S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Adnodd Addysg Hanes Amser Maith Maith yn Ôl

Mae S4C mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn addysg sy'n cyd fynd â chyfres hanes i blant ar S4C.

Dewch i weld y cyfan ar https://ammyo.peniarth.cymru/

Mae'r pecyn, sy'n seiliedig ar y gyfres hanes Amser Maith, Maith yn Ôl yn cynnwys gwerth 100 o oriau addysgu i blant rhwng 5 a 9 oed, ac yn cefnogi'r cwricwlwm presennol a'r cwricwlwm addysgiadol newydd fydd yn cael ei gyflwyno i ddosbarthiadau yn ffurfiol yn 2022. Dyma'r tro cyntaf i becyn addysg o'r fath gael ei gynhyrchu yn y Gymraeg gyda chefnogaeth Canolfan Peniarth.

Gyda hanes Cymru yn ganolbwynt i'r cyfan, mae'r pecyn, ynghyd â holl benodau'r gyfres, ar gael i athrawon, rhieni a disgyblion ar wefan Hwb. Mae'n cynnwys 72 o weithgareddau rhyngweithiol i gyd-fynd â holl benodau Amser Maith, Maith yn Ôl ac yn ateb gofynion ar draws y cwricwlwm addysg.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?