S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Gweithgareddau Masnachol

Gwerthu Hysbysebion

S4C yw'r unig sianel deledu sy'n gwasanaethu anghenion Cymru'n benodol. Mae'n gyfrwng hysbysebu pwysig ar gyfer targedu'r boblogaeth Gymreig, gan gynnig gwerth am arian ac effeithlonrwydd i hysbysebwyr.

Mae cwmnïau rhyngwladol mawr yn hysbysebu ar S4C, ynghyd â chwmnïau llwyddiannus o Gymru. Mae nifer o gleientiaid yn gweld bod llwyddiant eu hymgyrchoedd yn cynyddu pan fo'r Gymraeg yn cael ei defnyddio i werthu cynnyrch neu wasanaeth.

Mwy o wybodaeth am werthu hysbysebion

Nawdd i Raglenni

Mae ymchwil yn dangos yn gyson bod gwylwyr yn ystyried nawdd i raglenni yn wahanol i hysbysebu confensiynol. Trwy noddi rhaglenni o safon uchel ar S4C mae nifer o gwmnïau mawr wedi codi eu proffil yn sylweddol ymysg gwylwyr.

Mwy o wybodaeth am noddi rhaglenni

Gwerthu Rhaglenni

Ers 1982 mae S4C wedi cael llwyddiant mawr wrth werthu rhaglenni - animeiddio a rhaglenni dogfen yn bennaf - i ddarlledwyr ledled y byd. Animeiddiad S4C, SuperTed, oedd y gyfres Brydeinig gyntaf erioed i'w darlledu gan Disney yn yr Unol Daleithiau. Mae Sali Mali, Chwedlau'r Byd wedi'u Hanimeiddio a Holi Hana wedi'u gwerthu i Israel, Sweden a Hong Kong, ymhlith gwledydd eraill. Mae S4C yn parhau i ddosbarthu rhai rhaglenni, ond ers Adolygiad Telerau Masnach 2005/2006, y cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy'n dal yr hawliau i werthu eu rhaglenni yn rhyngwladol.

Cyd-gynyrchiadau

Mae gan S4C enw da ym maes cyd-gynhyrchu ac mae wedi gweithio gyda darlledwyr ledled y byd - gan gynnwys Discovery, A & E, ZDF a New York Times Television - ar amryw o gyd-gynyrchiadau llwyddiannus. Rhaglenni dogfen ac animeiddio yw'r prif fathau o raglenni a gyd-gynhyrchwyd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?