S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Neil Maliphant – Pluen Wen

Daw Neil Maliphant o Bontyberem, Sir Gaerfyrddin a dyma'r trydydd tro iddo gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru ar ôl ymddangos eisoes yn 2000 a 2002. Mae ei gân 'Pluen Wen' yn sôn am y gobaith am heddwch yn dilyn yr ymosodiadau terfysgol diweddar ym Mharis.

"Mae'r gân yn un sy'n gofyn cwestiynau am ein cymdeithas ni. Pam nad yw pobl yn gallu cydfyw? Pam ein bod ni mor atgas at ein gilydd?" meddai Neil.

Beth ydych chi'n ei feddwl o gân Neil? Defnyddiwch yr hashnod #pluenwen

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?