Hafiach

Hafiach

Haf i'w Anghofio

Drama newydd. Wrth i arholiadau criw o ddisgyblion ddod i ben mae'n amser dathlu, ond wrth i'r parti fynd rhagddo mae'r criw yn cael braw wrth wneud darganfyddiad erchyll yng nghanol y tywod.

Mae'r gyfres yn cynnwys themâu aeddfed.

  • Pennod 1

    Hafiach

    Pennod 1

    Drama newydd. Wrth i arholiadau criw o ddisgyblion ddod i ben mae'n amser dathlu, ond wrth i'r parti fynd rhagddo mae'r criw yn cael braw wrth wneud darganfyddiad erchyll yng nghanol y tywod.

  • Pennod 2

    Hafiach

    Pennod 2

    Wedi darganfod y corff mae'r criw yn cwestiynu pwy yw'r bachgen a beth ddigwyddodd iddo? Mae'r heddlu'n ymchwilio ac yn holi am ran ein criw yn y digwyddiad. Yw'r bys yn pwyntio at un o'r criw?

  • Pennod 3

    Hafiach

    Pennod 3

    Mae Lefi yn cael ei wthio i fynd draw i'r ffatri i brofi nad oes ganddo ofn, ond tra yno mae Lefi ac Ela yn cael braw o ddod wyneb yn wyneb â dieithryn. All Aabis gynnig atebion i'r dirgelwch am y corff ar y traeth?

  • Pennod 4

    Hafiach

    Pennod 4

    Mae hi'n ddiwrnod penblwydd Cara ac mae'r criw am ddathlu eto! Fydd Ela yn darganfod cyfrinach Lefi a Cara wrth eu gweld yn cofleidio? Mae Noa yn wyllt wedi iddo dderbyn negeseuon pellach gan Jamie.

  • Pennod 5

    Hafiach

    Pennod 5

    Wedi datganiad yr heddlu gadarnhau beth wir ddigwyddodd i'r corff ar y traeth mae'r criw yn dechrau amau rhan Aabis yn y farwolaeth. Mae cyfeillgarwch Malik a Kelsey'n datblygu. Mae Ela'n gwylltio wrth weld Lefi a Cara yn closio unwaith eto.

  • Pennod 6

    Hafiach

    Pennod 6

    Mae diwrnod ras Lefi wedi cyrraedd ac mae ganddo lot yn mynd mlaen yn ei ben. All Lefi ddelio gyda'r pwysau a llwyddo? Mae nifer o bobl yn erbyn Lefi ar hyn o bryd, ond pwy sydd a'r broblem fwyaf gydag o ac yn barod i fynd i'r eithaf i wneud iddo ddioddef? Daw Noa wyneb yn wyneb â Jamie.

  • Pennod 7

    Hafiach

    Pennod 7

    Wedi marwolaeth Lefi, mae'r criw i gyd mewn sioc. Mae pawb yn beio eu gilydd, ond ar bwy mae'r heddlu yn edrych? Mae Kelsey a Malik yn trefnu digwyddiad i gofio Lefi ar y traeth.

  • Pennod 8

    Hafiach

    Pennod 8

    Mae'r rhwyd yn cau am Aabis ond yw'r heddlu yn edrych yn y lle cywir? Mae Noa yn cwrdd â Jamie eto ac yn cael ei siomi fwy nag erioed. Ydi brâd Jamie wedi effeithio Noa fwy nag mae neb wedi ei feddwl?