S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Picl Cucumer

Ar gyfer marinad y picl

  • 6 cucumer
  • 4 nionyn coch
  • 3/4 cwpan o halen piclo neu halen môr
  • rhew

Surop piclo

  • 750ml o finegr seidr
  • 2 gwpanaid o siwgr
  • 2 1/2 llwy fwrdd o hadau mwstard melyn
  • 1 1/2 llwy fwrdd o turmeric

Yn opsiynol ar gyfer y surop

  • 2 lwy fwrdd o bowdr garlleg
  • 2 lwy fwrdd o hadau seleri
  • chilli mâl

Dull

Paratowch y llysiau trwy dorri'r cucumerau a'r nionod coch yn gylchoedd cyn eu gosod mewn powlen fawr gyda 3/4 cwpanaid o halen piclo neu halen môr.

Wedi i chi baratoi'r llysiau, rhowch rew ar ben y gymysgedd a'i osod yn yr oergell am o leiaf 4 awr.

Er mwyn paratoi'r surop, rhowch yr holl gynhwysion mewn sosban a'i wresogi at bwynt berwi.

Cyn ychwanegu'r llysiau i'r surop, draeniwch nhw a'u rinsio gyda dŵr oer.

Arllwyswch y surop dros ben y llysiau cyn ei adael i fudferwi am ychydig.

Rhowch ddŵr berwedig yn y jariau i'w sterileiddio gan roi caead pob un mewn dŵr berw.

Arllwyswch y picl i mewn i'r jariau gwag a'u selio gyda chaead.

Er mwyn i gaead pob jar wneud ei waith, mae'n rhaid dychwelyd y jariau wedi ei llenwi i sosban o ddŵr poeth a'u berwi nhw. Mi ddylai'r dŵr fod tua modfedd uwchben pob jar. Ar ôl 15-20 munud, tynnwch nhw allan o'r dŵr. Mae'r broses o oeri yn selio'r caead.

Unwaith maen nhw wedi oeri, gallwch fynd ymlaen i'w labelu nhw. Maen nhw'n gwneud anrhegion Nadolig hyfryd, blas yr haf o Bont Y Tŵr!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?