S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Elin Angharad – Y Lleuad a'r Sêr

Cantores ifanc o bentref Gaerwen, Ynys Môn yw Elin Angharad. Wedi blwyddyn yn astudio theatr cerdd yn Efrog Newydd, mae bellach wedi dod yn ôl i Gymru ac yn gobeithio astudio mewn coleg cerdd a drama'r flwyddyn nesaf.

"Caneuon o sioeau cerdd sy'n llonni fy mryd i fel arfer, ond mae'n fraint cael canu cân pop fel 'Y Lleuad a'r Sêr' ac roedd cael cyfansoddi'r gân hefo Arfon Wyn o'r Moniars yn brofiad arbennig!" meddai Elin.

Beth ydych chi'n meddwl o gân Elin? Defnyddiwch yr hashnod #ylleuad

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?