ceredigion yn dychwelyd yn fwy nag erioed, heb os - uchafbwynt y calendr ralio yng Nghymru. Yn defnyddio ffyrdd cyhoeddus, mae rhai o gymalau tarmac gore'r byd ar Rali Ceredigion, a gyrwyr gorau'r wlad yn barod am yr her. Dros gant o geir, miloedd o ffans, oedd hi'n rali i'w chofio - Emyr Penlan a Hana Medi sy'n dod â holl gyffro'r rali o Aberystwyth.
Be chi'n cael os chi'n rhoi 4 cogydd amhrofiadol yn y gegin' Potsh wrth gwrs! Leah a Dyfed fydd yn helpu'r tîm pinc a'r tîm glas yn y gegin wrth iddyn nhw drio ennill y Pinafal Aur! Tair rownd Potshlyd sydd o'u blaenau. Yn gyntaf, bydd rhaid creu pryd mewn 10 munud, yna wynebu sypreis parsel Potsh ac i orffen coginio Prif Gwrs gan ddilyn ryseit, ond falle gawn ni ddim gweld y rysait i gyd! Yn y rhaglen yma Ysgol Llanfyllin sy'n coginio Fajitas
Wrth i ystadegau newydd Y Byd ar Bedwar ddangos fod achosion o sbeicio diodydd wedi cynyddu'n sylweddol dros y pum mlynedd d'wetha, Nest Jenkins sy'n cwrdd â dwy ferch o Ogledd Cymru sy'n dweud eu stori am y tro cyntaf. Gyda mond 3 erlyniad llwyddianus allan o 250 (ers 2018) yn llu heddlu Gogledd Cymru, maen nhw'n galw ar yr heddlu i neud mwy i ddelio gydag achosion o sbeicio.
Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.
Uchafbwyntiau pumed cymal Cyfres Triathlon Cymru o'r Bala. Y tro cynta i'r gyfres eleni ddod i'r gogledd ac wedi saib o rhyw 6 wythnos ers y ras ddwytha yn Sir Benfro mae'r frwydr i gipio coron pencampwyr 2023 yn poethi! Lowri Morgan a Gareth Roberts sydd yn ein tywys trwy holl gyffro'r gyfres. *Heledd Anna sy'n cyflwyno yn lle Lowri - ond lleisiau Lowri Morgan a Gareth Roberts yn sylwebu*
Mae'r foment fawr wedi cyrraedd - datgelu pwysau a thrawsnewidiad ein Arweinwyr yng nghwmni Lisa Gwilym, eu teuluoedd a'i ffrindiau. Dyma ddathlu taith colli pwysau ein pump Arweinydd dros y deufis diwethaf gyda chefnogaeth barhaol y pedwar arbenigwr. Ond mae'r daith yn parhau a tybed sut fyddent mewn 6 mis' Parhewch i ddilyn eu siwrna #ffitcymru
Mae Emma Walford a Trystan Ellis- Morris yn helpu criw o staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yng nhanolfan Hafan Y Waun, Aberystwyth i adnewydd eu gardd -- sef canolfan ar gyfer henoed sy'n dioddef o ddementia. Gyda help y cynllunydd crefftus Gwyn Eiddior a gyda dim on pum mil o bunnoedd o gyllid mae'r ddau gyflwynydd yn crwydro'r gymuned yn chwlio am wirfoddolwyr brwd a chwmnïau lleol gall helpu gyda'r prosiect. Ond a fydd y trigolion sy'n byw yn y ganolfan yn hapus gyda'u gardd newydd'
Ymunwch a'r tri cynllunydd brwd Carwyn Lloyd Jones, Mandy Watkins a Gwyn Eiddior wrth iddynt dderbyn yr her o adnewyddu lle bach i fewn i ddihangfa fawr. Yr wythnos hon mae'r tri yn cael dewis gwrthrych sy'n dal dŵr a'r thema ydy Lle Bach Hapus. Sut hwyl fydd y tri creadigol yn cael wrth greu gofod gwych yn eu lle bach hapus nhw'
Mae Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford yn cynnig help llaw i griw o deulu a ffrindiau Manon a Marc yn y bennod hon. Mae'r darpar bâr priod yn byw yng Nghonwy ac mae'r ddau wrth eu boddau hefo gwyliau cerddorol a chymdeithasu! Sut fydd ein criw o deulu a ffrindiau yn ymdopi wrth drefnu priodas o gwmpas y thema yma a chadw'r cwpl yn hapus'
Ifan Jones Evans sy'n ymweld â ffarm Blaennant y Mab, Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin, lle mae tri mab yn wynebu sefyllfa gyffredin iawn. Mae Alun, Daniel a Hefin i gyd am aros adref yng nghefn gwlad, ar y fferm deuluol - beth sy'n anghyffredin yw eu bod nhw'i gyd wedi mynd ati i chwilio ffordd o wneud hynny'n bosib trwy greu busnesau llwyddiannus bob un. Bechgyn sy'n fodlon mentro ydi Bois Blaennant y Mab.
Mae 3 seleb yn paratoi pryd o fwyd 3 chwrs i'w fwynhau gyda'i gilydd. Ond dydyn nhw ddim yn gwybod tan cyrraedd y bwrdd pa selebs fydd yn rhannu eu 'bwrdd i dri'. Fe fydd pob un yn gyfrifol am ddewis un cwrs ond fe fydd y tri yn coginio pob un o'r cyrsiau! - sut siap fydd arnyn nhw yn y gegin tybed' Y tri seleb yn y bennod yma fydd Connagh Howard, Mali Ann Rees a Mei Gwynedd. .
FFASIWN DREFN - RHAGLEN 4 Yn y gyfres hon bydd y cyflwynydd Lara Catrin a'n trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd ar hyd a lled Cymru. 'Lle i bopeth a phopeth yn ei le' yw'r nod. Yr wythnos hon cwpwrdd dillad Meinir Williams Jones o Ynys Môn sy'n cael ei drawsnewid.
Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn rhaglen olaf y gyfres mae'n dangos i ni sut i greu prydau 'ffansi pants', rhai sy'n edrych yn fwy cymhleth nag ydyn nhw. Ac mae Mam a Dad Colleen yn dod draw i fwynhau pwdin arbennig.
Ymunwch â'r nerthol Scott Quinnell wrth iddo deithio'r dinasoedd lle bydd Cymru'n chwarae gemau eu grwpiau - gan gwrdd â'r cefnogwyr, rhai gwesteion arbennig - a rhoi ei olwg unigryw ei hun ar y dinasoedd. Mi fydd 'na rygbi hefyd wrth gwrs - adeg Cwpan y Byd yw hi! - ond mae Scott hefyd yma i gael hwyl yn Ffrainc gyda'r cefnogwyr! Y tro hwn: Lyon.
Gyda'r farchnad tai cyfredol yn un chwilboeth, mae rôl yr arwerthwr wedi dod yn fwy allweddol nag erioed. Dilynwn ar sawdl y sawl sy'n gofalu am y prynu a'r gwerthu yn y gyfres newydd hon, gyda Llion ap Dylan yn ymweld â safle adeiladu tŷ eco ger Cross Inn yng Ngheredigion. Mae Ian Wyn-Jones yn gwerthu tŷ yng Nghaernarfon, lle mae'r perchennog hefo rheswm da dros ddod i 'nabod unrhyw brynwr posib, ac mae Sophie Williams yn miniogi ei sgiliau prisio newydd hefo bungalow ym Mhenygroes.
Dathlu hanes pobl dduon Cymru. Y tro hwn: mae Iwan Pyrs Jones yn adrodd yr antur anhygoel a fwynhaodd ef a'i gyd-chwaraewyr Ysgol Glantaf pan wnaethant greu hanes trwy fod y tîm cyntaf erioed yng Nghynghrair Rygbi Cymru i ennill yn Stadiwm Wembley yn Rowndiau Terfynol yr Ysgolion. Bu Iwan yn arwr y maes wrth iddo redeg y 60 metr llawn i sgorio cais. Wrth ail-fyw'r fuddugoliaeth hon, mae e'n galw ar bawb i frwydro yn erbyn hiliaeth.
Rhaglen deyrnged i un o actorion mwyaf eiconig Cymru, Dafydd Hywel. O'i fagwraeth yn Nyffryn Aman, i oes aur teledu a ffilm Cymreig, i'w gyfraniad rhyfeddol i adloniant ac addysg o rhan plant Cymru, dyma bortread o'r dyn yn ogystal a'r actor. Gyda chydweithrediad ei deulu a chyfraniadau gan ffrindiau, gan gynnwys Ruth Jones, Richard Harrington a Dewi 'Pws' Morris, dyma ddathliad o gymeriad cymleth a chawr Cymraeg - talent unigryw wnaeth ddylanwadu ar genedlaethau o Gymry, ar ac oddiar y sgrin.
Mae bwrlwm yn Ysgol Uwchradd Glanrafon wrth i ddisgyblion ac athrawon baratoi at y Ffair Aeaf. Ond pan mae lleidr yn dwyn un o wobrau'r raffl, mae pedwar disgybl yn gorfod treulio amser yn y 'stafell gosb nes bod rhywun yn cyfaddef¿.ond pwy sy'n euog' Drama gomedi spinoff gan Rownd a Rownd.
Yn dilyn ffrwydriad hiliol gan y KKK mewn eglwys yn Birmingham, Alabama yn 1963 - lle lladdwyd pedwar plentyn - fe ddyluniodd yr artist gwydr o Gymru, John Petts, ffenestr yn portreadu Iesu fel dyn du. Gosodwyd y ffenestr yn yr eglwys yn 1964 a'i henwi y 'Wales Window'. Yn 2022, mae'r Urdd yn dathlu ei chanmlwyddiant, ac am ailgydio'n y berthynas hanesyddol rhwng Cymru ac Alabama, a bydd côr newydd yr Urdd yn teithio i Alabama i bartneriaethu gyda chôr gospel Prifysgol Alabama yn Birmingham.
Awn yn fyw o faes ein prifwyl yn Boduan ar gyfer Cymanfa Ganu Eisteddfod Llyn ac Eifionydd 2023. Yn arwain y canu mawl bydd yr arweinyddes leol Pat Jones i gyfeiliant ensemble o delynau â'r cerddor Ilid Anne Jones wrth yr organ. Cawn ddatgelu pwy yw cyfansoddwr buddugol Cystadleuaeth yr emyn-dôn eleni, a derbyn cyfarchiad gan arweinydd Cymry a'r Byd, Esyllt Nest Roberts, sydd wedi ymsefydlu yn y Wladfa. Fe fydd cyfraniadau gan Gôr yr Eisteddfod yn rhoi sylw i'r gantores fyd-enwog Leila Megane.
Stori bywyd unigryw Frank Letch wrth iddo ystyried pa effaith mae cael ei eni heb freichiau wedi ei gael ar ei fywyd. Cyfle yw hyn i gamu i mewn i fyd Frank yn ystod blwyddyn dyngedfennol yn ei fywyd, gydag archif sylweddol o fywyd Frank o'r 1970au a'r 1990au a mynediad i bob agwedd o'i fywyd a'i deulu. Yma, cawn ddarganfod sut mae agweddau tuag at anabledd wedi newid, a syfrdanu ar beth gall yr ysbryd dynol gyflawni yng ngwyneb adfyd enbyd.
Mae 'Dyfodol i Dewi' yn dilyn brwydr foesol y comediwr Eleri Morgan am ddod â babi i fyd ansicr, oherwydd newid hinsawdd. Ar ôl addo peidio â chael plentyn ei hun, oherwydd ôl troed carbon enfawr babanod y Gorllewin; mae Eleri yn ffeindio ei hyn gyda beichiogrwydd sioc, a 6 mis i ddod o hyd i ffyrdd o gael babi mwy ecogyfeillgar, a rywfaint o bositifrwydd am y dyfodol. .
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld ag ysgubor hynafol sydd bellach wedi'i hadfywio'n gartref hyfryd ger Llangollen, adeilad Sioraidd gyda golygfeydd godidog a phrosiect newydd sbon yn Ffwrnais sy'n gartref perffaith i'r teulu fyw a gweithio yno.
Sir 5 ar y daith yw Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin. Awn i Gaerfyrddin i fwynhau'r sîn roc Gymraeg yng Ng¿yl Canol Dre, i fwynhau seiclo yn ardal Llanelli, bro'r Scarlets, am drip i Dalacharn i flasu ysbryd Dylan Thomas ac am chips ar draeth Llansteffan. Gorffenwn yn y Mynydd Du, Drefach Felindre a Llandysul. Yna daw'r daith i ben yn sir enedigol Ryland, Ceredigion. Cawn fwynhau afonydd, traethau, pentrefi a threfin, trenau, rhaeadrau a promenâd!
Tra bod llwyddiant tîm pel-droed Cymru i gyrraedd yr Ewros yn 2016 wedi sbarduno dathliadau ledled y wlad, bydd un teulu yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru yn gefnogwyr cadarn o'r gêm am resymau gwahanol. Mae Ffoadur Maesglas FC yn dilyn Muhunad a'i fab Shadi, a wnaeth ffoi o erchyllderau rhyfel Syria, ar daith emosiynol o'u cartref newydd yn Aberteifi i'r 'Theatre of Dreams'.
Noson o gomedi LHDTC+ wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Eglwys Norwyaidd hanesyddol Bae Caerdydd, wedi ei chyflwyno gan Al Parr. Sêr y sioe yw rhai o ddigrifwyr gorau Cymru - Priya Hall, Ellis Lloyd Jones, Leila Navabi, Chris Rio, a Sianny Thomas. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan Gymuned Ddawnsfa Gymreig.
Gareth yr Orangutan sy'n cyflwyno Gareth!, ei raglen deledu hir-ddisgwyliedig ble mae Gareth, ynghyd a'i fand, HMS Morris yn cyfarfod ac yn sgwrsio gyda rhai o wynebau amlycaf Cymru. Yn y rhaglen hon bydd Gareth yn cyfweld y gantores ac awdur, Non Parry ynghyd a'r actor a digrifwr, Iwan John.
Ffilm ddogfen gyda archif o'r cyfnod a chyfweliadau newydd yn cael eu cyfuno i adrodd stori anghredadwy Comin Greenham. Byddwn ni'n ailfyw yr ymgyrch o ddwy ochr y ffens, a thrwy ddefnyddio cyfweliadau archif a newydd, byddwn ni'n gweld sut mae bywydau a theimladau y menywod wedi newid 40 mlynedd yn ddiweddarach. Mewn penodau yn dilyn storiau unigol y menywod, cawn glywed am eu haberth, eu brwydr, eu gobeithion a'u hofnau yng nganol y Rhyfel Oer, a hefyd am sut mae'r frwydr yn parhau heddiw.
Garmon ab Ion sy'n arwain y gynulleidfa trwy gyfres o heriau sy'n seiliedig ar fformatau gemau sydd wedi eu gweld yn flaenorol ar fideos Hansh. Yn gymysgedd o wynebau cyfarwydd y sianel ac aelodau o'r gynulleidfa, bydd Garmon yn ceisio ateb y cwestiwn bytholwyrdd "Pwy sy'n well: Gogs neu Hwntws'" Bydd y cystadleuwyr yn mynd benben yn erbyn wynebau cyfarwydd y sianel mewn heriau poblogaidd e.e 'Cwis Trydanol', 'Be Sy' Yn Y Bocs' a 'Dwi erioed wedi'.
Yn y rhaglen olaf o'r gyfres Iaith ar Daith y comedïwyr a'r actorion Jayde Adams a Geraint Rhys Edwards sy'n teithio ar draws Cymru gyda'r nôd o ysgogi a helpu Jayde i ddysgu Cymraeg. Fe fydd Jayde yn gwynebu cyfres o sialensau ieithyddol ac fe fydd Geraint wrth ei hochor ar hyd y ffordd. Ac fe fydd digon o gaws i gyd-fynd gydag ambell jôc gawslyd falle' Ond- a fydd y Gymraeg yn llifo neu'n brifo'
Ar ddiwrnod ola'r Sioe Frenhinol, Meinir Howells fydd yn arwain Pawb a'i Farn arbennig o Lanelwedd. Cyfle i'r gymuned wledig a gwleidyddion a'r undebau drafod sut sefyllfa sydd ar y diwydiant amaeth a'r amgylchedd. Ymysg y pynciau dan sylw - y pryder am TB mewn gwartheg, targedau plannu coed llywodraeth Cymru, a safonau dwr ac afonydd y wlad.
Be sy'n mynd mlaen mewn un o'r 'car meets' drwg-enwog sy'n denu miloedd ar filoedd o bobl ifanc ar draws Prydain bob wythnos' Dyna mae criw ceir Unit Thirteen isio ffeindio allan yn y bennod olaf o'r gyfres, cyn neidio o un eithaf i'r llall a theithio ar draws y môr Gwyddelig at LZ Festival i weld ffordd llawer gwell - a saffach - o fwynhau ceir.
Yn y gyfres hon, bydd Elin Fflur yn ymweld â gerddi'r 'gwesteion' liw nos ac yn sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!). Yn ei ffordd agos-atoch bydd Elin hefyd yn dod i nabod y person 'go iawn', y person teuluol a pherson y cartref. Y tro hwn, y cyn-chwaraewr pel-droed John Hartson fydd yn serennu.
Mae'r cyn-ddeintydd Matt York wedi bachu swydd yng Ngogledd Cymru gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd e, a'i bartner Robbie sy'n fyddar, yn chwilio am gartref newydd. Ei tywysydd lleol fydd Janine Hall, sy'n wreiddiol o Loegr ac sydd bellach wedi dysgu Cymraeg ar ôl byw ym Mlaenau Ffestiniog ers chwe mlynedd. Y pynciau o dan sylw fydd diffyg tai fforddiadwy, airbnbs, amrywiaeth, anabledd a pha mor hawdd yw hi i ddod yn rhan o gymdeithas glos.
Cyfres yn dilyn Marian a Rob Evans o Lansteffan, sydd wedi prynu ty fferm gyda thir, coedwig, a chastell Normanaidd. Yn y bennod olaf ac ar ol dwy flynedd o aros, mi gewn ni weld y briodas gyntaf swyddogol yn y castell. Hefyd, mae Ffion a Catrin yn cael blas ar gadw gwenyn, ac fe gewn ni weld beth yw cynlluniau Marian ar gyfer y dyfodol gyda'r fferm a'u busnesau.
Yn rhaglen olaf y gyfres, Catrin Haf Jones a'i phanel o westeion sy'n ymateb i'r anhrefn yn Nhrelai yn dilyn marwolaeth dau fachgen ifanc yno nos Lun. Fe glywn y diweddaraf am heriau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a Gwern Gwynfil o Yes Cymru fydd yn cael ei holi wedi'r ymgyrchu diweddar.