S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Deg awgrym os ydych chi'n gofalu am berson â dementia ac yn methu gadael
y tŷ

Awgrymiadau ymarferol ar beth i wneud o ddydd i ddydd yn y sefyllfa yma, wedi eu datblygu rhwng Materion Dementia ym Mhowys, Canolfan am Heneiddio Arloesol ym Mhrifysgol Abertawe ac wedi ysbrydoli gan Matia Fundazioa o Wlad y Basg.

  • Cadwch at eich trefn feunyddiol.

    Ceisiwch gadw at eich amserlen o weithgareddau ac amser ymlacio arferol o ddydd i ddydd. Cyn belled ag y bo modd, daliwch at y pethau sy'n gyfarwydd i chi, a byddwch yn garedig â chi'ch hun - rydych chi'n gwneud eich gorau glas. Cofiwch y daw eto haul ar fryn.

    Gwybodaeth a chefnogaeth gan y Cymdeithas Alzheimers

    Gwybodaeth ac adnoddau o'r rhwydwaith DEEP

    Man gwybodaeth Dementia UK am Coronafeirws

    Sgwrs ddefnyddiol gyda Teepa Snow am y sefyllfa yn gyffredinol

    Gwybodaeth cyffredinol safonol am COVID o Age UK

  • Er na allwch fynd allan, mae'n bwysig cadw'n heini.

    Cerddwch o amgylch eich cartref, ymestynnwch yn ysgafn, neu symudwch ychydig o gamau. Os oes gennych ardd, gwnewch y mwyaf ohono. Mae'n bwysicach nag erioed i chi eistedd neu ymarfer corff y tu allan pan allwch chi, a dal rhywfaint o haul y dydd. Mae cryn dipyn o dystiolaeth y gall haul y bore helpu cwsg, felly gorau oll os ewch allan ben bore.

  • Cefnogwch eich anwylyd i gymryd rhan yn yr hyn sy'n ystyrlon iddynt os yn bosib.

    Beth am glapio i werthfawrogi'r GIG, canu ar-y-cyd neu gyda chôr ar-lein? A oes yna grwpiau cymunedol lleol? Rhowch gynnig ar weithgareddau creadigol newydd gyda'ch gilydd - gall lliwio fod yn therapiwtig, er enghraifft. Gofynnwch i'ch teulu a ffrindiau i'ch helpu i chwilota ar-lein am bethau diddorol a pherthnasol. Rhannwch eich sgiliau os gallwch chi helpu eraill.

    Canu gyda Côr - ona

    Sesiynau canu gyda Goldies Cymru

  • Gofalwch am feddyginiaeth a bwyd.

    Sicrhewch na fyddwch yn rhedeg allan o'ch meddyginiaeth trwy siarad a chynllunio gyda'ch meddygfa a fferyllfa leol, yn enwedig os ydych chi'n byw mewn ardal wledig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael i chi. Mae 'na grwpiau cymunedol, cynlluniau cyfeillio, a bydis ffôn led led Cymru gall eich helpu i siopa bwyd, a chasglu meddyginiaeth. Peidiwch ag anghofio cynnwys rhywbeth arbennig ar y fwydlen bob hyn a hyn, a thretio'ch hun i tecawê o bryd i gilydd - mae llawer o fwytai, busnesau a grwpiau cymunedol yn cynnig bwyd poeth i'ch stepen drws yn enwedig yn y cyfnod hwn.

  • Os yw'r person rydych yn gofalu amdano yn gofyn cwestiynau neu'n dangos pryder.

    Ceisiwch ymateb gyda negeseuon syml, calonogol ac ymarferol, fel "beth am i ni gael paned" neu "beth am i ni wrando ar ein hoff gerddoriaeth". Does dim amheuaeth y bydd pryderon yn cynyddu dros yr wythnosau i ddod, felly ceisiwch ganolbwyntio ar yr arferion a'r defodau bach sy'n eich helpu i ymlacio. Gadewch fynd o'r pethau na allwch eu rheoli, fel rhagweld beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, a chanolbwyntiwch ar y pethau y gallwch eu gwneud – fel cynllunio gweithgareddau yn y cartref.

  • Ceisiwch greu awyrgylch tawel a digynnwrf yn y cartref, yn enwedig gyda'r nos.

    Ar bob cyfrif, os yn bosibl, gwyliwch ffilm ar y teledu neu ar YouTube, gwrandewch ar raglenni adloniant ar y radio, cyfathrebwch â phobl rydych chi'n eu hadnabod ar y ffôn / cyfrifiadur / tabled, ond diffoddwch y newyddion o bryd i'w gilydd, yn enwedig os yw'n codi pryder. Fe allech ddod i'r arfer o ddarllen mwy, hyd yn oed darllen stori neu nofel yn uchel i'ch gilydd. Mae llyfrau llafar yn opsiwn arall - mae gan lyfrgelloedd y rhain am ddim ar-lein. Gall yr holl bethau hyn eich helpu i fwynhau'r amser yma gyda'ch gilydd.

  • Cofiwch am y pleser sydd i'w gael mewn cerddoriaeth.

    Nawr yw'r amser i greu rhestr o'ch hoff ganeuon, os nad ydych chi wedi gwneud yn barod! Beth am ddawnsio a symud i'r gerddoriaeth? Mae dawnsio'n ymarfer corff gwych – a gall godi hwyliau.

    Help i greu rhestr: www.playlistforlife.org.uk

  • Beth am syllu allan o'r ffenest gyda'ch gilydd o bryd i'w gilydd i weld beth sy'n mynd mlaen?

    Gall edrych tu allan ein helpu i deimlo' gysylltiedig ậ'r byd o'n cwmpas. Codwch law ar bobl sy'n mynd heibio, neu sylwch ar beth sy'n digwydd yn yr ardd, neu werthfawrogi golygfa braf. Gwnewch amser i eistedd ac edrych bob dydd, i chwarae rhywfaint o Bird Bingo, a sylwi ar y tymhorau'n newid. Yn y cyfnod anodd hwn, beth am roi llun o enfys yn eich ffenestr?

  • Mae hiwmor a bod yn annwyl tuag at eich gilydd yn creu awyrgylch bositif.

    Mae rhoi cwtsh i chi'ch gilydd bob hyn a hyn yn bwysicach nag erioed! Rhannwch jôcs, trefnwch rith gwtch ar-lein os gallwch chi!

  • Edrychwch ar ôl eich hunan.

    Siaradwch â ffrindiau, rhannwch eich profiadau gyda gofalwyr eraill, neilltuwch beth amser i chi'ch hun a gofynnwch am help os oes angen. Mae eich llesiant yn gwarantu lles y person rydych chi'n gofalu amdano. Byddwch yn garedig â chi'ch hun, rydych chi'n gwneud eich gorau glas. Fodd bynnag, os gallwch chi, cynlluniwch ar gyfer argyfwng: gallai fod yn help weithiau siarad â phobl y tu allan i'ch grŵp arferol, neu efallai fod angen rhywfaint o gymorth ychwanegol arnoch - darganfyddwch sut i wneud hyn, ysgrifennwch y cyfan i lawr a chadwch restr wrth law o sefydliadau neu bobl gall helpu, rhag ofn.

    Cynllunio ar gyfer argyfwng: www.mind.org.uk/information-support

    Cyngor da gan Dr Jane Mullins

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?