S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rhyngwladol

Sut i wylio S4C yn rhyngwladol?

Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.

Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.

Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.

Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma.

Marw gyda Kris

Kristoffer Hughes sy'n teithio'r byd i ddod o hyd i'r ffyrdd mwyaf gwahanol, ac efallai gwell o ddelio â marwolaeth. Dyma daith bersonol i galon marwolaeth.

Ein Cylchlythyr

Ar gael nawr

Mae mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar draws y byd.

Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.

Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.

Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.

  • Itopia - Cyfres 2

    Itopia - Cyfres 2

    Cyfres ddrama sci-fi. Mae Lwsi yn sylweddoli nad yw Ems na Zac wedi bod yn onest gyda hi ac mae hi'n dod wyneb yn wyneb â'r person olaf mae hi eisiau cwrdd. Ac ar ôl iddi hi a Sara cael eu cloi yn Uned Biotech Itopia, mae Alys ar fin cael sioc hefyd.

  • Kim a Cai a Cranc

    Kim a Cai a Cranc

    Ymunwch â Kim a Cai ar antur hudolus a chwareus sy'n llawn dawns a cherddoriaeth wrth iddyn nhw chwilio am gragen newydd i Cranc!

  • Odo

    Odo

    Cartwn hyfryd am gwdihw bach o'r enw Odo a'i ffrindiau yn y goedwig.

  • Dal Dy Ddannedd

    Dal Dy Ddannedd

    Timau o Ysgol Awel Taf sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glan ac ennill Tlws Dani Dant heddi'

  • Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd - 3

    Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd - 3

    Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yma bydd hi'n dangos ryseitiau i greu prydau ffansi yn y cartref. Y tro hwn, mae ei brawd Scott yn dod i'r gegin i helpu creu pryd i'w rhieni. Ryseitiau y gyfres ar s4c.cymru/cegin.

  • Cysgu o Gwmpas

    Cysgu o Gwmpas

    Amser i Beti a Huw ddod a'u taith i ben, a lle gwell i wneud hynny nag yng ngwesty'r Albion, Aberteifi. Wedi ei leoli ar lan y Teifi, bydd y ddau yn ymuno a llongwr lleol am fordaith fach, cyn mentro nol i'r aber am noson o chwerthin a pizza.

  • Cartrefi Cymru - Cyfres 1

    Cartrefi Cymru - Cyfres 1

    Cyfres lle bydd Aled Samuel a'r hanesydd adeiladau, Bethan Scorey yn edrych ar gartrefi Cymru drwy'r oesoedd. O oes y Tuduriaid hyd heddiw, byddwn ni'n agor y drws ar hanes ein cenedl drwy bensaernïaeth. Yn y rhaglen hon byddwn yn edrych ar dai cyfoes.

  • Help Llaw

    Help Llaw

    Mae Harriet wedi archebu cacen arbennig ar gyfer penblwydd Nain Help Llaw yn 100 oed, ond mae popty'r pobydd wedi torri!

  • Bendibwmbwls

    Bendibwmbwls

    Mae Ben Dant ar antur newydd i ailgylchu a throi sbwriel yn sbeshal, a gwastraff yn gampwaith. Heddiw bydd e'n ymuno á disgyblion Ysgol Y Traeth i greu trysor penigamp

  • Sain Ffagan Cyfres 2

    Sain Ffagan Cyfres 2

    Mae Sain Ffagan yn datgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r planhigion maen nhw wedi'u tyfu i liwio gwlân. Cawn gip olwg tu fewn i un o adeiladau prysuraf yr Amgueddfa, y siop losin ac mae'r gwaith adeiladu ar du allan Gwesty'r Vulcan yn dod i ben.

  • Dreigiau Cadi

    Dreigiau Cadi

    Yn yr iard ym Mhendre, mae Cadi yn sylweddoli ei bod wedi colli bollt bwysig. Dim ond 20 munud sydd ganddi i ddod o hyd i'r bollt felly mae'r dreigiau yn newid mewn i'w gwisgoedd ditectif ac yn mynd ati i holi pawb am y bollt coll. A fyddan nhw'n dod o hyd iddo mewn pryd'

  • Fferm Fach

    Fferm Fach

    Mae Megan yn mynd ar antur i Fferm Fach i weld ble a sut mae india-corn yn cael ei dyfu.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Mae plant bach wrth eu bodd yn creu ystumiau gyda'u cyrff. Dyma gân am fwrw glaw

  • Codi Hwyl America

    Codi Hwyl America

    Yn ôl yn y camperfan, mae'r actor John Pierce Jones a'r digrifwr Dilwyn Morgan yn cychwyn ar eu siwrnai ar draws Indiana ac Illinois, gan fyw bywyd ar y lôn i'r eithaf. Ar un o ddiwrnodau cynhesaf yr hâf yn America, maent yn hwylio o amgylch harbwr Chicago ar gatamaran er mwyn cael ychydig o awel; antur hollol newydd i'r ddau. I orffen y diwrnod maent yn cwrdd â chriw o Gymry alltud, Taffia Chicago mewn tafarn gan fwynhau cerddoriaeth gan gerddorion Cymreig - David Llewelyn a Rebecca Jade.

  • Sigldigwt

    Sigldigwt

    Mae Gwesty Sigldigwt ar agor! Ymunwch gyda Tref y ci, Elin a Berian wrth iddynt edrych ar ôl pob math o anifeiliaid gyda help eu ffrindiau ifanc. Heddiw cawn gwrdd â llygod bach a Gwen a'i neidr.

  • Ffermio

    Ffermio

    Bydd Alun yn cwrdd â llywydd y Sioe Frenhinol eleni ac hefyd yn edrych ar weledigaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol am y ddeng mlynedd nesaf - sy'n cynnwys dyfodol ei ffermydd. Ac fe fydd Megan yn clywed mwy am brosiect i amddiffyn ein hafonydd.

  • Dechrau Canu Dechrau Canmol

    Dechrau Canu Dechrau Canmol

    Nia Roberts fydd yn edrych ymlaen at Brifwyl yr Urdd 2025, yng nghwmni'r gof Angharad Pearce Jones a'r cerddor D Huw Rees. Daw'r emynau o Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd. A chawn berfformiad gan Gôr Unedig Ysgolion Tawe Nedd ac Afan.

  • Shwshaswyn

    Shwshaswyn

    Os yw'r byd yn teimlo yn rhy brysur, dewch i Shwshaswyn i gael saib.

  • Am Dro! - Cyfres 8

    Am Dro! - Cyfres 8

    Yn y rhifyn arbennig yma, fe fydd y newyddiadurwr Guto Harri, y rapiwr a'r cyflwynydd Dom James, y cyflwynwraig Sian Thomas a'r perfformwraig Tara Bethan yn arwain teithiau personnol er mwyn ceisio ennill mil o bunnoedd i elusen o'u dewis.

  • Sgwrs Dan y Lloer - Cyfres 6

    Sgwrs Dan y Lloer - Cyfres 6

    Elin Fflur yn sgwrsio dan olau'r lloer gyda'r dramodydd a'r awdur, Daf James.

  • 24 Awr Newidiodd Gymru

    24 Awr Newidiodd Gymru

    Yr anturiaethwr Richard Parks sy'n cychwyn ar daith newydd cyffrous, i archwilio'r dyddiau allweddol sydd wedi newid cwrs hanes Cymru. Yn syfrdanol ac ysbrydoledig, dyma'r diwrnodau a greodd nid yn unig ein gwlad ni heddiw, ond ein byd cyfan. Y tro 'ma, mae Richard yn olrhain y newid sy'n dod dim ond pan fyddwn yn codi ein lleisiau mewn protest. Dyma stori Cymru mewn ffurf heb ei gweld erioed o'r blaen. 'Mae adrodd ein stori ni yn ein hen iaith ni,' medde Richard, sy'n dysgu Cymraeg, 'yn sialens

  • Ceffylau, Sheikhs a Chowbois

    Ceffylau, Sheikhs a Chowbois

    Mae Sue ac Emrys wedi teithio i Scottsdale, Arizona ar antur siopa i brynu Ceffylau i rai o'u cleientiaid cyfoethog o fewn Sioe mwyaf ceffylau Arabaidd yn y byd.

  • Jambori

    Jambori

    Helo, siwd mae' Sut wyt ti' Croeso mawr i'r Jamborî! Ymunwch a Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar ¿ bydd cysgodion yn dawnsio, robotiaid yn chwarae a ffrwythau yn symud, hyn a lot mwy ar Jamborî!

  • Y Byd ar Bedwar - Cyfres 2024-25

    Y Byd ar Bedwar - Cyfres 2024-25

    Ymchwiliad i gwmni Consumer Energy Solutions o Abertawe. Clywn gan gwsmeriaid a chyn-weithwyr anhapus sy'n dweud bod y cwmni, sy'n derbyn grantiau eco Llywodraeth y DU, yn difetha cartrefi ac yn cymryd mantais o'r system. Gyda'r seren rygbi, Jonathan Davies, yn wyneb i'r cwmni, ry'n ni'n gofyn pwy sy'n talu'r pris wrth inni geisio bod yn wyrdd'

  • Awyr Iach

    Awyr Iach

    Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Meleri yn ymweld a Sioe Aberystwyth yng nghwmni Tomi, Ianto a Morys gyda Mali a Macs yn cael hwyl ar dwyni tywod Merthyr Mawr a Huw ac Elan yn cwrdd a dwy ffrind sydd wrth eu bodd yn marchogaeth.

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2025

    Rownd a Rownd - Cyfres 2025

    Mae hi'n ddiwrnod yr etholiad ac mae Arthur a Trystan yn gwneud popeth posib' i ennill pleidleisiau, ond mae'r canlyniad yn dysgu gwers i'r ddau. Mae trafferthion ariannol Philip yn cynyddu, ond diolch i Dylan caiff lygedyn o obaith. Mae'r annifyrwch yn parhau rhwng Mathew a Lea a chywilydd Mathew'n gwaethygu wrth i fwy o bobl ddod i wybod am ei gamgymeriad carwriaethol. Yn dilyn galwad ffon argyfyngus mae Dani'n rhuthro i Gasnewydd heb wybod bod y datrysiad i'r broblem yn llawer nes at adref.

  • Academi Gomedi

    Academi Gomedi

    Y tro ma ar Academi Gomedi, ar ôl sesiwn diddorol gyda chyflwynwyr Stwnsh, Jed a Jack, mae'n amser i'r comediwyr baratoi ar gyfer eu perfformiadau o flaen eu teuluoedd a'u ffrindiau.

  • Prynhawn Da - Cyfres 2024

    Prynhawn Da - Cyfres 2024

    Mae Sharon yn trafod steil y Gwanwyn ac mae Nia Morais a Jo Heyde yn ymuno gyda'r Clwb Llyfrau.

  • Heno - Cyfres 2024

    Heno - Cyfres 2024

    Ry' ni'n dathlu gwyddbwyll yng Nghastell Nedd, ac mae Joe Healy yn westai yn y stiwdio.

  • Ein Byd Bach...

    Ein Byd Bach...

    Araf a Chyflym ¿ Byddwn yn dysgu am sut mae'r byd yn troi, beth yw rhewlif a sut mae'n symud. Sut mae planhigion gwahanol yn tyfu ar gyflymdra gwahanol, ac am Morus y Gwynt.

  • Dysgu gyda Cyw

    Dysgu gyda Cyw

    Rhaglenni addysgiadol ar gyfer y plant lleiaf.

  • Dathlu 'Da Dona

    Dathlu 'Da Dona

    Ymunwch â Dona Direidi wrth iddi gynnal parti pen-blwydd llawn gemau, hwyl, dawnsio a chanu.

  • Cacamwnci

    Cacamwnci

    Cyfres gomedi i blant meithrin sy'n cynnwys sgetsys, eitemau doniol, jôcs a chymeriadau dwl newydd sbon.

  • Blociau Rhif

    Blociau Rhif

    Hwyl a sbri i blant ifanc gyda'r blociau rhif.

  • Boom!

    Boom!

    Ymunwch â Rhys ac Aled Bidder am yr arbrofion gwyddonol sy'n rhy beryglus i'w gwneud adre'. Y tro yma, mae'r ddau mewn iard sgrap yn edrych ar sut mae pendil yn gweithio, yn herio'i gilydd mewn gêm o Sioc! a Siwpyr Aled yn trio symud car gyda help mantais mecanyddol.

  • Deian a Loli

    Deian a Loli

    Does dim byd gwell gan Deian a Loli na chwarae yn yr Arcêd, ac ma'r ddau'n benderfynol o guro Tegan meddal o'r peiriant crafanc. Ond wrth wneud ei hun yn fach i geisio nôl Tegan mae Deian yn cael ei ddal, ac os nad ydi Loli'n gallu curo sialens yn erbyn yr Arceidwad mae peryg i'w brawd droi'n Degan meddal am byth!

  • Sain Ffagan - Cyfres 1

    Sain Ffagan - Cyfres 1

    Dyma olwg unigryw tu ôl i ddrysau Sain Ffagan. Ar ôl 6 mis o waith adnewyddu, mae'n bryd i'r sgaffald ddod i lawr oddi ar Dwr y Cloc. Yn Fferm Kennixton, mae Ceri'r garddwraig yn cael hwyl yn glanhau'r lloriau wrth stampio perlysiau o'r gerddi i mewn i'r pren.

  • Oli Wyn

    Oli Wyn

    Cyfres i blant meithrin am gath fath fywiog sy'n hoffi cerbydau o bob math.

  • PwySutPam?

    PwySutPam?

    Cyfres wyddoniaeth newydd sy'n mynd ati i egluro sut mae'r byd o'n cwmpas yn gweithio. Mae olew yn sylwedd dadleuol. Ar yr un llaw, mae wedi pweru datblygiad y byd diwydiannol, ond ar y llaw arall, yn un o'r prif resymau dros gynhesu byd eang. Y gwyddonydd Bedwyr ab Ion Thomas sy'n cymryd golwg agosach ar yr hylif tywyll o grombil y Ddaear.

  • Bwystfil

    Bwystfil

    Wythnos yma cawn gip olwg ar arwyr y byd gwyllt wrth i ni gyfri lawr deg anifail sydd â phwerau arbennig.

  • Annibendod

    Annibendod

    Mae Gwyneth wedi derbyn gwahoddiad i ddangos wyau arbennig y fferm ar y raglen Prynhawn Da ond pan mae Anni a Cerys yn torri pob wy sydd ar y buarth rhaid meddwl am ddatrysiad ar frys!

  • Hen Dy Newydd - Cyfres 2

    Hen Dy Newydd - Cyfres 2

    Y tro hwn, mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ystafell mewn cartref teuluol ym Mhenrhyn Coch. Ni fydd gan y teulu syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu - a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'

  • Cymry ar Gynfas - Cyfres 2

    Cymry ar Gynfas - Cyfres 2

    Yn y rhaglen hon bydd yr artist aml-gyfrwng Wil Rowlands yn mynd ati i geisio peintio portread o Dafydd Iwan.

  • Ein Byd Bach Ni

    Ein Byd Bach Ni

    Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, tirwedd, plant a'r diwylliant yno.

  • Kim a Cêt a Twrch

    Kim a Cêt a Twrch

    Ymunwch â Kim a Cêt ar antur hudolus a chwareus sy'n llawn dawns a cherddoriaeth wrth iddyn nhw chwilio am Twrch yn y goedwig.

  • Anifeiliaid Bach y Byd

    Anifeiliaid Bach y Byd

    Dewch ar antur gyda ni i gwrdd ag anifeiliaid bach y byd. Yn y rhaglen hon fe ddown i nabod dau anifail sy'n hoffi bod yn brysur sef yr afanc a'r morgrugyn.

  • Penblwyddi Cyw

    Penblwyddi Cyw

    Os wyt ti'n dathlu dy ben-blwydd, dyma gyfle i ti weld dy lun ar Cyw.

  • Ne-wff-ion

    Ne-wff-ion

    Heddiw ar Newffion mae Tom ac Ela-Medi am greu fersiwn newydd o'r gan Penblwydd Hapus.

  • Priodas Pum Mil - Cyfres 7

    Priodas Pum Mil - Cyfres 7

    Abbey a Danial o Bwllheli yw'r pâr hyfryd sy'n cael priodas am bum mil o bunnoedd tro 'ma! Yn lwcus iddyn nhw, mae ganddyn' nhw lond trol o deulu a ffrinidau sydd am wneud yn siwr eu bod nhw'n cael y diwrnod gorau un!

  • Bwyd Epic Chris

    Bwyd Epic Chris

    Risét o drydedd cyfres Bwyd Epic Chris - Pancos Budr.

  • Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Mae gan Cadi ac Owain dasg arbennig heddi, ffeindio gwisg addas ar gyfer parti plu, a'r iâr sydd angen eu sylw nhw yw Gemma. Athrawes nofio o Gaerffili, sydd hefyd yn fam i Ella, merch un flwydd oed.

  • Gwrach y Rhibyn

    Gwrach y Rhibyn

    Cyfres antur lle' mae timau o bedwar yn ceisio cyrraedd lloches ddiogel cyn i'r haul fachlud a dianc rhag Gwrach y Rhibyn. Mae amser yn brin i'r timau i gwblhau eu sialensiau nesaf. Mae Ysgol Brynrefail yn gorfod rhannu'n barau i'r cam nesaf a Tryfan yn brwydro yn erbyn llif yr afon.

  • Sali Mali

    Sali Mali

    Mae gan SALI MALI olwyn crochennydd newydd ac mae'n canfod hobi newydd. Mae ei ffrindiau am greu pethau hefyd ac yn dechrau llunio siapiau gyda chlai, ond TOMOS CARADOG yw'r un mwyaf creadigol, wrth iddo greu cerfluniau o gaws!

  • Jen a Jim Pob Dim

    Jen a Jim Pob Dim

    Mae'n dawel ar y fferm heddiw - mae'n rhaid bod rhywun ar goll. A all 'y llyfr pob dim' helpu Jen a Jim ddod o hyd i ba anifail sydd wedi diflannu'

  • Ser Steilio

    Ser Steilio

    Creu slogan a chynllun i grys-T fydd yr her sy'n wynebu ein Steilwyr ifanc yr wythnos yma. Dan olwg craff y beirniad Rhys Grail, sydd hefyd yn aelod o'r band Gwilym.

  • Chwarter Call

    Chwarter Call

    Ymunwch â Cadi, Luke, Jed a Miriam yn y gyfres gomedi Chwarter Call. Digonedd o hwyl a chwerthin gyda Toni Tiwns, Salon Ogi a'r Ddau Dditectif.

  • Dewi a'r Ditectifs Gwyllt

    Dewi a'r Ditectifs Gwyllt

    Mae Cwnstabl Dewi Evans wedi dychwelyd gyda 4 Ditectif Gwyllt newydd yn y gyfres newydd hon! Beth fydd y criw'n helpu datrys y tro hwn'

  • Amser Maith yn ôl - Oes y Tywysogion

    Amser Maith yn ôl - Oes y Tywysogion

    Yn rhaglen ola'r gyfres mae 'Amser Maith Maith yn ôl' yn mynd a ni i'r Oesoedd Canol ag i Llys Llywelyn. Mae hi'n dawel yn Llys Llywelyn heddiw. Mae'r Tywysog a'i osgordd wedi gadael. Mae nhw yn symud at un o lysoedd arall Llywelyn. Ond, mae gwaith tacluso i'w wneud a tybed beth sydd ar y gweill gyda'r ddau ddrygionis - Grwgyn a Gruffudd. Mae hi'n dawel yn Llys Llywelyn heddiw. Mae'r Tywysog a'i osgordd wedi gadael. Ond, mae gwaith tacluso i'w wneud ac mae rhywbeth ar y gweill gyda Grwgyn

  • Da 'Di Dona

    Da 'Di Dona

    Dewch i ymuno â Dona Direidi wrth iddi gael tro ar bob math o swyddi gwahanol.

  • Cegin Bryn: Yn Ffrainc

    Cegin Bryn: Yn Ffrainc

    Mae'r cogydd Bryn Williams yn teithio dros y dwr i Ffrainc yn y gyfres hon i ail-ddarganfod ei wreiddiau coginio.

  • Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Y tro hwn, ma'r bois nôl ar yr hewl ac ar y ffordd i Lerpwl. Dinas sydd, medde nhw, yn ddarn bach o Gymru yn Lloegr. Pêl-droed, y Beatles - ac yn achos y bois - bwyd! Ar ôl trip o gwmpas y ddinas a'r strydoedd Cymraeg bydd ¿Scouse¿ yn y Gadeirlan, a pizza brecwast yn Albert Dock. Trip lan i Southport wedyn i wneud bach o shrimpo, cyn anelu am Luban - bwyty Tseineiadd gorau'r ddinas - a fel yr arfer, parti pizza wedi ysbrydoli gan yr hyn ma'r bois di ddysgu!

  • Cymry ar Gynfas - Cyfres 4

    Cymry ar Gynfas - Cyfres 4

    Mae'r artist Steve 'Pablo' Jones o Gaernarfon yn pacio bag ac yn mynd i Covent Garden yn Llundain, i Eglwys Sant Paul ble mae'n cwrdd â'r canwr Aled Jones er mwyn gwneud portread ohonno. Er bod Aled a Steve yn edrych fel y cwpwl od, fe wnaethon nhw dynnu mlaen yn syth ac yn sgwrsio fel cwpl o hen ffrindiau. Mae Aled yn teimlo y gall fod yn agored am yr amser pan gollodd y cariad at ganu ond a fydd Steve yn gallu dal y bregusrwydd hwnnw pan ddaw i'r portread'

  • None

    Ffion Dafis: Bras, Botox a'r Bleidlais

    Ganrif wedi i rai merched ennill y bleidlais am y tro cyntaf, yr actores a'r awdures Ffion Dafis sy'n mynd ar daith bersonol i weld faint sydd wedi newid i fenywod erbyn heddiw. Yn ogystal â siarad â'r menywod dylanwadol yn ei bywyd ei hun, bydd Ffion yn sgwrsio â merched ysbrydoledig o bob cwr o'r wlad er mwyn gweld faint mae cymdeithas wedi symud ymlaen. Wrth fwrw golwg yn ôl dros rai o frwydrau mawr y mudiad hawliau merched, bydd Ffion yn myfyrio ar y brwydrau sydd dal angen eu hennill.

  • Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 3

    Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 3

    Pennod ola'r gyfres ac fe fydd Elin yn sgwrsio hefo seren y llwyfan a'r sgrîn, y fytholwyrdd Gillian Elisa. Â hithau bellach nôl 'adre' yn Llanbed dyma'r noson gynta i Gillian gynnal gwledd yn ei gardd - croeso cynnes a sgwrsio tan yr oriau mân, a hanner canrif o straeon am ei gyrfa anhygoel yn yn llifo. O flaen tanllwyth o dân fe fyddwn ni'n hel atgofion am ddyddiau yr opera roc Melltith ar y Nyth, Sabrina yn Pobol y Cwm¿ ac wrth gwrs, pwy all anghofio, Mrs OTT.

  • Cymry ar Gynfas - Cyfres 3

    Cymry ar Gynfas - Cyfres 3

    Y tro hwn, yr artist dyfrliw Teresa Jenellen sy'n mynd ati i wneud portread o'r actor Sharon Morgan.

  • Jason Mohammad: Stadiymau'r Byd

    Jason Mohammad: Stadiymau'r Byd

    I orffen y gyfres, mae Jason yn profi awyrgylch unigryw diwrnod gêm mewn stadiymau sy'n amrywio o'r hanesyddol i'r gwirioneddol eiconig, gan gynnwys Cae Ras Wrecsam, Stadiwm Brandywell yn Derry, Arena Hangzhou yn Tsieina a Stadiwm Azteca yn Ninas Mecsico.

  • Ahoi!

    Ahoi!

    Mor Ladron ifanc Ysgol Bryn y Mor sy'n herio tasgau Capten Cnec heddiw.

  • Shwshaswyn

    Shwshaswyn

    Beth sy'n digwydd ym myd Shwshaswyn heddiw'

  • Caru Canu a Stori

    Caru Canu a Stori

    Sut mae cadw'n oer pan mae'r tywydd yn chwilboeth' Dyna beth mae Peredur, Peri a Casi'n ceisio ei ddatrys.

  •  Chwedloni

    Chwedloni

    Straeon unigryw sy'n adlewyrchu bywyd.

  • Cywion Bach

    Cywion Bach

    Mae gair gwych heddiw. Dere i ddysgu ac arwyddo'r gair 'sbectol' gyda Bip Bip, Pi Po, Bop a Bw!

  • Awyr Iach

    Awyr Iach

    Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Huw yn ymuno â Chlwb Achub Bywyd Llanilltud Fawr, gawn ni gwrdd â Hollie a Heidi a'u ffrindiau pigog, a bydd Meleri a Ieuan yn chwilio am pob math o adar yn Llanelli

  • Efaciwîs

    Efaciwîs

    Ar ôl ymgartrefi yn Llanuwchlyn a gwneud ffrindiau da gyda'r plant lleol, mae'r rhyfel yn dod i ben ac mae'n bryd i'n wyth efaciwi fynd adre. Ond cyn hynny mae mabolgampau a pharti steil diwrnod VE i'w fwynhau.

  • Welsh Whisperer: Ni'n Teithio Nawr 2

    Welsh Whisperer: Ni'n Teithio Nawr 2

    Daw taith y Welsh Whisperer i ben ym mhentref Trawsfynydd lle fe fydd yna wers bysgota ar lyn Trawsfynydd yng nghwmni Marion Davies.

  • None

    Can i Gymru 2025

    Elin Fflur a Trystan Ellis Morris fydd yn cyflwyno prif gystadleuaeth cyfansoddi y flwyddyn. Mewn darllediad byw o Dragon Studios ym Mhencoed, bydd 8 cân newydd yn brwydro am dlws enillydd Cân i Gymru ynghyd a gwobr ariannol o £5000 i'r enillydd, £2000 i'r ail a £1000 i'r trydydd. Pleidlais gyhoeddus yn unig fydd yn dewis yr enillydd, felly cofiwch i fwrw eich pleidlais. Y barnu, y cystadlu, yr anthemau di-ri, pwy fydd y nesa i hawlio eu lle yn hanes Can i Gymru'

  • Fferm Fach

    Fferm Fach

    Dydy Mari ddim yn credu Mam bod Cennin Pedr yn tyfu o fwlb felly mae Hywel y ffermwr hudol yn cynnig helpu.

  • Dreigiau Cadi

    Dreigiau Cadi

    Pan na ellir dod o hyd i'r baneri priodas, mae'r dreigiau'n rhoi cynnig ar ailgylchu gyda baneri o fath gwahanol iawn i addurno'r orsaf.

  • Cacamwnci

    Cacamwnci

    Cyfres gomedi i blant meithrin sy'n cynnwys sgetsys, eitemau doniol, jôcs a chymeriadau dwl iawn!

  • Jen a Jim a'r Cywiadur

    Jen a Jim a'r Cywiadur

    Cyfres addysgiadol ar gyfer plant meithrin yng nghwmni Jen a Jim.

  • Ahoi!

    Ahoi!

    Mae'r môr-ladron Ben Dant a Cadi wedi glanio ar Ynys Bendibelliawn, ond mae'r hen gapten drewllyd Capten Cnec wedi glanio yno'n barod ac wedi cipio'r ynys. A fydd y criw o forladron bach o Ysgol Nantgaredig yn llwyddo i helpu Ben Dant a Cadi i drechu Capten Cnec a chipio'r ynys yn ôl'

  • Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

    Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

    Rhaglen deithio lle bydd y cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â'r Wladfa ym Mhatagonia er mwyn darganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865. Bydd Gwilym yn cwrdd â nifer o bobl leol ar hyd a lled y Wladfa wrth iddo ddysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a'r diwylliant. Mae taith Gwilym yn cychwyn ym Mhorth Madryn wrth iddo ddysgu am hanes y Cymry gobeithiol laniodd yno ar fwrdd y Mimosa.

  • Dan Do

    Dan Do

    Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn yn Nhrefdraeth yn ymweld â bwthyn carreg traddodiadol Rhian Rees a'i theulu, sydd wedi cael ei adnewyddu.

  • Amser Maith Maith Yn Ôl

    Amser Maith Maith Yn Ôl

    Stori o Oes y Tuduriaid sydd gan Tadcu i Ceti heddiw yn 'Amser Maith Maith yn ôl'. Mae gan Meistres Bowen newyddion I'r gweision, mae 'na ddathlu yn mynd I fod ac felly yn ddiwrnod prysur i'r Gweision a'r Morwynion.

  • Oli Wyn

    Oli Wyn

    Yn oriau mân y bore, pan mae'r strydoedd yn dawel, un o'r ychydig pobl sydd mas yn gyrru yw dynion llaeth. Heddiw, ry' ni'n cymryd golwg agosach ar sut mae fflôt laeth hen ffasiwn yn gweithio.

  • Jambori

    Jambori

    Helo, shw' mae' Sut wyt ti' Croeso mawr i gyfres newydd o Jamborî. Ymunwch â Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar - gyda hwyaid yn dawnsio yn y bath, drws hudol yn y parc a chath yn coginio cacen. Hyn a lot mwy ar Jamborî!

  • Ne-wff-ion

    Ne-wff-ion

    Yn y Bala, cawn glywed hanes ffenestr liw arbennig iawn. Tudur Owen sy'n siarad am bwysigrwydd enwau llefydd Cymraeg. A bu camerau Newffion mewn cystadleuaeth bwysig iawn ym Mae Caerdydd ¿ pwy fydd ennillydd Ci'r Flwyddyn Senedd Cymru'

  • Am Dro! - Cyfres 4

    Am Dro! - Cyfres 4

    Rhifyn arbennig o'r gyfres fel rhan o Wythnos Traethau S4C, lle cawn ein tywys ar hyd pedair taith arfordirol ddifyr. Pwy o'r gr¿p fydd â'r wibdaith fwyaf cofiadwy, y picnic mwyaf blasus a'r ffeithiau mwyaf diddorol' Diane Roberts o Borthaethwy, Larissa Armitt o Abersoch, Paul Davies o Bognor Regis (ond o'r Rhondda'n wreiddiol), a Dewi Edwards o Lanilltud Fawr yw'r pedwar bydd yn mynd benben am y cyfle i ennill £1,000.

  • Dal Dy Ddannedd

    Dal Dy Ddannedd

    Timau o Ysgol Gwenllian sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwya o ddannedd glân ac ennill Tlws Dani Dant heddi'

  • Teulu Dad a Fi

    Teulu Dad a Fi

    Ail-ddangosiad i nodi Mis Hanes Pobl Ddu. Cyfres dwymgalon yn olrhain hanes teulu Wayne a Connagh Howard yng Nghymru, Iwerddon a Jamaica. Mae'r pâr yn cychwyn ar eu taith yn Southampton a Chaerdydd.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Hwiangerdd draddodiadol am lwynog coch yn cysgu ac yna'n deffro'n barod am ddiwrnod hyfryd arall.

  • Adre - Cyfres 1

    Adre - Cyfres 1

    Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yng nhartrefi rhai o enwogion Cymru.

  • Taith Bywyd - Cyfres 1

    Taith Bywyd - Cyfres 1

    Owain Williams fydd yn mynd a'r cyn aelod seneddol, Sian James ar daith bywyd. Byddwn yn clywed hanes Streic y Glowyr pan ddarganfyddodd Sian ei llais, a sud deimlad oedd cael ei stori wedi ei adrodd yn y film lwyddiannus, Pride.

  • Mabinogiogi a Mwy - Cyfres 5

    Mabinogiogi a Mwy - Cyfres 5

    Fersiwn criw Stwnsh o chwedl ci enwocaf Cymru ¿ Gelert gyda lot o fwythau, mynd am dro, a chyfarth. Joiwch Mabino-ci o-ci o-ci, wff wff wff!

  • 24 Awr Newidiodd Gymru

    24 Awr Newidiodd Gymru

    Golwg tu ôl i'r llen ar y gyfres.

  • 6 Gwlad Shane ac Ieuan

    6 Gwlad Shane ac Ieuan

    Mae taith cyn asgellwyr Cymru, Ieuan Evans a Shane Williams, i brif ddinasoedd pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dod i ben. Bydd y ddau yn ymweld a'r stadiwm lle ddechreuodd y cyfan i Ieuan cyn gorffen eu siwrne yng ngardd gefn yr hên elyn.

  • Adre - Cyfres 5

    Adre - Cyfres 5

    Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o enwogion Cymru yng nghyfres 5 o 'Adre'.

  • Adre - Cyfres 6

    Adre - Cyfres 6

    Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o enwogion Cymru yn y gyfres 'Adre'. Mae bob 'Adre' yn wahanol a'r cartref yn aml iawn yn adlewyrchu'r cymeriad sy'n byw yno. Yr wythnos hon byddwn yn ymweld â chartref yr ymladdwr cymysg proffesiynol, Brett Johns.

  • None

    Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

    Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl

  • Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Ym mhennod olaf y gyfres, mae Alun, Chris a Kiri ymweld â phyllau daearwresol sanctaidd y Maori yn Rotorua, cyn cael bath mwd a gwers syrffio mewn storm!

  • Am Dro! - Cyfres 7

    Am Dro! - Cyfres 7

    Mae mil o bunnoedd yn y fantol a phedwar yn brwydro i'w hennill drwy arwain teithiau cerdded i arddangos eu hardaloedd ar eu gorau. Byddwn yn ymweld â Ffostrasol, Llanfairpwll, Merthyr Mawr ac Abermaw yng nghwmni Cerys, Llew, Gwilym a Sian.

  • Ar Dâp - cyfres 2

    Ar Dâp - cyfres 2

    Y tro hwn, y band Adwaith sy'n rhannu eu cerddoriaeth gyda ni.

  • Arfordir Cymru: Llyn

    Arfordir Cymru: Llyn

    Taith ar hyd arfordir Pen Llyn i ymweld â phentrefi a lleoliadau diddorol.

  • Be Di'r Ateb

    Be Di'r Ateb

    Yn y bennod hon, mae Jade yn cwrdd â Lora, sydd eisiau gofyn i'w chariad, Richard, symud i mewn gyda hi, i'w chartref newydd. Ond, Be di'r ateb'

  • Boom!

    Boom!

    Ymunwch â Rhys ac Aled Bidder am arbrofion gwyddonol Nadoligaidd! Hwyl yr wyl mewn raglen wyddonol ho-ho-hollol hurt!

  • None

    Bronwen Lewis: O'r Stafell Fyw

    Bronwen Lewis, yr artist cynhwysol, arloesol sydd wedi ei gwreiddio yn ei chymuned a'i phobl. Gwelwn Bronwen yn llwyfannu ei thaith 'Yr Ystafell Fyw' ar lwyfan Canolfan y Celfyddydau Pontardawe.

  • Bwrdd i Dri - Cyfres 3

    Bwrdd i Dri - Cyfres 3

    Mae 3 seleb yn paratoi pryd o fwyd 3 chwrs i'w fwynhau gyda'i gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. OND nid nhw fydd yn paratoi na choginio'r rysáit maen nhw wedi'i dewis. Sut siâp fydd arnyn nhw yn y gegin tybed' Ar ôl y coginio mae'n amser blasu a chyfarfod â'r gweddill. Beth maen nhw i gyd yn ei feddwl o ryseitiau ei gilydd' A fydd y bwyd yn plesio' Heddiw fydd 'na dri o'r byd newyddion a thywydd o gwmpas y Bwrdd i Dri.

  • Cais Quinnell - Cyfres 1

    Cais Quinnell - Cyfres 1

    Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n mynd i bysgota, Sglefrio Iâ ac yn cael gwers Bîtbocsio

  • None

    Calan Gaeaf Carys Eleri

    Mewn rhaglen arbennig dilynwn taith Carys Eleri o gwmpas Cymru wrth iddi edrych yn ôl ar ein hen arferion Calan Gaeaf Cymreig ac yna gofyn, a ydyn ni wedi colli ein cysylltiad gyda gwir ystyr y dathliad pwysig hwn'

  • None

    Calan Gayaf

    Sioe sbwci gyda llu o gymeriadau LGBTQ+ Cymru, gyda barddoniaeth, caneuon, comedi, a mwy.

  • Carlamu

    Carlamu

    Cyfres newydd llawn hwyl yn dilyn rhai o blant Cymru sy'n caru ceffylau a gweld y berthynas, y gwaith, yr ymroddiad, y siom, y dewrder a'r llawenydd sy'n ran o farchogaeth. Y tro yma, mae Harry ac Evan yn paratoi ar gyfer pencampwriaeth gemau ar gyfrwy genedlaethol ac mae Elan yn ffarwelio gyda hen ffrind.

  • None

    Carol yr Wyl 2024

    Carol yr Wyl 2024. Ymunwch gyda Lisa Angharad ar gyfer y gystadleuaeth flynyddol i ddarganfod caneuon Nadoligaidd gorau ymysg Ysgolion Cynradd Cymru.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Roedd Franz o Wlad Awstria Cân fywiog, ddoniol am anturiaethau Franz o Wlad Awstria.

  • Caru Canu a Stori

    Caru Canu a Stori

    Ymunwch gyda Cari i gael clywed pwy gafodd y syniad gwreiddiol i hongian peli lliwgar ar goed Nadolig.

  • Carufanio

    Carufanio

    Cystadleuaeth rhwng dau dîm o 4 grwp o ffrindiau sydd yn cael carafán yr un i'w gwneud fyny ar gyllideb o £200 gan ddefnyddio deunyddiau wedi ail gylchu dros gyfnod o ddeuddydd - pwy fydd yn cael eu coroni yn carafán Hansh 2024'

  • Cefn Gwlad - 2024-25

    Cefn Gwlad - 2024-25

    Loti Innes-Parry, merch o Gaerdydd sydd bellach yn gof uchel iawn ei pharch yn Swydd Rhydychen. Ceffylau yw ei bywyd o fore gwyn tan nos - yn marchogaeth a chystadlu gyda'i cheffyl ei hun, gan gyrraedd ffeinal Sioe Ceffyl y Flwyddyn eleni

  • Celwyddgi

    Celwyddgi

    Pedwar o bobl, pedwar datganiad, ond mae rhywun yn dweud celwydd. I rannu'r wobr o £500 mae'n rhaid darganfod y celwyddgi neu a fydd yr un sy'n gallu palu celwydd yn gadael gyda'r arian i gyd'

  • Cheer Am Byth

    Cheer Am Byth

    Ym mhennod tri, mae Ellie - arweinydd ¿Tîm Rebellion¿ - yn gwireddu ei breuddwyd o ymuno â thîm Cheer Cymru i gystalu mewn pencampwriaeth ryngwladol. Mae'n dod dros ei brwydr gyda hunan hyder isel diolch i gymorth gan weddill y tîm, ei chwaer, ac wrth gwrs, ei mab bach sy'n ymuno â hi pob cam o'r daith liwgar.

  • Chris a'r Afal Mawr

    Chris a'r Afal Mawr

    O fannau enwog i berlau cudd, bydd y cogyddion tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts a Tomos Parry yn coginio a chiniawa o amgylch Efrog Newydd¿ a thanio angerdd gwladgarol gyda gwledd Gymreig arbennig yn Brooklyn!

  • Chwedloni

    Chwedloni

    Gyda phencampwriaeth yr Ewros ar y gorwel (o'r diwedd), mae Chwedloni yn ôl gyda chyfres o straeon gan unigolion ar draws Cymru yn ymwneud a chwedlau pêl-droed. Boed yn chwedlau doniol neu ddifrifol, am deithio neu enwogrwydd, dyma straeon ac atgofion personol gan gefnogwyr ymroddgar pêl-droed Cymru.

  • Clwb Rygbi

    Clwb Rygbi

    Gêm fyw Super Rygbi Cymru rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd. Stadiwm Ciner Glass, C/G 19.30.

  • Clwb Rygbi

    Clwb Rygbi

    Ymunwch â Lauren Jenkins a thîm rygbi S4C ar gyfer uchafbwyntiau Super Rygbi Cymru. English Language commentary is available.

  • Codi Pac - Cyfres 4

    Codi Pac - Cyfres 4

    Geraint Hardy sydd yn 'Codi Pac' ac yn ymlwybro o gwmpas Cymru, a thref Llandudno sy'n serennu yr wythnos hon.

  • None

    Cofio `Dolig Teulu Ni

    O'r anrhegion i'r addurniadau - o'r sgrin deledu i'r bwyd, dros y can mlynedd dwetha mae'r ffordd da ni dathlu'r Nadolig yng Nghymru wedi ei drawsnewid yn llwyr. Dyma gyfle i deuluoedd ail-ymweld ag un diwrnod Dolig yn hanes eu teulu nhw, a thu ôl i'r tinsel a'r twrci, byddwn yn datgelu stori a sefyllfa eu cyndeidiau ar y pryd. Yn y rhaglen hon, fydd dau deulu yn ail-greu Nadolig arbennig o'i hanes teuluol - un teulu yn mynd nôl i 1961 a'r llall i 1984.

  • Cofis yn Ewrop

    Cofis yn Ewrop

    Uchafbwyntiau o'r rhaglenni blaenorol o Cofis yn Ewrop - cyfres ddogfen tu ôl i'r llenni yn dilyn CPD Tref Caernarfon.

  • Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd - 1

    Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd - 1

    Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn rhaglen olaf y gyfres mae'n dangos i ni sut i greu prydau 'ffansi pants', rhai sy'n edrych yn fwy cymhleth nag ydyn nhw. Ac mae Mam a Dad Colleen yn dod draw i fwynhau pwdin arbennig.

  • Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd - 2

    Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd - 2

    Cyfres goginio gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Mae'r rhaglen hon yn dathlu'r Nadolig. Mae Colleen yn caru dathlu'r Wyl gyda'r teulu a chawn weld hi'n paratoi ryseitiau Nadoligaidd, rhannu hen draddodiadau a rhai newydd .

  • None

    Cranogwen gyda Ffion Hague

    Yr hanesydd a'r ddarlledwraig Ffion Hague sy'n olrhain stori yr arwres arloesol Cranogwen, wrth i gerflun arbennig ohoni gael ei ddadorchuddio yn Llangrannog.

  • Curadur - Cyfres 2

    Curadur - Cyfres 2

    Mae'r bennod olaf yn y gyfres yn mynd â ni i'r Dê-Ddwyrain i gwrdd â Lemfreck, y cerddor o Gasnewydd, wrth iddo ddilyn traddodiad y ddinas o chwyldro a cheisio dod a'r Gymraeg a sîn MOBO Cymru ynghyd. Perfformiadau gan Lemfreck, Mace the Great, Lily Beau, Luke RV a Dom & Lloyd.

  • Curadur - Cyfres 3

    Curadur - Cyfres 3

    Cate Le Bon sy'n curadu'r bennod arbennig hon - o Orllewin Cymru i anialwch Joshua Tree, California. Gyda Pys Melyn, Accu, Kris Jenkins, Samur Khouja, Devendra Banhart, Courtney Barnett a Stella Mozgawa.

  • Curadur - Cyfres 6

    Curadur - Cyfres 6

    Dewch i dyrchu trwy archif Recordiau Sain yng nghwmni'r cynhyrchydd a DJ hip-hop o Aberdar, Don Leisure, wrth iddo greu casgliad newydd o ail-ddehongliadau rhai o glasuron a gemau coll y label. Ar hyd y ffordd cawn gwrdd a rhai o'r cymeriadau chwedlonol y tu ol i'r caneuon mae e wedi eu samplo wrth greu ei record newydd; 'Tyrchu Sain'.

  • Cymru, Dad a Fi

    Cymru, Dad a Fi

    Cyfres yn dilyn taith tad a mab, Wayne a Connagh Howard, o gwmpas rhai o ynysoedd Cymru. Yn y rhaglen gyntaf hon, bydd y ddau'n mynd ar daith o'u cartref yng Nghaerdydd, i ynys fwya' Cymru, Ynys Môn - gan ymweld â 'Love Island' Cymru, sef Ynys Llanddwyn!

  • Cynefin - Cyfres 5

    Cynefin - Cyfres 5

    Yn y rhaglen arbennig hon o Geredigion bydd Heledd Cynwal, Iestyn Jones a Sion Tomos Owen yn darganfod beth sydd gan Aberaeron i'w gynnig. Bydd Heledd yn profi peth o gyffro tu ôl i'r llenni pantomeim Theatr Felinfach, bydd Iestyn yn cael tro yn chwarae coets, a bydd Sion ar drywydd cymeriadau lleol lliwgar, Dafydd Gwallt Hir a Mari Berllan Bitar.

  • Cynefin: Codi Bwganod

    Cynefin: Codi Bwganod

    Yr hanesydd a'r YouTuber, Jimmy Johnson, sy'n ymchwilio i stori canibal erchyll yn ardal Lanberis.

  • Cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol 2024

    Cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol 2024

    Ymunwch ag Elin Fflur o faes ein prifwyl eleni, Parc Ynys Angharad, i ail-fyw perfformiadau o lwyfannau'r Eisteddfod. Ar Lwyfan y Maes cawn fwynhau gwledd o ganu gan neb llai nag Eden wrth iddynt gloi'r Eisteddfod eleni. O'r hen i'r newydd, mae yna rywbeth yma at ddant pawb.

  • Cysgu efo Ysbrydion

    Cysgu efo Ysbrydion

    Nei di gysgu yn llefydd mwya' 'haunted' Cymru' Iwan Steffan sy'n trio perswadio Aimee Fox fod ysbrydion yn wir. Fydd na ddagrau yn y carchar yn Rhuthun'

  • None

    Cyw a'r Gerddorfa 2

    Sioe Nadolig gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a chast o gymeriadau a chyflwynwyr poblogaidd Cyw. Mae pawb ym Myd Cyw yn edrych ymlaen i ddathlu'r Nadolig! Maen nhw wrthi yn paratoi pan ddaw galwad gan Cyw i ddweud bod yna argyfwng! Tybed a ddaw Cyw adre ar gyfer y diwrnod mawr ac a oes digon o amser i Siôn Corn lenwi sled' Efallai gall Deian a Loli helpu'

  • None

    Dathlu Dewrder 2024

    Dyma raglen awr o hyd fydd yn dathlu dewrder ac yn dweud diolch wrth arwyr tawel ein cymunedau, yr unigolion hynny sydd, er gwaetha heriau annheg bywyd, wedi bod drwy'r felin, ond wedi dangos dewrder mawr

  • Dathlu!

    Dathlu!

    Cyfres newydd, llawn hwyl a fydd yn dilyn plant a'u teuluoedd wrth iddyn nhw ddathlu dathliad arbennig gyda'i gilydd. Y tro 'ma, mae'r efeilliaid Gwenyth a Lillyth, yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tseiniaidd.

  • Deian a Loli

    Deian a Loli

    Cyfres newydd am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Caiff Deian a Loli sioc wrth i ddarlun draig Deian ddod yn fyw a chyflwyno ei hun fel Dai y Ddraig! Mae'r ddau'n dysgu nad ydi o'n Ddraig hapus iawn gan ei fod yn ysu i gael dod o hyd i gartref. Does dim amdani felly ond ymuno â Dai ym myd y Cartŵn i geisio dod o hyd i'r cartref delfrydol!

  • Deian a Loli - Cyfres 2

    Deian a Loli - Cyfres 2

    Ar drip i lan y môr, daw'r efeilliaid drygionus ar draws caer hudolus wedi ei gwneud o hufen iâ, a chymeriad rhyfedd o'r enw Hefin Iâ.

  • Deian a Loli - Cyfres1

    Deian a Loli - Cyfres1

    Ar ôl i Deian berswadio Loli i roi sws i Robat Ribit, ei lyffant anwes, mae 'na swyn dieflig yn cael ei osod ar Loli. Mae'n rhaid i Deian wynebu ei ofnau - ac yn waeth na hynny, Gwrach y Corsydd Duon - er mwyn ceisio dadwneud y swyn.

  • None

    Deian a Loli a Chloch y Nadolig

    Mae'r wyl yn anodd i bawb eleni, yn enwedig Mam, gan mai hon ydi'r Nadolig cynta' heb Taid. A ma' beryg i betha' waethygu wrth i'r efeilliaid dorri cloch Nadolig Taid. Os na nawn nhw ei thrwshio hi, fydd Nadolig Mam wedi ei ddifetha'n llwyr! Pwy sydd yn dda am drwshio petha' Corachod Siôn Corn wrth gwrs! Dewch ar antur gyda'r efeilliaid drygionus a chyfarfod â llu o ffrindiau arbennig iawn, a chawn weld os fydd hi'n Nadolig Llawen eleni!

  • None

    Deian a Loli ac Ysbryd y Nadolig

    Pennod arbennig am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Mae hi'n Noswyl Nadolig ac wrth gyfarfod â sowldiwr bach o'r enw Arwen mae Deian a Loli'n dysgu bod 'na argyfwng - mae Ysbryd y Nadolig wedi diflannu a heb hwnnw fydd y Nadolig wedi ei ganslo! Rhaid helpu Arwen ddod o hyd i Ysbryd y Nadolig reit sydyn cyn i'r Nadolig ddod i ben am byth!

  • None

    Dim byd fel DIMBYD

    Mewn pennod arbennig o Dim Byd i ddathlu penblwydd S4C, mae'r Reservoir Gogs yn derbyn comisiwn i wneud rhaglen i'r sianel. Ond fel pob tro arall, tydi pethau ddim yn hawdd i'r criw.

  • Dom a Lloyd: Torri'r Tawelwch

    Dom a Lloyd: Torri'r Tawelwch

    Mae Dom a Lloyd yn mynd ar daith o gwmpas Cymru i ddeall mwy am iechyd meddwl dynion. Dros y gyfres mae'r ddau am ymweld â phobl anhygoel mewn llefydd arbennig, i geisio dysgu mwy am fywyd ac iechyd meddwl dynion yng Nghymru a gobeithio dysgu ychydig mwy amdanyn nhw ei hunain hefyd. Yn y bennod yma mae Dom a Lloyd yn ymweld â dynion o fewn y byd myfyrwyr.

  • None

    Efengylwyr...Oes Atgyfodiad?

    Ar drothwy'r etholiad yn America, mae'r newyddiadurwr Maxine Hughes yn edrych ar efengyliaeth yng Nghymru ac America. Wrth iddi gymharu'r sefyllfa ar y ddwy ochr i Fôr yr Iwerydd, mae'n edrych ar beth mae'r newid yma'n ei olygu i hunaniaeth ysbrydol ein cenedl.

  • None

    Ein Hail Lais

    Jess Davies, Gav Murphy, Lily Beau, a Nick Yeo sy'n trafod eu perthynas â siarad Cymraeg fel ail iaith.

  • Ein Llwybrau Celtaidd

    Ein Llwybrau Celtaidd

    Sir 5 ar y daith yw Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin. Awn i Gaerfyrddin i fwynhau'r sîn roc Gymraeg yng Ng¿yl Canol Dre, i fwynhau seiclo yn ardal Llanelli, bro'r Scarlets, am drip i Dalacharn i flasu ysbryd Dylan Thomas ac am chips ar draeth Llansteffan. Gorffenwn yn y Mynydd Du, Drefach Felindre a Llandysul. Yna daw'r daith i ben yn sir enedigol Ryland, Ceredigion. Cawn fwynhau afonydd, traethau, pentrefi a threfin, trenau, rhaeadrau a promenâd!

  • Ffasiwn Drefn - Cyfres 1

    Ffasiwn Drefn - Cyfres 1

    FFASIWN DREFN - RHAGLEN 4 Yn y gyfres hon bydd y cyflwynydd Lara Catrin a'n trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd ar hyd a lled Cymru. 'Lle i bopeth a phopeth yn ei le' yw'r nod. Yr wythnos hon cwpwrdd dillad Meinir Williams Jones o Ynys Môn sy'n cael ei drawsnewid.

  • None

    Ffilm: Patagonia

    Ffilm yn adrodd stori dwy fenyw ar daith; un yn chwilio am ei gorffennol, a'r llall yn chwilio am ei dyfodol.

  • Ffitis Mel Owen

    Ffitis Mel Owen

    Charla sy'n croesawu Mel i Bontypridd y tro hwn. O'r Lido i'r farchnad, i un o dafarnau eiconig y dre, 'Clwb y Bont', mae Mel yn cael blasu bob twll a chornel o'r dre yma. Mae hefyd yn cal det diddorol yn un o'r bariau coctels newydd, 'Y Tipsy Owl', ac yn gweld ychydig yn fwy na be mae'n ddishgwl. Mae Ponty yn sicr yn le unigryw a'r ffitîs lleol yn frîd arbennig hefyd!

  • None

    Ffyrnig

    Noson o gomedi LHDTC+ wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Eglwys Norwyaidd hanesyddol Bae Caerdydd, wedi ei chyflwyno gan Al Parr. Sêr y sioe yw rhai o ddigrifwyr gorau Cymru - Priya Hall, Ellis Lloyd Jones, Leila Navabi, Chris Rio, a Sianny Thomas. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan Gymuned Ddawnsfa Gymreig.

  • Garddio a Mwy - Cyfres 2024

    Garddio a Mwy - Cyfres 2024

    Rhaglen arbennig awr o hyd yng nghwmni Meinir Gwilym a Helen Scutt - o flodau'r Sakura i drin Bonsai, cawn flas ar ddiwylliant garddio unigryw Japan. Ymunwch â ni yn nhymor blaguro'r ceirios - sy'n troi Japan yn binc yn y Gwanwyn, mewn ton o flodau sy'n tasgu o'r de i'r gogledd.

  • Gareth Jones: Nofio Adre

    Gareth Jones: Nofio Adre

    I ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed mae Gareth 'Gaz Top' Jones am nofio 60km o'r de i ogledd Cymru ar draws llynnoedd, afonydd, a chronfeydd d¿r. Dros dair wythnos bydd Gareth yn nofio mwy nag y mae erioed wedi ei wneud o'r blaen. Yn ystod wsos olaf y sialens bydd y nofiwr gwyllt Caris Bowen yn cefnogi Gareth wrth iddo deithio ar draws y gogledd cyn gorffen ei sialens drwy nofio lawr yr afon Conwy. Ond ar ôl tair wythnos nofio fydd ganddo ddigon o egni i lwyddo'

  • Goro' Neud

    Goro' Neud

    None

  • Grid - Cyfres 2

    Grid - Cyfres 2

    Cipolwg i fywyd Solwen, merch 17 oed a'i ffrindiau sy'n byw 'off-grid' mewn cymuned yn Sir Gâr.

  • Grid - Cyfres 3

    Grid - Cyfres 3

    Y Dylunydd Rhi Dancey sy'n trafod yr heriau i sicrhau byd ffasiwn cynaliadwy.

  • None

    Guinness World Records Cymru 2024

    Dilynwn yr ymdrechion i dorri recordiau Guinness World Records Cymru 2024 - ac mae un ymgais uchelgeisiol yn cynnwys lori anferth, monster truck a'r rhaff tynnu'r gelyn hiraf yn y byd! Yna, mae Bois y Pizza ac Ysgol y Strade yn anelu at dorri record y llun cerdyn fflip fwyaf - a bydd ymgais hefyd i dorri record y 20 metr cyflymaf ar Space Hopper ac adeiladu'r t¿r uchaf wedi ei neud o bicau ar y maen! Alun Williams a Rhianna Loren sydd yn ôl i dorri mwy o recordiau Guinness World Records!

  • Gwesty Aduniad - Cyfres 3

    Gwesty Aduniad - Cyfres 3

    Mae rhai o enwogion Cymru yn checio mewn i Gwesty Aduniad Nadolig yma. Mae'r actor Richard Ellis am i'r Gwesty ddod o hyd i'r gwir am ei ddad-cu, wnaeth dwyllo'r fyddin er mwyn cael mynd i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd Ditectif Mathias o'r Gwyll, Richard Harrington, yn gobeithio fod y Gwesty yn gallu datrys ei ddirgelwch personol ei hun, ac mae'r athletwraig a cyn-chwarewraig rygbi rhyngwladol, Non Evans am ddiolch i hen ffrind fu'n gefn iddi mewn cyfnod anodd.

  • Hansh

    Hansh

    Ydych chi'n ymwybodol o hanes y gymuned LHDTC+ yng Nghymru' Dyma Fflur Pierce yn trafod rhai o gerrig filltir y gymuned dros y degawdau.

  • Hansh ar yr Hewl

    Hansh ar yr Hewl

    Garmon ab Ion sy'n arwain y gynulleidfa trwy gyfres o heriau sy'n seiliedig ar fformatau gemau sydd wedi eu gweld yn flaenorol ar fideos Hansh. Yn gymysgedd o wynebau cyfarwydd y sianel ac aelodau o'r gynulleidfa, bydd Garmon yn ceisio ateb y cwestiwn bytholwyrdd "Pwy sy'n well: Gogs neu Hwntws'" Bydd y cystadleuwyr yn mynd benben yn erbyn wynebau cyfarwydd y sianel mewn heriau poblogaidd e.e 'Cwis Trydanol', 'Be Sy' Yn Y Bocs' a 'Dwi erioed wedi'.

  • Heno Aur - Cyfres 2

    Heno Aur - Cyfres 2

    Cyfres gydag Angharad Mair a Siân Thomas yn dathlu 30 mlynedd o raglen Heno. Eisteddwch nôl i chwerthin a rhyfeddu ar rai o straeon mawr ddiwedd y 90au. Yn rhaglen ola'r gyfres, bandiau 'Cool' y cyfnod, Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghymru, dathlu'r mileniwm a sgwrs gyda'r cyflwynydd Aled Jones.

  • Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Cipolwg gonest ac agored o'r sin rygbi hoyw yng Nghymru.

  • Iaith ar Daith - Cyfres 5

    Iaith ar Daith - Cyfres 5

    Yr arwr pêl-droed Jess Fishlock sydd yn mynd ar Iaith Ar Daith y tro hwn. Wrth ei hochr bydd y gyflwynwraig chwaraeon Catrin Heledd. A fydd Jess yn cyrraedd ei gôl'

  • None

    Iolo a Dewi: Y Tad a'r Mab a Zambia

    Cawn hynt a helynt Iolo Williams a'i fab Dewi wrth iddynt drefnu taith saffari gyda'i gilydd ar gyfer grwp o ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol De Luangwa yn Zambia.

  • It's My Shout

    It's My Shout

    Pan fydd Erin yn dechrau datblygu teimladau tuag at ei ffrind gorau Alaw, mae'n dechrau tyfu adenydd. Yn 'Dysgu Hedfan' dilynwn ei thaith drwy'r ysgol uwchradd wrth iddi geisio llywio a deall y teimladau newydd hyn.

  • Itopia - Cyfres 1

    Itopia - Cyfres 1

    Drama 'sci-fi' llawn diregelwch. Mae ITOPIA wedi rhyddhau'r 'Z' ¿ dyfais cyfathrebu chwyldroadol. Mae Lwsi'n cael trafferth i ddod i arfer gyda'r 'Z' ac yn gofyn am help gan Zac. Mae Alys a Macs yn anghytuno ynglŷn â'r ffordd orau i ddelio â'r hyn welson nhw yn yr Uned Biotech.

  • Itopia - Cyfres 3

    Itopia - Cyfres 3

    Cyfres ddrama 'sci-fi' llawn dirgelwch. Mae Ash a Nansi mewn dau feddwl am niwtraleiddio eu pwerau arbennig. Mae gan Izzy gynllun a allai berswadio mwy o Ambers i ddilyn cyngor y Prif Weinidog ond byddai'n golygu aberth fawr gan Lwsi.

  • None

    Ken Owens: Y Sheriff

    Stori bersonol bachwr Cymru a'r Scarlets, Ken Owens, dros y 18 mis diwethaf. Cewch ddilyn hynt a helynt ei gyfnod fel capten cenedlaethol, bygythiad o streic gan y chwaraewyr, delio ag anafiadau, a golwg ecsgliwsif ar realiti bywyd chwaraewr proffesiynol.

  • Llofruddiaeth y Bwa Croes

    Llofruddiaeth y Bwa Croes

    Ebrill 2019- mae pensiynwr yn cael ei saethu gyda Bwa Croes ar Ynys Môn. Heb dystion, tystiolaeth fforensig na chwaith cymhelliad clir, a fydd Heddlu Gogledd Cymru yn medru darganfod pwy oedd yn gyfrifol'

  • Llond Bol o Sbaen

    Llond Bol o Sbaen

    Yn rhaglen olaf y gyfres mae'r cogydd tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts yn mentro i Barcelona yng Nhatalonia i ddarganfod diwylliant bwyd bywiog y ddinas yng nghwmni'r cerddor Cerys Matthews. O tapas mewn bariau vermuth i ddosbarth meistr paella, bydd Chris yn cael profiadau bwyta bythgofiadwy.

  • Lwp ar Dap

    Lwp ar Dap

    None

  • Ma'i Off 'Ma

    Ma'i Off 'Ma

    Cyfres realiti yn dilyn teulu tair cenhedlaeth o Benparc, Sir Gaerfyrddin sy'n byw a bod y byd amaeth. Rydym yn eu gweld yn ymestyn eu fferm deuluol er mwyn sicrhau pob cyfle masnachol posib a helpu Myfanwy ac Adrian i sicrhau'r dyfodol gorau i'w 3 plentyn. Does dim dal nôl ar y teulu yma - maent yn rhannu gwybodaeth ac emosiynau yn onest ac yn glir. Tro hwn, mae pen-blwydd mawr gyda theulu Penparc¿ A fydd yna ddathlu mawr' Ma'i Off 'Ma!

  • None

    Marathon Eryri 2024

    Ymunwch â'n sylwebwyr Lowri Morgan, Huw Brassington a Matt Ward am yr holl gyffro o Marathon Eryri, un o rasus caletaf y flwyddyn.

  • Marw gyda Kris

    Marw gyda Kris

    Kristoffer Hughes sy'n teithio'n ddwfn i jyngl Indonesia i gyfarfod pobol sy'n byw gyda'r meirw am flynyddoedd ac arferiad llwyth sy'n ail-godi cyrff anwyliaid.

  • None

    Merch Cymru

    None

  • Nos Da Cyw 'Dolig

    Nos Da Cyw 'Dolig

    Stori fach Nadoligaidd cyn cysgu. Mali Harries sy'n darllen stori hudolus am benbleth Siôn Corn ar noswyl Nadolig, ond pwy ddaw i'w helpu tybed'

  • Pa Fath o Bobl ... 2021

    Pa Fath o Bobl ... 2021

    Miliwn o siaradwyr Cymraeg: dyma nôd ieithyddol Llywodraeth Cymru erbyn 2050. Ydi'r strategaeth yn debygol o lwyddo neu oes mwy o obaith i weledigaeth Garmon o Gwffio, Caru a Canu' O frwydr ymladd MMA i sesiwn ffotograffiaeth a gig, mae Garmon yn benderfynol o adael ei farc.

  • Paid Ti Meiddio Chwerthin

    Paid Ti Meiddio Chwerthin

    Cyfres newydd gyda Molly Palmer yn rhoi pedwar cystadleuydd o dan bwysau i beidio chwerthin! Yr wythnos hon mi fydd Dom James, Mared Parry, Mali Haf a Geraint Rhys Edwards yn cymryd rhan.

  • Paid Ti Meiddio Chwerthin - Cyfres 2

    Paid Ti Meiddio Chwerthin - Cyfres 2

    Ni gyd 'di bod 'na, y teimlad o ishe chwerthin pan chi ddim i fod. Ie, mae Molly yn ei hôl! Y tro yma, mae Gwion Ifan yn trio cracio myfyrwyr Prifysgol De Cymru!

  • None

    Pampro Cwn Cymru

    Saith ci arbennig iawn yn cael pamper Nadolig wrth i ni ddarganfod faint maen nhw wedi helpu eu teuluoedd yn ystod y flwyddyn.

  • Pawb a'i Farn

    Pawb a'i Farn

    Steffan Powell sy'n cyflwyno rhaglen o Lanelli. Ar y panel fydd Carwyn Jones, Llafur Cymru; Sioned Williams, Plaid Cymru; Samuel Kurtz, Ceidwadwyr Cymreig; a Rhian Bowen Davies, Comisiynydd Pobl Hyn Cymru. Fe fyddwn ni'n trafod cyllido gwasanaethau cyhoeddus, pwysau ar y gymuned amaethyddol, a sut i adfywio'r stryd fawr.

  • Pen Petrol - Cyfres 2

    Pen Petrol - Cyfres 2

    Be sy'n mynd mlaen mewn un o'r 'car meets' drwg-enwog sy'n denu miloedd ar filoedd o bobl ifanc ar draws Prydain bob wythnos' Dyna mae criw ceir Unit Thirteen isio ffeindio allan yn y bennod olaf o'r gyfres, cyn neidio o un eithaf i'r llall a theithio ar draws y môr Gwyddelig at LZ Festival i weld ffordd llawer gwell - a saffach - o fwynhau ceir.

  • Pen Petrol - Cyfres 3

    Pen Petrol - Cyfres 3

    Am ryw reswm, ma' rhywun 'di gosod hydro handbrake mewn car cnebrynga'.

  • Pen/Campwyr

    Pen/Campwyr

    Jason Mohammad sy'n cyflwyno'r sioe Cwis Chwaraeon newydd sbon lle mae brains yn cwrdd â brawn, Pen/Campwyr. Jonathan, Tanwen a Roy o Glwb Tri 2-1 sy'n ateb cwestiynau chwaraeon i ennill mantais yn erbyn y rhedwr marathon eithafol Huw Brassington mewn cyfres o heriau chwaraeon rhithiol, i ennill gwobr ariannol.

  • Pigo Dy Drwyn

    Pigo Dy Drwyn

    Ymunwch â Gareth a Cadi ynghanol y cyffro wrth i'r tîm pinc a'r tîm melyn o Ysgol Gynradd Gymraeg Pontyclun chwarae gemau snotlyd a swnllydi i ennill Y Tlws Trwynol!

  • Pride Cymru 2024

    Pride Cymru 2024

    Cipolwg ar uchafbwyntiau Pride Cymru 2024.

  • None

    Queens Cwm Rag

    Mae Queens 'Cwm Rag' wedi gadael Llundain ac ar eu ffordd adref i Gymru ar ôl penderfynu dringo'r Wyddfa¿..mewn 'heels'!

  • Richard Holt: Yr Academi Felys -1

    Richard Holt: Yr Academi Felys -1

    Mae'r ddau bobydd yn mynd ben-ben i greu a gweini cacennau rhithiol yn ystafell de enwog Richard.

  • Richard Holt: Yr Academi Felys -2

    Richard Holt: Yr Academi Felys -2

    Am y tro olaf, mae'r pobyddion yn cystadlu am y brif wobr gyda 'theganau' retro yn yr Ystafell De!

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Mae hi'n ddydd Nadolig ac mae hwyl yr wyl yn ei anterth yn y caffi. Yn anffodus, nid yw pawb yn y pentref yn teimlo fel dathlu a Iestyn ar ei ben ei hun yn parhau i alaru a hiraethu am Tammy. Nid Sion Corn yw'r unig ymwelydd annisgwyl, ac mae'r trafferth a ddaw yn ei sgil yn peri gofid a chynnwrf mawr. Mae Mair a Ioan yn benderfynol o dynnu'n groes, a'r ddau'n dathlu yn eu dull hwyliog eu hunain, ond mae chwarae'n troi'n chwerw a'r ddau'n wynebu sefyllfa beryglus.

  • None

    Sage Todz: Y Neges Nid yr Iaith

    I nodi Mis Hanes Pobl Ddu - dyma daith gerddorol o amgylch Prydain lle mae'r artist hip hop Sage Todz yn cyfarfod artistiaid eraill sydd yn gweithio mewn ieithoedd lleiafrifol.

  • Sgwrs Dan y Lloer - Cyfres 5

    Sgwrs Dan y Lloer - Cyfres 5

    Bydd Elin Fflur yn siarad gyda'r cogydd Bryn Williams y tro hwn am ei yrfa a'i fywyd personol.

  • Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 2

    Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 2

    Yng nghwmni tanllwyth o dân a'r ardd mor hudolus yng ngolau'r lloer fe gawn ni gwmni'r actores a'r gantores, Olwen Rees. Y Wenfô ym Mro Morgannwg yw'r cartref ers sawl degawd bellach, ond mae Olwen yn parhau i fod yn Gofi Dre yn ei chalon, a chawn glywed am ei hatgofion bore oes o blentyndod yng Nghaernarfon, dilyn ôl troed ei Mam i'r byd perfformio, ac yna priodi â'r enwog Jonny Tudor. Mae Olwen yn perthyn i oes aur byd darlledu ac adloniant Cymru, a hyd heddiw mae ei hegni a'i chymeriad yn fyt

  • Tekkers - Cyfres 1

    Tekkers - Cyfres 1

    Cystadleuaeth pêl-droed gyda Heledd Anna, Lloyd Lewis a Huw Owen yn herio dau dîm mewn pum gêm gorfforol. Ysgol Ifor Hael o Gasnewydd sy'n cystadlu yn erbyn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl yn Stadiwm Tekkers y tro yma, gyda help llaw y capteiniaid cystadleuol.

  • Teulu'r Castell

    Teulu'r Castell

    Cyfres yn dilyn Marian a Rob Evans o Lansteffan, sydd wedi prynu ty fferm gyda thir, coedwig, a chastell Normanaidd. Yn y bennod olaf ac ar ol dwy flynedd o aros, mi gewn ni weld y briodas gyntaf swyddogol yn y castell. Hefyd, mae Ffion a Catrin yn cael blas ar gadw gwenyn, ac fe gewn ni weld beth yw cynlluniau Marian ar gyfer y dyfodol gyda'r fferm a'u busnesau.

  • Tisho Fforc - Cyfres 1

    Tisho Fforc - Cyfres 1

    Dau desperate singletons yn chwilio am gariad, ond beth ¿ neu pwy ¿ fydd ar y fwydlen tro 'ma' Dishy Dewi a Saucy Shauna fydd yn gofyn am help Mared Parry i ddarganfod os ydyn nhw'n match, neu beidio.

  • Tisho Fforc - Cyfres 2

    Tisho Fforc - Cyfres 2

    Mae Callum yn edrych am ei sgrym nesaf, ond ai Rosie fydd yr un' Mared Parry fydd yn helpu'r ddau ffeindio cariad.

  • Wil ac Aeron: Taith yr Alban

    Wil ac Aeron: Taith yr Alban

    Cyfres yn dilyn y ffermwyr ifanc Wil Hendreseifion ac Aeron Pughe ar daith i'r Alban.

  • None

    Wyt Ti'n Iawn?

    Mae'r diwydiant amaethyddol ar cyfradd uchaf o hunanladdiad, mwy na' un proffesiwn arall. Yn 2018 roedd yna 83 o amaethwyr wedi diweddu eu bywydau yng Nghymru a Lloegr. Dyma brofiadau gr¿p o ffermwyr ifanc cafodd eu heffeithio gan salwch iechyd meddwl.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?