S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cawl Shibwns

Cynhwysion

  • 4 Cwpanaid o shibwns
  • 2 Llwy fwrdd olew olewydd
  • 4 Clof garlleg
  • 2 Gwpanaid o datws
  • Halen a phupur
  • Sudd lemon
  • 6 Cwpanaid o sdoc llysiau

Dull

  1. Torrwch y shibwns yn fân, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r darn gwyrdd hefyd!
  2. Rhowch olew olewydd mewn sosban ac ychwanegu'r garlleg cyn rhoi'r nionod i mewn yn y sosban.
  3. Ychwanegwch y tatws.
  4. Gadewch i chwysu am fymryn cyn ychwanegu 6 cwpanaid o sdoc, digon i orchuddio'r llysiau.
  5. Ychwanegwch halen a phupur.
  6. Wrth i'r gymysgedd ddod i'r berw, trowch y gwres i lawr a'i goginio am tua 20 munud.
  7. Blendiwch yn fân cyn ychwanegu ychydig o sudd lemon.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?