7 Gorffennaf 2025
Mae cyfres gorawl S4C Côr Cymru, cystadleuaeth a gychwynodd yn 2003, yn dod i ben.
Bwriad Côr Cymru ers y cychwyn oedd codi a chynnal safonau corawl Cymru. Mae’r gystadleuaeth wedi gwneud hynny a llawer mwy. Ar hyd y blynyddoedd mae’r gystadleuaeth, a oedd yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn, wedi denu corau newydd, corau o du hwnt i Gymru ac o ardaloedd di-Gymraeg a chorau na fyddai fel arfer yn cystadlu mewn cystadlaethau. Mae yna gorau wedi eu ffurfio’n arbennig ar gyfer Côr Cymru ac aelodau o gorau wedi eu hysbrydoli i ffurfio ac arwain eu corau newydd eu hunain.
Mae Côr Cymru wedi cyflwyno cynulleidfaoedd adre i fyd corau Cymru a chynnwys llawer o’r hwyl a’r elfennau cymdeithasol a llesiant a ddaw o fod mewn côr, wrth i ni ddod i nabod y corau a’u cymeriadau ar ac oddi ar y llwyfan.
Ers y cychwyn mae’r gystadleuaeth wedi blaenoriaethu tegwch a chodi a chynnal safon gan ddewis beirniaid arbenigol i roi adborth gwerthfawr i’r corau - fel yr arweinydd cerddorfaol nodedig Vasily Petrenko, yr organyddes a'r gyflwynwraig boblogaidd Anna Lapwood a'r arweinyddes a’r arbenigwraig ar ganu Gospel Karen Gibson. Mae sylwadau gan feirniaid uchel eu parch, sy’n rhyfeddu at safon y perfformiadau yn destun balchder i bawb sydd ynghlwm â’r gystadleuaeth, a'u hadborth yn cael ei werthfawrogi gan arweinyddion y corau.
Mae Côr Cymru wedi ymestyn enwau corau y tu hwnt i Gymru ac wedi cynnig profiadau gwahanol gan gynnwys cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Côr Eurovision ddwy waith. Fe enillodd Côr Cymru wobr Bafta Cymru am y Rhaglen Cerddoriaeth ac Adloniant Gorau yn 2013 a gwobr Gŵyl Cyfryngau Celtaidd yn y categori adloniant yn 2023.
Meddai’r cwmni cynhyrchu Rondo Media:
'Rydym yn falch eithriadol o Côr Cymru a'r hyn y mae wedi ei gyflawni drwy gyfrannu at dwf, safon a phoblogrwydd canu corawl yng Nghymru. Diolch i bawb sydd wedi cystadlu a chyfrannu cymaint i'r gystadleuaeth ar hyd y blynyddoedd - i'r trefnwyr a'r timau cynhyrchu, i’n cyflwynwyr arbennig, i’r darlledwr S4C ac i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth sydd wedi bod yn gartref hynod gefnogol i'r gystadleuaeth ers y cychwyn cyntaf. Ond yn bennaf oll mae'r diolch i'r corau sydd wedi ein hadlonni a’n hudo gyda’u perfformiadau, gan gydnabod hefyd wrth gwrs eu harweinyddion ysbrydoledig, eu cyfeilyddion dawnus a’u cefnogwyr brwd.'
Meddai S4C:
‘Mae Côr Cymru wedi bod yn gonglfaen i ganu corawl ar y sianel ers ei sefydlu dros ugain mlynedd yn ôl. Rydym yn hynod o falch o’r hyn mae wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd – yn rhoi cyfleoedd di-ri i gorau gystadlu a dod at ei gilydd ac o fod yn gatalydd i godi safon ein canu corawl. Mae gwaddol y gyfres nawr i’w gweld yn niferoedd y corau sy’n cystadlu a pherfformio ar lwyfannau eisteddfodau – o’r lleol i’r cenedlaethol, a neuaddau cyngerdd ar hyd y wlad.
‘Hoffem ddiolch yn fawr i bob un fu’n rhan o’r gyfres dros y blynyddoedd – yn enwedig i gwmni Rondo Media a’r cynhyrchwyr Gwawr Owen a Hefin Owen – fu’n gofalu mor dyner amdani. Ond mae ein diolch mwyaf i’r holl gorau, arweinwyr a’r cystadleuwyr am eu hangerdd a’u hymdrechion. Edrychwn ymlaen i barhau i fwynhau eu perfformiadau a’u cefnogi drwy roi llwyfan iddynt ar draws ein platfformau yn ein holl raglenni o’r eisteddfodau a’r gwyliau amrywiol.’