S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Dysgu Cymraeg

Cynnwys newydd i chi

Mae'n bwysig i nodi bod holl gynnwys S4C i chi – bydd popeth dych chi'n ei gwylio yn eich helpu chi ar eich taith i ddysgu'r iaith. Felly ewch amdani i wylio unrhyw raglen sydd o ddiddordeb i chi, gan ddefnyddio'r wybodaeth ar y wefan hon i'ch cefnogi.

Wedi dweud hynny, mae rhai cynnwys yn cael ei greu gyda dysgwyr mewn golwg. Gallai hynny olygu:

  • Iaith sy'n cyd-fynd â lluniau i'ch helpu chi i ddeall y cyd-destun.
  • Cynnwys sy'n trafod y pynciau yn eich cyrsiau chi.
  • Profiadau pobl sy'n dysgu Cymraeg ar y sgrin.
  • Cyflwynwyr sydd wedi dysgu Cymraeg eu hunain.
  • Iaith symlach, wedi ei hynganu'n gliriach.
  • Cynnwys atodol ar gyfryngau cymdeithasol i gyd-fynd gyda'r rhaglen ar y teledu.

Dyma rai o’n rhaglenni newydd i chi

  • Cais Quinnell

    Cais Quinnell

    Ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Roedd Scott Quinnell ar ein rhaglen Iaith ar Daith nôl yn 2020, pan gymerodd e ei gamau cyntaf i ddysgu'r Gymraeg. Mae'n gyn-chwaraewr rygbi, ac mae wedi difaru ei fod e heb ddysgu'r Gymraeg pan oedd e'n iau. Ers y rhaglen hon, mae Scott wedi parhau i ddysgu'r Gymraeg ac yn ymarfer mor aml â phosibl.

    Yn y gyfres newydd hon, mae Scott yn mynd ar daith unwaith eto, ond ar ei ben ei hun y tro yma. Mae'n mynd o gwmpas Cymru i gwrdd â phobl newydd, ac wrth wneud hynny mae'n defnyddio ei Gymraeg i wneud llawer o bethau newydd a gwahanol iawn!

    Mae Scott yn siarad Cymraeg y De, gydag acen debyg i bobl o Sir Gaerfyrddin.

  • Y Sîn

    Y Sîn

    Ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Mae gennym ni gyfres newydd gyda dau sydd wedi ennill gwobrau am ddysgu'r Gymraeg. Enillodd Francesca Sciarrillo Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn 2019, ac enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2022.

    Mae'r ddau ohonyn nhw'n angerddol dros yr iaith a hefyd dros y celfyddydau. Yn y gyfres newydd hon maen nhw'n cwrdd â phobl gwahanol ar draws Cymru sy'n creu celf newydd, cyffrous.

    Yn wreiddiol o Sir y Fflint, mae Francesca yn siarad Cymraeg y Gogledd, gydag acen y gogledd-Ddwyrain. Un o Lundain yw Joe, sy'n siarad Cymraeg y De gydag acen Caerdydd.

Archif cylchlythyron

Bob mis 'dyn ni'n dosbarthu cylchlythyr Dysgu Cymraeg S4C, gyda newyddion am ein cynnwys a gwybodaeth ddefnyddiol. Dych chi'n gallu dod o hyd i hen gylchlythyron yma. Os dych chi ddim wedi cofrestru ar gyfer y cylchlythyr eto, dych chi'n gallu cofrestru'n hawdd ac yn gyflym yma:

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?