S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau Cystadleuaeth – Peiriant Pop Plwmp

Rheolau Cystadleuaeth – Peiriant Pop Plwmp

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Boom Cymru (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. Rhaid i ymgeiswyr fod yn oedran cynradd neu iau i gystadlu. Mae'r gystadleuaeth yn agored i unigolion, cylchoedd meithrin ac ysgolion cynradd.

3. I gystadlu mae rhaid ebostio eich hoff gân Cyw gyda neges yn egluro eich dewis at cyw@s4c.cymru

4. Bydd y Cwmni yn dewis y negeseuon gorau ac yn eu darlledu ar Dolenni Cyw ar y penwythnos. Bydd pob ymgais llwyddiannus yn derbyn pecyn o newyddau Cyw.

5. Cysylltir â'r ymgeiswyr drwy ebost os bydd eu neges a'u hoff gân yn cael ei ddarlledu. Bydd y wobr yn cael ei anfon at yr enillydd. Os na fydd hoff gân a neges y cystadleuydd yn cael ei ddarlledu, ni fydd ymgeiswyr yn derbyn pecyn o nwyddau Cyw.

6. Y wobr fydd pecyn o nwyddau Cyw. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr a nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

7. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

8. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu â chyrraedd.

9. Does dim dyddiad cau i'r gystadleuaeth.

10. Trwy gysylltu i gystadlu yn y gystadleuaeth, rydych yn ymrwymo i'r rheolau hyn.

11. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.

12. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth yna cysylltwch â Boom Cymru ar 029 20 550 550 neu Gwifren Gwylwyr S4C 0370 600 4141.

13. Os byddwch yn anfon llun(iau) fel rhan o'r neges, byddwn yn cysylltu â chi i sicrhau caniatad rhiant neu warchodwr i ddangos y llun(iau) hyn ar ddarllediad teledu, gwefan a chyfrifon cymdeithasol Cyw. Byddwn yn cysylltu ag ysgolion a chylchoedd meithrin i sicrhau bod rhiant / gwarchodwr yr holl unigolion sy'n ymddangos yn y llun wedi arwyddo polisi cyfryngau cymdeithasol a darlledu yr ysgol neu gylch meithrin. Os na fyddwn yn gallu sicrhau'r caniatadyma, ni fydd y llun yn cael ei ddangos.

14. Mae'r wybodaeth rydych yn darparu i'r Cwmni yn cael ei gasglu a'i brosesu yn unol â deddfau Rheoli Data a Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru sydd ar gael ar ein gwefan: www.boomcymru.co.uk/polisi-preifatrwydd/ neu gallwch ofyn am gopi ysgrifenedig; ynghyd â pholisi preifatrwydd S4C http://www.s4c.cymru/media/media_assets/2018.11.29_Hysbysiad_Preifatrwydd_Cyfranwyr.pdf

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?