S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Dysgu Cymraeg

Dewch i mewn

Croeso i S4C! Neu groeso'n ôl, os dych chi wedi bod bant am sbel.

Os dych chi'n cymryd eich camau cyntaf i ddysgu Cymraeg, eisiau gwella eich sgiliau yn yr iaith, neu'n chwilfrydig, 'dyn ni wrth ein boddau eich bod chi wedi ymuno â ni ar yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.

Ar y wefan hon mae'r holl wybodaeth dych chi angen i deimlo'n gartrefol gyda S4C.

Os bydd unrhyw beth arall fasai'n ddefnyddiol i chi, rhowch wybod!

Agor drws i fyd newydd

Mae'n synnu llawer o bobl sy'n cymryd eu camau cyntaf yn y Gymraeg bod 'na diwylliant Cymraeg gwahanol a bywiog, sydd efallai yn hollol newydd i chi. 'Dyn ni'n gobeithio bod S4C yn gallu bod yn ddrws i chi i mewn i'r byd hwn, a byddwn ni'n trio'n galed i'ch helpu pan fyddwch chi'n cychwyn ar eich taith.

Dysgu Cymraeg

O Duolingo i Memrise a thu hwnt, mae pob math o apiau a gwefannau ardderchog ar gael ar y we i'ch helpu i ddysgu Cymraeg. Mae S4C yma i chi ar bob cam o'ch taith chi, a bydd ein rhaglenni yn eich helpu chi i ddod i adnabod a mwynhau holl seiniau, acenion a thafodieithoedd ein hiaith brydferth. 'Dyn ni ddim yn darparu cwrs Cymraeg penodol – mae'n well gennym ni adael hynny i'r arbenigwyr – ond byddwn ni'n gwneud popeth sy'n bosibl i ddarparu cynnwys i'ch cefnogi chi.

Os dych chi'n dod aton ni fel eich cam cyntaf, efallai byddwch chi eisiau ymweld â'n partneriaid bendigedig, sy'n cynnig cyrsiau ac adnoddau i'ch helpu chi i ddysgu, lle bynnag yn y byd dych chi.

  • Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Genedlaethol

    Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Genedlaethol

    Dysgu Cymraeg

    Am gyrsiau ac adnoddau i helpu chi wrth ddysgu, ewch i wefan Dysgu Cymraeg.

  • SaySomethinginWelsh

    SaySomethinginWelsh

    Hyfforddi selebs Iaith ar Daith

    Gall SaySomethinginWelsh helpu chi wrth ddysgu Cymraeg, ewch draw i weld beth sydd ar gael.

Cylchlythyr Dysgu Cymraeg S4C

Dych chi eisiau derbyn e-bost rheolaidd gyda gwybodaeth am ein rhaglenni newydd?

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?