S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

2 Docyn i weld Cymru v Awstralia

2 Docyn i weld Cymru v Awstralia

Dyma gyfle i ennill 2 docyn i weld Cymru yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality ar Dachwedd 5 ed, 2016. Bydd y cyfle i gymeryd rhan yn cau ddydd Gwener, 21 Hydref 2016, pob lwc!

I gystadlu, rhaid anfon ebost at : rygbipawb@gmail.com

Trwy wylio Rygbi Pawb Stwnsh am 5.45 prynhawn dydd Iau neu ar Clic, dewiswch y cais gorau yn eich tyb chi – Cais 1, Cais 2, Cais 3, Cais 4 neu Cais 5.

Rhowch eich enw, eich oedran ac enw a rhif ffôn y rhiant neu'r gwarchodwr sy'n rhoi caniatad i chi wneud cynnig.

Bydd y cyfle yn cau ar ddydd Gwener, 21 Hydref 2016 am 18.00

Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu hystyried.

Bydd enwau yr ymgeiswyr rheiny sydd wedi dewis yr un cais a Ryan Jones, cyn gapten Cymru, yn mynd mewn i het a bydd Ryan yn tynnu enw'r enilydd allan o'r het (ar gamera).

Bydd penderfyniad Sports Media Services / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

Un wobr sydd; 2 docyn i weld Cymru v Awstralia, 05/11/16

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.

Cyhoeddir enw'r enillydd ar raglen Rygbi Pawb Stwnsh ar ddydd Iau, Hydref 27ain 2016. Bydd SMS hefyd yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y tocynnau, y gall SMS / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni ellir cyfnewid neu drosglwyddo'r wobr, ac ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid amdani.

Ni fydd Sports Media Services ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon ebost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Os na fydd modd i SMS ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan SMS / S4C i wneud hynny, bydd gan SMS / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.

Mae SMS ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r cynnig ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahan at ddibenion gweinyddu'r cyfle ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/SMS yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y cyfle yma gan Sports Media Services, Canolfan Dechnegol Pencoed, Pencoed, CF35 5HZ,a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

The competition is open to all except for S4C staff, Sports Media Services Ltd. (the Company) staff, their immediate families and companies directly involved with this offer.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?