S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Rhieni sy’n gwahanu

Weithiau mae'n anodd i oedolion gynnal perthynas. Gall hyn olygu fod hi'n well i bobl wario ychydig o amser ar wahân, ond ambell waith gall olygu hefyd fod y berthynas yn chwalu'n gyfan gwbl.

Yn y sefyllfa yma, mae'n bwysig i chi sylweddoli mai nid eich bai chi yw hyn, bod y broblem yn un rhwng eich mam a'ch tad.

Am fwy o gyngor a help, neu os ydych isio clywed am brofiadau pobl run fath a chi yn mynd trwy pethau tebyg, gall rhai o'r dolenni yma eich helpu.

  • Meic

    Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.

  • The Mix

    Mae The Mix yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog i unrhyw un o dan 25. Mae'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i iechyd rhywiol, neu beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.

    0808 808 4994

    www.themix.org.uk

  • Family Breakups

    Gwybodaeth a chyngor wedi anelu at pobl ifanc sydd gyda rhieni'n rhannu.

  • The Parent Connection

    Gwybodaeth a cyngor ar sut i edrych ar ôl plant pan mae rhieni'n gwahanu.

  • Childline Cymru

    Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?