S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Dysgu Cymraeg

Unrhywbeth arall?

Sut dw i'n gallu clywed beth sydd ar y gweill?

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn clywed am gyfresi newydd sydd ar y gweill, a hefyd i weld cynnwys ychwanegol (fel darnau tu ôl i'r llenni).

Sut dw i'n gallu gwylio tu allan i'r DU?

'Dyn ni wrth ein boddau bod llawer o bobl ar draws y byd eisiau dysgu ein hiaith brydferth. Dych chi'n gallu gwylio llawer o'n rhaglenni o'r tu allan i'r DU; dyn ni'n hapus iawn i ddangos Cymru i'r byd, a 'dyn ni'n rhyddhau ein cynnwys yn rhyngwladol pan fo hawliau i wneud hynny gyda ni. Ewch i'n gwefan yma i weld rhestr wedi'i diweddaru o beth sydd ar gael.

Os dych chi yn yr UDA, dych chi'n gallu gwylio ein cynnwys ar Ddydd Mercher ar y sianel Maximum Effort ar Fubo.

Cysylltwch â ni

Mae tîm cyswllt cyfeillgar gyda ni, sy yma i'ch helpu chi, a dych chi'n gallu cysylltu â ni yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu gymysgedd o'r ddwy. Neu ymunwch â'r sgwrs ar Twitter, Facebook, Instagram neu TikTok.

Cylchlythyr Dysgu Cymraeg S4C

Dych chi eisiau derbyn e-bost rheolaidd gyda gwybodaeth am ein rhaglenni newydd?

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?