Ffermio

Ffermio

Bob nos Lun am 9 - Cyfres gylchgrawn am faterion cefn gwlad

  • Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar

    Cyfle i gydweithio a datblygu sgiliau gyda thîm Ffermio S4C

    Bydd Gwobr Goffa Dai Jones Llanilar yn rhoi cyfle i berson ifanc i weithio â’r cwmnïau cynhyrchu aml-gyfrwng Telesgop (Ffermio) a Slam (Cefn Gwlad/Y Sioe) i ddatblygu syniad gwreiddiol i fod yn eitem gyflawn, a fydd wedyn yn cael ei darlledu ar blatfformau S4C.

    I gystadlu am y Wobr, mae gofyn i unigolion o dan 30 oed gyflwyno syniad yn ymwneud â chefn gwlad neu amaethyddiaeth i gwmni Telesgop cyn 1 Hydref eleni. Gofynnir hefyd iddyn nhw sgwennu ychydig am eu hunain a pham eu bod  yn credu mai nhw ddylai dderbyn y wobr.

  • Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio y tro nesaf.

    Mwynhewch rhaglenni S4C yn fyw neu gallwch ddal i fyny ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim

    Ewch i s4c.cymru/clic/MyS4C/SignUp ble mae'n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 cam syml.

    1. Yn gyntaf, rhowch eich enw i mewn, gyda'ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.

    2. Wedyn, bydd angen dewis eich iaith, yn ogystal â chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch y botwm 'Cofrestru' a chi'n barod i wylio cynnwys ar S4C Clic!

  • Sut i wylio S4C

    Ar ba sianel deledu mae S4C? Ydy S4C ar gael ar-lein? Pa ddyfeisiau alla'i ddefnyddio i wylio S4C? Yr atebion i gyd ar un dudalen.