S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau Cyw Byw

Rheolau gêm Bingo Beicio

1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Cynhyrchiadau Boom Cymru TV Cyf. (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmniau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

2. I gystadlu mae rhaid ffonio i gofrestru, ac ateb y cwestiwn sy'n cael ei osod yn wythnosol. Mae'r alwad am ddim o ffôn y tŷ ond gall gostio o ffôn symudol yn ddibynnol ar y darparwr. Rhaid i ymgeiswyr fod o dan 16 oed i gystadlu a rhaid iddynt ofyn caniatâd rhiant neu warchodwr cyn codi'r ffôn.

3. Dewisir cystadleuwyr ar hap.

4. Bydd gwobrau i'w hennill ar bob rhaglen

5. Os na fydd Boom Cymru TV Cyf. (y Cwmni) yn derbyn ymateb gan gystadleuwyr, cedwir yr hawl i ddewis cystadleuydd arall.

6. Mae pob cystadleuydd sy'n mynd trwodd i'r stiwdio yn ennill gwobr.

7. Mae llinellau yn cau am 16.50 ar ddiwrnod y darllediad ar gyfer cymryd rhan yn y rhaglen honno.

8. Ni ellir cyfnewid unrhyw wobr.

9. Nid oes dewis o arian parod yn lle gwobr.

10. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.

11. Ni chymerir cyfrifoldeb am geisiadau sy'n methu cyrraedd.

12. Dehonglir cymryd rhan yn y gystadleuaeth fel ymrwymiad i'r rheolau hyn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?