S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rysait Cordial Blodau'r Ysgaw

Cynhwysion

  • 2½ kg siwgr
  • 2 lemwn
  • 20 pen blodyn ysgaw
  • 85g asid sitrig

Dull

  1. Rhowch y siwgr a 1.5 litr/2 beint a ¾ o ddŵr mewn sosban fawr.
  2. Trowch y gwres i fyny heb ferwi'r gymysgedd nes bod y siwgr wedi toddi.
  3. Trowch bob hyn a hyn. Tynnwch y croen oddi ar 2 lemwn a sleisiwch nhw'n gylchoedd.
  4. Pan fydd y siwgr wedi toddi, dewch â'r hylif (fydd erbyn hyn fel surop) i bwynt berwi, ac yna troi'r gwres i ffwrdd.
  5. Llenwch bowlen golchi llestri gyda dŵr oer. Rhowch y blodau ysgawen i mewn i gael gwared ag unrhyw faw neu bryfaid.
  6. Tynnwch y blodau allan a'u hychwanegu at y surop, ynghŷd â'r lemons wedi ei sleisio, y croen a'r asid sitrig.
  7. Gorchuddiwch y sosban a'i adael am 24 awr.
  8. Rhowch liain sychu llestri glan mewn colander, a'i osod uwchben sosban fawr. Arllwyswch y surop i mewn yn araf.
  9. Gewch chi gael gwared â'r stwff sydd ar ôl yn y lliain llestri.
  10. Defnyddiwch dwmffat i lenwi poteli wedi eu diheintio (rhowch boteli gwydr yn y peiriant golchi llestri neu eu golchi gyda dŵr â sebon – Yna gadewch nhw i sychu mewn popty ar wres isel)
  11. Mae'r cordial yn barod i'w yfed yn syth. Gallwch ei gadw yn yr oergell am 6 wythnos heb iddo sbwylio. Gallech hefyd ei rewi mewn potiau plastig neu 'tray' ciwbiau iâ a'i ddefnyddio fel y mynnwch.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?