S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

​Cadw'n Ddiogel Ar-lein

Dim ots os wyt ti'n sgwrsio gyda ffrindiau, chwarae gem neu'r postio rhywbeth ar dy rwydwaith cymdeithasol , mae o hyd werth meddwl am sut i fod yn saff ar-lein. Ceir ychydig o gyngor am sut i wneud hyn yma.

  • Childline

    Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.

    0800 1111

    www.childline.org.uk

  • Meic

    Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.

  • think u know

    Cyngor a gwybodaeth ar sut i fod yn sâff ar-lein, dim ots beth yw'ch oed.

    www.thinkuknow.co.uk

  • Childnet

    Gwybodaeth i rieni sydd eisiau cadw pobl ifan yn ddiogel, yn enwedig drwy ddefnydd rhwydweithiau cymdeithasol.

    www.childnet.com

  • Get Safe Online

    Cyngor ar sut i gadw'ch bywyd ar-lein - drwy gyfrifiadur, tabled neu ffon - mor ddiogel â phosib.

    www.getsafeonline.org

  • Digizen

    Gwybodaeth i bobl sy'n addysgu eraill, rhieni, gofalwyr a phobl ifanc. Mae'r wefan yn ceisio codi ymwybyddiaeth am beth yw dinasyddiaeth ddigidol a sut i fod yn 'ddinasyddion digidol' cyfrifol ar-lein.

    www.digizen.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?